Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87804
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II*  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
14/12/2020  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Ty Coch, melin lifio, gweithdy saer coed, rhod ddwr a pheirianwaith ynghlwm  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Powys  
Cymuned
Caersws  
Tref
Caersws  
Ardal
Pont-dôl-goch  
Dwyreiniad
300794  
Gogleddiad
293852  
Ochr o'r Stryd
N  
Lleoliad
Fe’i lleolir ar ochr ogleddol yr A470, ychydig yn uwch nag Afon Carno i’r gogledd. Mae modd cyrraedd y ty trwy ddefnyddio llwybrau o flaen a thu ôl i’r eiddo.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Domestig  
Cyfnod
Ôl-ganoloesol  

Cyfnod
Mae’n debyg bod y tŷ wedi’i godi yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys tŷ ac adeiladau fferm o dan un to. Mae’n bosibl bod gan y tŷ ffrâm bren yn wreiddiol, ond adnewyddwyd y tu blaen â brics yn y ddeunawfed ganrif. Ar adeg wahanol, datblygwyd yr eiddo o fod yn dŷ 1½ llawr i fod yn dŷ 2 lawr llawn. Mae’r eiddo wedi’i ddisgrifio fel ‘house, garden and plantation’ yn arolwg Degwm Llanwnog 1836, a’r preswylydd ar y pryd oedd David Tudor, saer troliau lleol. Ar Fap Arolwg Ordnans 1885, cyfeirir at yr eiddo fel Tŷ Coch. Mae’n debyg bod ynni dŵr wedi’i gyflwyno pan adeiladwyd melin lifio a gweithdy newydd ar onglau sgwâr i’r tŷ, a dangosir y rhain am y tro cyntaf ar Fap Arolwg Ordnans 1902. Fodd bynnag, codwyd yr adeilad presennol tua 1905 a gosodwyd y rhod ddŵr bresennol ym 1911. Fe’i defnyddiwyd fel melin lifio a gweithdy saer coed a ddefnyddiai ynni dŵr o tua 1905 tan 2005, o dan berchenogaeth teulu Owen, ac roedd yn cynhyrchu eitemau amrywiol gan gynnwys olwynion troi, berfeydd ac eirch.  

Tu allan
Mae’r tŷ wedi’i godi ar safle ar osgo ac mae ganddo du blaen dwbl â 2 lawr, wedi’u gwneud o gerrig rwbel a muriau bric, o dan do llechi sydd â stac allanol bric i’r chwith a stac terfyn i’r dde. Mae’r tu blaen wedi’i wneud o fric ar sil cerrig rwbel, wedi’i baentio’n ddu a gwyn yn yr ugeinfed ganrif, ond mae ganddo fwa gwastad rhwng y lloriau, a ffrâm bren sy’n ei fwyhau. Mae’r drws hanner panel canolog newydd wedi’i leoli mewn cyntedd â thalcen, sydd â physt pren Twsgan wedi’i wneud yn Tŷ Coch i’r Capel y Beddydwyr Caersŵs cyntaf – a wedi’i hachub ym 1887 pan gafodd yr eglwys ei hail-adeiladu. Mae’r ffenestri adeiniog â ffrâm bren wedi’u gosod tua dechrau’r ugeinfed ganrif mewn agoriadau gwreiddiol yn bennaf. Mae ganddynt bennau segmentol yn y llawr isaf, ond yn is i lawr ar yr ochr chwith gosodwyd ffenestr 3 chwarel yn yr ugeinfed ganrif. Mae gan y ffenestri ar y llawr uchaf o dan y bondo 2 gwarel, a gosodwyd ffenestr fach yn y canol tua diwedd yr ugeinfed ganrif. Lleolir popty bric ar oledd yn y talcen chwith. Mae mur y llawr isaf wedi’i wneud o gerrig rwbel, ond mae’r mur uwchben wedi’i wneud o fric. Mae cefn yr adeilad wedi’i wneud o gerrig rwbel hefyd, ac mae wedi’i baentio’n wyn. Mae ffenestri newydd wedi’u gosod mewn agorfeydd gwreiddiol sydd o dan bennau segmentol ar y dde a’r chwith yn y llawr isaf, ond o dan linteli pren ger ffenestr y grisiau canolog a’r ffenestr a osodwyd yn y lawr uchaf ar y chwith, sydd ar yr un lefel â’r bondo gwreiddiol. Mae adeiladau fferm uchel 2 agoriad wedi’u lleoli ar ochr dde’r tŷ, ond dim ond yr agoriad ar y chwith sy’n rhan gyfannol o’r tŷ. Mae gan yr adeiladau hyn du blaen â bwrdd hindraul, talcen â bwrdd hindraul a haearn rhychiog, a mur brics wedi’i rendro yn y cefn, o dan do llechi serth. Mae’r mur blaen yn cynnwys dwy ffenestr gilgant â ffrâm haearn gynt a gyfunwyd i greu ffenestr gron, y dywedir ei bod wedi’i hachub o Gapel y Bedyddwyr Caersws. Mae drws llwytho astellog uwchben y ffenestr. Ceir drws astellog â bwrdd hindraul ar oledd a ffenestr â chwarel bach yn y talcen. Mae cefn yr adeilad yn llai diddorol, gyda 2 ddrws a 2 ffenestr, ac roedd yr ochr chwith yn agor i gyntedd porthiant ac agorfa llofft. Mae’r felin lifio wedi’i chodi ar safle ar osgo ar sylfeini cerrig rwbel. Mae wedi’i gwneud o haearn rhychiog dros ffrâm bren ysgafn yn bennaf, ond mae’r mur dwyreiniol sy’n wynebu’r tŷ wedi’i wneud o waith brics wedi’i rendro, o dan do haearn rhychiog. Mae yna dair ffenestr fawr yn y mur dwyreiniol sy’n goleuo meinciau gwaith y tu mewn, gyda ffenestri 4 a 5 cwarel bach a drysau estyll dwbl ar yr ochr chwith. Ceir ffenestr cwarel bach yn yr ochr dde sy’n goleuo’r ystafell stoc, a drws astellog sy’n arwain i ystafell islaw. Ceir ffenestr cwarel bach i’r ystafell stoc yn y talcen, ac ar y dde ceir agorfa gyda chaeadau llithro a ddefnyddiwyd i basio pren yn uniongyrchol i’r fainc fewnol. Mae gan y mur gorllewinol dair ffenestr cwarel bach yn debyg i’r mur dwyreiniol. Ceir olwyn yrru yn y canol i drosglwyddo pŵer tractor. Mae'r rhod uwchredol wedi’i gosod uwchben cafn olwyn carreg sy’n agored ar un pen. Mae’r olwyn wedi’i gwneud o haearn bwrw ac mae ganddi fwcedi dur gwasgedig newydd. Cafodd yr olwyn ei bwrw ar gyfer J. Davies o Dolgoch, Llanbrynmair, gan Ffowndri’r Eryr yn Aberystwyth, ac mae symbol siâp calon y cwmni i’w weld ar y brif echel. Mae pŵer yn cael ei drawsyrru trwy ddefnyddio gêr cylch a siafft yrru sy’n pasio dros yr iard ac i mewn i’r adeilad. Ailadeiladwyd y lander dŵr sydd wedi’i gwneud o bren yn y 1980au, ac mae sianel ddŵr cobls fer gerllaw.  

Tu mewn
Mae gan y tŷ ddwy uned, ac mae’r naill a’r llall wedi cadw trawstiau mawr gydag atalfeydd ffo, a distiau. Yng nghanol y neuadd, ceir lle tân mawr a gwaith addurno o’i gwmpas a gwblhawyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r drysau astellog wedi cadw eu colfachau strap gwreiddiol. Ceir grisiau troellog pren gyferbyn â’r fynedfa, gyda balwstrau plaen ac ystlys ar ben y grisiau. Ar y llawr cyntaf, ceir parwydydd ffrâm bren â phaneli sgwâr plethwaith a chlai sy’n ddiamddiffyn yn rhannol, gan ddangos codiad gwreiddiol y to. Mae grisiau bric modern yn arwain i lawr at y seler sydd â llawr teils, mainc lechi a ffynnon. Ceir ffwrn fara â drws haearn bwrw yn y popty. Mae rhan o adeilad y fferm wedi’i throi’n gegin ar y llawr gwaelod, ac roedd y gweddill yn arfer bod yn feudy bach. Mae’r beudy yn cynnwys corau gwartheg pren a chafn porthiant wedi’i leinio â theils. Mae’r cyntedd porthiant wedi cadw llawr pridd wedi’i hyrddu. Mae gan yr adeiladau fferm 2 gilfach, a gellir gweld o’r tu mewn mai dim ond y gilfach wrth ymyl y tŷ sy’n gilfach wreiddiol. Rhennir y cilfachau gan wahanfur ffrâm bren, sydd wedi cadw un o’i gynheiliad lletraws o dan yr apig, sy’n agored, a 2 groeslath ffos ar bob ochr. Ymddengys fod y rhain wedi’u torri neu eu terfynu, gan ddangos bod y gilfach allanol, a godwyd ar yr un pryd â’r felin lifio, naill ai wedi’i hailadeiladu neu ei hychwanegu at yr adeilad gwreiddiol. Gellir gweld y gwahanfur ffrâm bren â phaneli sgwâr rhwng y tŷ a’r adeiladau fferm yn y llawr uchaf, sy’n cynnwys ffliw allanol brics ychwanegol. Mae’r felin lifio wedi cadw ei pheiriannau gwreiddiol a llawr pridd wedi’i hyrddu. Gyriannau gwregys sy’n gyfrifol am ddarparu ynni. Ar ochr orllewinol y felin, mae mainc rac yn ymestyn ar hyd rhan fwyaf yr adeilad, ac mae llafnau llif gron amrywiol â dimensiynau gwahanol ar gael iddi. Mae olwyn lifanu, cylchlif a thurn yn cael eu gyrru gan yriannau gwregys hefyd. Ceir meinciau gyda feisiau ar ochr dde’r adeilad. Mae grisiau’n arwain i fyny at ystafell stoc, sydd wedi cadw ei chypyrddau gwreiddiol gyda cholomendyllau.  

Rheswm dros Ddynodi
Ty Coch, melin lifio, gweithdy saer coed, rhod ddwr a pherianwaith ynghlwm wedi’i restru oherwydd ei diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ar radd II* oherwydd eu oroesiad eithriadol fel melin lifio a gweithdy saer coed gwledig cyflawn cwbl weithredol sy’n defnyddio ynni dŵr. Mae ynghlwm wrth dŷ a godwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg mae’n debyg, sydd wedi cadw nodweddion mewnol ac allanol arwyddocaol o’r cyfnod rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio