Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87815
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
17/12/2020  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Beudy yn Fferm Pen-y-Graig  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Ddinbych  
Cymuned
Llanfair Dyffryn Clwyd  
Tref
Ruthin  
Ardal
Pentre-celyn  
Dwyreiniad
313136  
Gogleddiad
352658  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar ochr dde-orllewinol y ffermdy.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Amaethyddiaeth a Chynhaliaeth  
Cyfnod
Fictoraidd  

Cyfnod
Beudy o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd yn ail hanner y ganrif honno ac a ddangoswyd gyntaf ar fap Arolwg Ordnans 1880. Ychwanegwyd rhes gyfochrog at y cefn ar ôl 1945. Yn wreiddiol, roedd y beudy'n hirach, ond cafodd y pen deheuol ei ddymchwel, tua diwedd yr ugeinfed ganrif mae'n debyg.  

Tu allan
Beudy â llofft wedi'i adeiladu o rwbel calchfaen wedi'i gloddio'n lleol o dan do llechi, ac agoriadau o dan linteli pren. Yn wynebu'r iard i'r dwyrain mae 3 drws uchder llawn, a rhyngddynt mae ffenestri â fframiau metel wedi'u mewnosod mewn agoriadau gwreiddiol. Yn y talcen chwith (deheuol) mae wal isel o ran o'r adeilad a gafodd ei ddymchwel, ac yn y talcen mae ffenestr â ffrâm fetel mewn agoriad gwreiddiol. Mae brics yn amgylchynu ffenestr llofft debyg yn y talcen gogleddol. Mae'r rhes gyfochrog yn y cefn wedi'i hadeiladu â brics gyda choncrid nadd, o dan do o ddalenni sment asbestos rhychiog. Yn y wal orllewinol mae 3 bwlch drws uchder llawn gyda drysau astellog wedi'u rhannu. Yn y talcen deheuol mae drws astellog ac mae ffenestr llofft yn y ddau dalcen.  

Tu mewn
Yn y rhes wreiddiol mae un trawst gyda thynlath wedi'i llifio a phwyslathau ar oleddf.  

Rheswm dros Ddynodi
Rhestrwyd fel adeilad fferm o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n cadw cymeriad cynnar, ac am werth grŵp gyda'r ffermdy ac eitemau rhestredig cysylltiedig eraill, gan gyfrannu at ddatblygiad sylweddol y fferm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio