Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.
Dyddiad Dynodi
06/07/2023
Awdurdod Unedol
Sir Ceredigion
Lleoliad
Ffermdy anghysbell rhyw 11km i’r Dwyrain o Landdewi Brefi, sy’n cael ei gyrraedd ar hyd lôn fferm ar ochr Orllewinol isffordd o Dregaron i Soar y Mynydd.
Dosbarthiad bras
Domestig
Cyfnod
Mae mapiau yr Arolwg Ordnans hanesyddol yn dangos fod y tŷ presennol wedi ei adeiladu rhwng 1888 a 1904, ynghyd â’r grŵp cyfagos o adeiladau fferm a drefnwyd o gwmpas tair ochr o’r buarth. Roedd y tŷ a’r adeiladau yn disodli fferm fechan gynharach ar ochr Dde’r nant, a oedd yn cael ei dangos ar Fap Degwm trefgordd Doithie Camddwr ym 1842.
Tu allan
Tŷ 2-lawr 3-bae yn y traddodiad Sioraidd gwerinol. Gro-chwipio dros gerrig gyda tho llechi a chyrn simdde o frics ar y talcenni. To catslide dros yr ychwanegiad yn y cefn. Mae agoriadau’r prif weddlun i’r ochr Dde o’r canol. Felly hefyd y drws sydd dan uwch olau ac, yn y llawr gwaelod, wedi’i ystlysu gan ffenestri-codi 6-chwarel gyda ffenestri tebyg wedi’u halinio uwchben. Ychwanegiad brisblociau yr G20 i’r chwith.
Tu mewn
Ni chafodd ei archwilio, ond gellid disgwyl cegin gyda mantell simdde fawr i’r chwith a pharlwr bach i’r dde o’r grisiau ar y llawr gwaelod ac ystafelloedd cysgu uwchben. Mae i’r gegin lawr teils chwarel du.
Rheswm dros Ddynodi
Rhestredig fel ffermdy o ddiwedd y G19 mewn cyflwr da wedi cadw ei gymeriad a’i fanylion; enghraifft ddiweddar ryfeddol o dda o’r traddodiad Sioraidd gwerinol a barhaodd yng ngorllewin Cymru trwy gydol y G19.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]