Tu allan
Wedi'i hadeiladu o rwbel calchfaen a gloddiwyd yn lleol, o dan do llechi, mae gan yr ysgubor ydlofft a chertws yn y pen gogleddol, a stablau â llofft uwchben a chertws ar ongl sgwâr yn y pen deheuol. Mae gan yr ysgubor ddrysau nithio yn hytrach na chilfachau wagenni, sydd, yn y wal ddwyreiniol i'r iard, â phen segmentol brics, gyda drysau llwytho llofft y naill ochr a'r llall o dan y bondo, a chyda drws segmentol arall ar yr ochr dde. Ymhellach i'r dde mae grisiau carreg allanol, sy'n cynnwys cwt ci, i ddrws yr ydlofft, sy'n ddrws astellog o dan y bondo, gydag agoriad arall i'r dde ohono. Isod ceir lintel pren llydan i'r hen gertws, ond ers hynny mae'r agoriad wedi'i lenwi gyda gwaith maen a drws astellog culach.
Yn wal orllewinol yr ysgubor mae'r drws nitho wedi'i integreiddio gyda drws llwytho uwchben, ac mae drysau llwytho pellach a stribedi awyrellu'r naill ochr a'r llall. I'r chwith o'r drws mae penty haearn rhychiog sy'n gartref i fodur a roddwyd yno ar ôl 1945 i bweru'r peiriannau godro. Heb fod wedi'i gysylltu â'r adeilad mae'r slab carreg oedd yn cynnal echel injan geffylau sydd wedi'i farcio ar fap OS 1880. I'r chwith o'r ysgubor mae toriad gweladwy yn y gwaith maen rhwng yr ysgubor a'r ydlofft/certws. Mae agoriad llofft yng nghefn yr ydlofft, ac oddi tano mae bwlch drws i'r certws.
Mae'r stablau a'r certws ar ongl sgwâr i'r ysgubor, gan roi cynllun siâp L cyffredinol. Adeilad fferm gyda llofft ydoedd yn wreiddiol, ond mae bellach yn dŷ deulawr gyda ffenestri modern, wedi'u mewnosod yn yr agoriad gwreiddiol gan mwyaf. Mae toriad clir yn y gwaith maen sy'n dangos maint yr ysgubor wreiddiol. Mae'r hen gertws yn estyn allan ymhellach ar ochr ddwyreiniol yr ysgubor ac yn ffurfio ochr ddeheuol buarth y fferm. Yn ei wal ogleddol mae dwy gilfach lydan i gerti gyda bwâu fflat, a ffenestr a bwlch drws o dan bennau segmentol, pob un â charreg fwa, islaw 3 hen agoriad i'r llofft sydd bellach wedi'u troi'n ffenestri. Mae agoriad arall i'r llofft sydd wedi'i newid yn y talcen dwyreiniol, o dan ben segmentol carreg, ac mae ffenestr o dan y bondo yn y wal ddeheuol. Roedd darn is oedd yn estyn allan o'r wal ddeheuol yn agored yn wreiddiol yn ei du blaen ar yr ochr ddwyreiniol ond mae wedi'i gau ac mae ganddo ddrws a ffenestr fodern. Yn ei dalcen mae agoriad llofft wedi'i gau o dan lintel pren. I'r chwith o'r darn hwn sy'n estyn allan mae gan yr hen stablau ffenestri bwa brics modern yn ei wal ddeheuol a'i dalcen gorllewinol, a ffenestri modern yn y to, ond mae hen agoriad llofft â phen segmentol carreg yn y talcen.