Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
23307
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
19/05/2000  
Dyddiad Diwygio
19/05/2000  
Enw
Llyfrgell Llansawel gan gynnwys Ty’r Llyfrgell sydd ynghlwm wrth yr adeilad  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Castell-nedd Port Talbot  
Cymuned
Briton Ferry  
Tref
 
Ardal
Briton Ferry  
Dwyreiniad
274292  
Gogleddiad
194240  
Ochr o'r Stryd
E  
Lleoliad
Tua 250m i’r de o eglwys y plwyf sydd wedi'i lleoli mewn lle amlwg i’r gogledd o'r gyffordd â Heol y Graig.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Sefydliadol  
Cyfnod
 

Cyfnod
Cafodd ei hadeiladu ym 1901 (carreg sylfaen ar yr adeilad) fel llyfrgell gyhoeddus a swyddfeydd ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Llansawel. H. Alex Clarke oedd y pensaer a Thomas Waters oedd y contractwr a nhw oedd yn gyfrifol am ei hadeiladu. Roedd y llyfrgell ar lawr isa’r adeilad ac yn wreiddiol roedd yno adran fenthyca a chyfeirio ac ystafell ddarllen. Ar y llawr uchaf, roedd siambr a swyddfeydd y cyngor. Defnyddiwyd ystafelloedd y cyngor tan 1922 pan ddaeth Cyngor Dosbarth Trefol Llansawel yn rhan o Fwrdeistref Castell-nedd.  

Tu allan
Cafodd yr adeilad ei adeiladu mewn arddull pafiliwn. Mae’n adeilad dau lawr wedi ei adeiladu mewn carreg Bath gyda phum bae yn y blaen. Mae’r waliau ochr wedi eu gwneud o frics, gosodwyd ffenestri newydd yn yr agoriadau gwreiddiol, ac mae iddo lechi gyda chorn simnai brics ymhob pen. Mae pilastrau Tysganaidd yn creu fframiau i’r baeau. Mae gan y bae canolog llydan fwa eliptig ar dair lefel. Mae priflythrennau i’w gweld ar y cyntaf ac o danodd mae dau ddrws panelog gyda nodweddion wedi eu codi. Ar y ffenestr olau fach uwchben y drws gellir gweld y geiriau ‘Public Library and offices’. Ar ochr dde'r drws mae carreg sylfaen ithfaen wedi'i sgleinio. Yn y baeau allanol, mae pennau cylchrannol ar y ffenestri a phaneli cudd yn y sbandreli. Rhwng y lloriau, mae cwrs llinyn sydd wedi’i fowldio’n ddwfn. Ar y llawr uchaf, mae ffenestr oriel yn y bae canol gyda balwstrad wedi’i osod ar y wal, ac ar y baeau allanol mae pen ucha’r ffenestri yn grwn ac mae sbandreli a ffedogau panelog yno hefyd. Mae ffris addurn pen hoelen mawr islaw'r cornis a'r rhagfur. Ar y rhagfur, mae balwstrau wedi eu gosod yn uniongyrchol ar y wal dros y baeau allanol, ac ar y 3 bae canolog mae arysgrif mewn paneli wedi’u codi gyda’r geiriau 'Public Library and Council Offices' arnynt. Y tu ôl i'r rhagfur ac yng nghanol yr adeilad, mae tŵr bach sgwâr sy’n dal y cloc ac sy’n codi’n uchel uwchben y to. Mae gwaelod y tŵr yn ymledu ac mae llechi wedi’u gosod arno. Mae wyneb y clociau’n grwn ac uwch eu pennau mae ciwpola wythonglog. Ar y ciwpola, mae lwfrau ar rai ochrau a chromen bigfain ar y lleill am yn ail. Yn erbyn ochr dde’r prif adeilad, mae adain ddeulawr sydd ag un bae ac sy’n is na’r prif adeilad. Mae’r adain dalcennog hon wedi ei hadeiladu o frics gyda tho llechi a chorn simnai o frics (a gelwir ef yn Fwthyn y Llyfrgell). Yn wynebu'r blaen, mae ffenestr fae ar ogwydd ar y llawr isaf (oedd wedi'i gorchuddio â choed ar adeg yr ymweliad). Uwchlaw hynny, mae pâr o ffenestri pen crwn gyda ffenestri codi, gorchuddion cerrig a siliau, o dan dalcennig. Mae'r drws wedi ei osod yn ôl yn erbyn talcen de’r adeilad mewn porth talcennog bach. Mae gan y brif lyfrgell ffenestr pen crwn uwchlaw i’r dde ac mae’r corn simnai’n bargodi ar lefel y talcen. Wedi'i osod yn ôl yn erbyn talcen chwith y prif adeilad mae adain un llawr wedi’i wneud o frics gyda gorchuddion carreg Bath a rhagfur wedi'i atgyfnerthu. Yn wynebu'r blaen mae un ffenestr fawr ac un ffenestr fach o dan linteli (mae ffenestri newydd wedi eu gosod yn yr agoriadau oedd yno). Mae dwy ffenestr gul ar y wal chwith. Uwchben, mae’r corn simne’n bargodi ar lefel y talcen. Mae'r wal gefn mewn plastr garw. Ar y llawr uchaf, mae 5 ffenestr pen crwn gyda ffenestri codi sydd wedi’u gosod yn anghyson. Ar y llawr isaf, mae rhandtalcennog arall unllawr wedi'i osod i’r chwith o ganol yr adeilad ac mae dwy ffenestr gyda phennau cylchrannol ar y chwith.  

Tu mewn
Yn y cyntedd ar y ffordd i mewn, mae llawr teils addurnol a dau ddrws hanner gwydr gyda byrddau wedi’u cribinio o dan wydr cwarel diemwnt. Mae paneli tebyg ar bob ochr. Mae bwa eliptig uwchben troed y grisiau canolog a bondo panelog a deiliach cyfatebol. Mae cornis wedi'i fowldio yn cynnwys ffris biled. Ar y grisiau agored, mae balwstrau a physt grisiau wedi’u troi ynghyd â sgroliau wedi'u torri mewn patrwm ar du uchaf bob gris. Mae’r drysau i'r llyfrgell fenthyca ar y dde a'r drysau i lyfrgell y plant ar y chwith. Maent yn ddrysau dwbl panelog gyda gwydr yn un hanner ac ymylon rhychiog gydag addurniadau sy’n edrych fel dysgl lydan ar yr onglau islaw cornis sydd wedi'i fowldio ac sy’n cynnwyd ffris biled. Yn wreiddiol, roedd y llyfrgell fenthyca bresennol yn ddwy ystafell, ac roedd cornisiau wedi'u mowldio yn cynnwys ffrisiau biled yn y ddwy. Roedd lle tân agored ar y talcen yn y ddwy ystafell hefyd ond maent bellach wedi'u cau. Ar y grisiau, mae ffenestr pen crwn dal gyda gwydr plaen. Ar ben y grisiau ar y llawr cyntaf mae landin, drysau’n arwain at ddwy ystafell yn y blaen, ystafelloedd ar y naill ben a'r llall ac un ystafell yn y cefn. Mae fframiau’r drysau yn wreiddiol ond mae’r drysau eu hunain wedi eu diweddaru. Yr ystafell i'r chwith (Gogledd) yw Siambr y Cyngor ac mae’r addurniadau a’r dodrefn gwreiddiol yno o hyd. Mae dau le tân ar y wal dalcen gyda ffrâm carreg, pedestal gyda phrif ddesg ar gyfer swyddogion y cyngor a dwy ddesg grom gyda chadeiriau. Mae cypyrddau wedi’u mewnosod yn y cefn. Mae’r lle tân gwreiddiol yn yr ystafell i’r dde (De).  

Rheswm dros Ddynodi
Er gwaetha’r ffaith bod ffenestri newydd wedi’u gosod, mae hwn yn adeilad rhestredig gan ei fod yn adeilad cyhoeddus Edwardaidd blaenllaw sydd wedi cadw llawer o’i gymeriad gwreiddiol.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio