Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.
Dyddiad Dynodi
17/12/2020
Enw
Sied Wair yn Fferm Pen-y-Graig
Awdurdod Unedol
Sir Ddinbych
Cymuned
Llanfair Dyffryn Clwyd
Lleoliad
Ar ochr dde-orllewinol y ffermdy ac i'r gorllewin o'r ysgubor.
Cyfnod
Adeiladwyd yn fuan ar ôl 1945.
Tu allan
Sied wair pum cilfach ar ôl y rhyfel o bileri brics ar waelodion concrit, a tho haearn rhychiog. Mae gan ran o'r wal orllewinol gladin o ddalenni haearn rhychiog hefyd. Mae gan y trawstiau to wedi'u llifio dynlathau â phwyslathau ar oleddf.
Rheswm dros Ddynodi
Rhestrwyd fel enghraifft sydd wedi'i chadw'n dda o fath cyffredin o adeilad fferm o'r ugeinfed ganrif, ac am werth grŵp gyda'r ffermdy ac eitemau rhestredig cysylltiedig eraill.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]