Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87842
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
16/02/2022  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Pont dros Nant Melyn  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Gaerfyrddin  
Cymuned
Llanddeusant  
Tref
 
Ardal
Llyn y Fan Fach  
Dwyreiniad
280089  
Gogleddiad
223760  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ger y cydlifiad ag Afon Sawdde tua 1.8 cilomedr i’r Gogledd o argae cronfa ddwr Llyn y Fan Fach, i’w chyrraedd ar hyd isffordd a llwybr preifat 2.5 cilomedr i’r De-ddwyrain o bentref Llanddeusant.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
 
Cyfnod
 

Cyfnod
Llyn mewn cwm rhewlifol yw Llyn y Fan Fach a gafodd ei addasu’n gronfa ddŵr gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli. Roedd Llanelli wedi tyfu’n gyflym yn y 19eg ganrif yn sgil datblygiad diwydiannol ac roedd yn dioddef amodau glanweithdra ofnadwy. Aseswyd nifer o safleoedd ar ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau’r 20fed ganrif, a phenderfynwyd mai Llyn y Fan Fach oedd fwyaf addas o ran darparu cyflenwad dŵr ar gyfer y dref. Roedd angen Deddf Seneddol, a chafodd honno’i phasio ym 1912. Penodwyd peirianwyr a rhoddwyd contractwyr ar waith. Dechreuodd y gwaith ar y safle uwchben Llanddeusant ym 1914, gan gyflogi 175 o weithwyr Gwyddelig i ddechrau, a oedd yn lletya mewn gwersyll o ddau farics pren ar y safle, yn agos i leoliad y man sy’n faes parcio ar gyfer Llyn y Fan Fach erbyn hyn. Erbyn 1916, roedd y prosiect yn wynebu anawsterau o ran cadw’r gweithlu gwreiddiol yn yr amgylchedd ucheldir heriol ac ynysig hwn. Gwnaeth Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli gais i’r Swyddfa Ryfel a’r Swyddfa Gartref am lafur gan garcharorion rhyfel ac estroniaid caethiwedig, ond fe’i gwrthodwyd. Cwblhawyd y prosiect gan ddefnyddio gwrthwynebwyr cydwybodol. Dan Ddeddf Gwasanaeth Milwrol 1916, roedd pob dyn rhwng 18 a 41 oed yn gorfod ymuno â’r fyddin, gyda rhai eithriadau, gan gynnwys y rhai a oedd, ym marn y tribiwnlysoedd lleol, yn wrthwynebwyr cydwybodol – dynion a oedd, am resymau ideolegol neu grefyddol, yn gwrthod ymladd. Yn ymarferol, ychydig o ddynion a oedd yn cael eu heithrio’n llwyr o wasanaeth milwrol, gyda’r mwyafrif yn cael eu gorfodi i ymuno â chatrodau’r fyddin. Roedd y dynion a oedd yn gwrthod llofnodi papurau’r fyddin, neu wisgo’r lifrai milwrol ar ôl cael eu hanfon i farics, yn cael eu carcharu. Ym mis Gorffennaf 1916, cyflwynodd y Swyddfa Gartref gynlluniau a fyddai’n rhyddhau’r gwrthwynebwyr cydwybodol hyn o’r carchar i wneud gwaith sifilaidd, oedd yn waith corfforol caled mewn gwersylloedd gwaith penodol gan mwyaf. Sefydlodd y Swyddfa Gartref bedwar gwersyll gwaith yng Nghymru: yn Llanddeusant; Llannon (a oedd hefyd yn rhan o brosiect Gwaith Dŵr Dosbarth Gwledig Llanelli ac a gaewyd ym mis Awst 1917); Penderyn (Rhondda Cynon Taf), lle yr adeiladwyd cronfa ddŵr i gyflenwi dŵr i Aberpennar; a Thalgarth (Powys), lle y defnyddiwyd gwrthwynebwyr cydwybodol i osod prif linell ddŵr ar gyfer sanatoriwm newydd. Dechreuodd gwrthwynebwyr cydwybodol gyrraedd Llanddeusant ym mis Medi 1916, dynion o ogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr yn bennaf a oedd wedi’u carcharu yng ngharchardai Caerdydd a Llanelli. At ei gilydd, defnyddiwyd carfan sylweddol o oddeutu 200 o wrthwynebwyr cydwybodol ar wahanol adegau yn Llanddeusant, y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn y barics a oedd yno eisoes, ynghyd ag ysbyty (dymchwelwyd yr holl adeiladau ar ôl cwblhau’r gwaith, a chofnodwyd y gweddillion yn ystod gwaith maes archaeolegol yn 2017). Roedd y dynion yn gweithio ar adeiladu’r argae a’r gwaith dŵr cysylltiedig, gyda’r gwaith crefftus yn cael ei wneud gan seiri maen proffesiynol. Roedd tua 30 o ddynion yn Llanddeusant yn gweithio ar y gronfa ddŵr a’r tŷ falfiau yn Llannon hefyd. Ar ôl arwyddo’r Cadoediad ym mis Tachwedd 1918, dechreuodd y gwaith dadfyddino yn y DU ym mis Ionawr 1919, ac roedd wedi’i gwblhau i raddau helaeth erbyn mis Chwefror 1922. I ddechrau, cadwyd gwrthwynebwyr cydwybodol yn y ddalfa gan y Swyddfa Gartref i roi’r cyfle cyntaf i gyn-filwyr ddod o hyd i waith rheolaidd ar ôl y rhyfel, ond roedd y rhan fwyaf wedi’u rhyddhau erbyn mis Mai 1919. Er bod y rhan fwyaf o’r gwaith corfforol caled wedi’i gwblhau yn Llanddeusant erbyn 1918, mae’n debygol bod y rhaglen waith wedi’i chwblhau (yn 1921) gan sifiliaid a oedd newydd adael y fyddin mewn gwirionedd. Roedd y cynllun ar waith tan 1967, ac mae’n cael ei reoli gan Dŵr Cymru fel cyflenwad dŵr wrth gefn erbyn hyn. Mae’r gwaith yn cynnwys system integredig o reoli dŵr gydag amrywiaeth o strwythurau a gwaith peirianyddol i gasglu, dal a rhyddhau dŵr. I ategu ffynonellau naturiol o ddŵr sy’n llifo i’r llyn rhewlifol, mae ffrwd yn sianelu dŵr daear o lefel uwch ar yr Afon Sychlwch, gyda chymorth argae. Mae adran orllewinol y ffrwd, lle mae’n cyrraedd yr argae, yn sianel wedi’i leinio â cherrig ac mae’n llifo i’r llyn ar bwynt lle mae’r lefel yn cael ei rheoli gan argae uwch. Codwyd uchder y dŵr yn y llyn rhewlifol 10 troedfedd drwy adeiladu argae concrid. Mae adeilad carreg wedi goroesi ar wyneb gogleddol yr argae, a arferai gael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith gweithredol o reoli’r gwaith dŵr. Mae seiliau concrit adeiladau eraill nad yw eu defnydd yn hysbys wedi’u lleoli gerllaw. Rheolir lefel y dŵr gan slipffordd ar y prif argae ac allfa oddeutu 75m i’r gogledd o’r argae. Ychydig yn is na’r allfa mae tŷ falfiau, strwythur cerrig gyda siambrau a gafodd ei gynllunio fel dull ychwanegol o reoli llif y dŵr i lawr yr afon. Fe’i disodlwyd pan osodwyd pibelli i gludo’r dŵr i gyd. Mae gweithiau pellach wedi’u lleoli i lawr yr afon i reoli llif y dŵr cyn iddo gyrraedd y gwelyau hidlo a’r tŷ falfiau. Ar y pwynt hwn, roedd agregau’n cael eu hidlo allan o’r dŵr a’r llif yn cael ei reoleiddio ymhellach. Mae nodweddion tirwedd cysylltiedig eraill wedi goroesi hefyd, a grëwyd fel rhan o’r system rheoli dŵr, gan gynnwys: ffyrdd, gwrthgloddiau cerrig a choncrid, tomenni gwastraff, strwythurau gweithdy a storfa, seiliau concrid ar gyfer adeiladau, coredau, tanciau, basnau gwahanu, pontydd a cheuffosydd wedi’u lleoli o’r argae i lawr. Nodwyd y rhain gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ystod gwaith maes yn 2017 ac fe’u cofnodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Mwy na thebyg bod y bont wedi’i hadeiladu erbyn 1916; mae braslun pensel, dyddiedig 1916, gan F. Kitchen, un o’r gwrthwynebwyr cydwybodol oedd yn gweithio yn y gwersyll, yn dangos pont ddau-fwa yn y lleoliad hwn.  

Tu allan
Pont ddau-fwa o gerrig rwbel gyda rhagfuriau/pharapetau a slabiau copa mawr, bwâu cylchrannol isel rhwng pileri isel, a gyda thorddwr ar ffurf V yn y canol. Mae’r pentanau/cynaliadau’n gogwyddo allan ryw gymaint. Mae cwrs y dŵr wedi’i lorio/balmantu â cherrig.  

Tu mewn
 

Rheswm dros Ddynodi
Rhestredig oherwydd diddordeb pensaernïol arbennig fel rhan o gynllun peirianneg dinesig sylweddol i gyflenwi dŵr i Lanelli ac sydd wedi goroesi’n gyfan; a diddordeb hanesyddol arbennig yn sgil cyflogi gwrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar waith o bwysigrwydd cenedlaethol ond nad oedd yn ymwneud â’r rhyfel; ac ar gyfer gwerth grŵp gydag argae’r gronfa ddŵr, y tŷ falfiau a gwelyau hidlo.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio