Tu allan
Mae prif floc y neuadd farchnad yn cynnwys trefniant uchel 2-lawr wedi’i alinio o’r gogledd i’r de, gyda bloc polygonaidd cymhleth yn estyn allan i’r gorllewin iddo. Trefniant 2-lawr is i’r gogledd. Gwaith rwbel wedi’i fras-haenu yw gwaith yr 1860au; gwaith carreg gydag wyneb-craig yw gwaith yr 1880au. Y toeon drwyddi draw yn llechi, gyda theils crib teracota i drefniant yr 1880au, sydd â bargodion brics dentinol i weddluniau’r gorllewin. Yr agoriadau wedi’u byrddio i fyny i raddau helaeth pan archwiliwyd ym mis Mawrth 2020, ond y rhan fwyaf o fanylion y gwaith coed gwreiddiol wedi’u colli.
Mae 5 bae i weddlun dwyreiniol y prif floc, y 3 bae canol yn sefyll yn nes ymlaen dan do hanner-talcennog sy’n estyn allan o’r brif linell-do, wedi’u hychwanegu, o bosib, i brif drefniant adeilad yr 1860au. Mae i’r estyniad hwn dair mynedfa ac un ffenestr i’r llawr gwaelod, 2 ffenestr uwchben. Yn y bae allanol chwith sydd wedi’i adeiladu o rwbel mae mynedfeydd yn y ddau lawr, gyda’r drysau dwbl gwreiddiol yn yr uchaf o’r ddau (o’r tu mewn gellir gweld uwch-ffenestr un paen â’i golau o’r ymylon). Y talcen gwrthdro i’r de sy’n edrych dros y rheilffordd hefyd wedi’i adeiladu o rwbel, gyda 2 ffenestr ar bob llawr (un wedi’i blocio). Mae cyswllt wedi’i adeiladu o rwbel i’r trefniant gogleddol ar y dde, gyda mynediad a ffenestr wedi’i blocio uwchben. Mae’n bosib bod hwn hefyd yn rhan o adeilad gwreiddiol yr 1860au.
Adain bolygonaidd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin gydag ymestyniad polygonaidd pellach yng nghanol ei gweddlun gorllewinol. Rhan o ail gyfnod y gwaith, tua 1880, yw hyn i gyd. Mae to’r ymestyniad hwn yn llithro i fyny i do pafiliwn bychan wedi’i orchuddio gan fratishwaith haearn bwrw. Agoriadau gyda bwâu cylchrannau bas i’r llawr gwaelod, bwa crwn uwchben. Pâr o ffenestri i lawr cyntaf y bae sy’n ymestyniad, gyda balconi addurnol bychan o haearn bwrw yn cael ei gynnal gan gorbelau carreg o danynt. Pâr o ffenestri i’r llawr gwaelod, a mynediad i’r gwrthdro llaw chwith. Mynedfeydd mawr gyda bwâu pen-crwn yn onglau ceimion yr adain bolygonaidd, manylion gwaith haearn addurnol yn goroesi mewn un ohonynt fel ffenestr linter. Dwy fynedfa ychwanegol i’r chwith yn y prif drefniant, ac un arall i fyny grisiau llechfaen gyda gweddillion canllaw mewn bloc bychan yn yr ongl rhwng y prif drefniant a’r adain bolygonaidd.
Mae i’r trefniant gogleddol isaf ffrynt 4-ffenestr yn wynebu’r gogledd. Pâr o ffenestri codi yn y llawr uchaf, ffenestri wedi’u hailosod yn y llawr isaf a mynedfa i’r chwith o’r canol dan uwch-ffenestr (wedi’i bordio i fyny pan archwiliwyd, Mawrth 2020). Mynedfa ychwanegol yn y talcen gorllewinol, y drws a’i ffrâm wedi’u mowldio’n addurnol, gyda ffenestr gyfochr a 2 ffenestr uwchben, i gyd wedi’u hailosod mewn agoriadau a oedd fwy na thebyg yn wreiddiol. Mynedfa isel sydd i’r talcen dwyreiniol gyda ffenestr godi uwchben i’r chwith, ac agoriad wedi’i flocio i’r dde.