Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:
Dyddiad Dynodi
17/12/2020
Enw
Tŷ Bach, Fferm Pen-y-Graig
Awdurdod Unedol
Sir Ddinbych
Cymuned
Llanfair Dyffryn Clwyd
Lleoliad
Yn yr ardd yng nghefn (gogleddol) y ffermdy.
Cyfnod
Mae Tŷ Bach wedi'i nodi ar fap OS 1880 yng nghefn yr ardd y tu ôl i'r tŷ.
Tu allan
Strwythur cerrig rwbel syml o dan do llechi, gyda drws astellog yn wynebu'r de.
Tu mewn
Mae gan y tu mewn lawr concrit ond mae ei sedd bren a'i gorchudd gwreiddiol yno o hyd.
Rheswm dros Ddynodi
Rhestrwyd ar gyfer gwerth grŵp gyda'r ffermdy ac eitemau rhestredig cysylltiedig eraill, gan gyfrannu'n arbennig at ddatblygiad y fferm tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]