Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87843
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
08/04/2021  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Canolfan Encil Cristnogol Ffald y Brenin  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Benfro  
Cymuned
Cwm Gwaun  
Tref
 
Ardal
Pontfaen  
Dwyreiniad
204731  
Gogleddiad
235216  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
I’w chyrraedd trwy ddilyn lôn breifat ar ochr Ogleddol isffordd rhwng Pontfaen a Chilgwyn, rhyw 2.4 cilometr i’r Gogledd-ddwyrain o Bontfaen.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
 
Cyfnod
 

Cyfnod
Prynwyd fferm Sychbant ym 1984 gan Peter a Phyllida Mould, gyda’r bwriad o sefydlu canolfan encil Gristnogol anenwadol. Ymgymerwyd â’r dasg o drawsnewid adeiladau’r fferm rhwng 1985 a 1988 gan Christopher Day. Cododd Day ran o’r waliau, ychwanegodd gapel ar y pen Gogleddol ac ailwampiodd y tu mewn. Roedd Christopher Day yn arloeswr eco-bensaernïaeth, yn awyddus i gefnu ar arddulliau a deunyddiau wedi’u masgynhyrchu er mwyn codi adeiladau ag iddynt arddull frodorol yn gweddu i’w hamgylchedd gyda manylion wedi'u saernïo â llaw. Wedi dod dan ddylanwad syniadau Anthroposoffeg Rudolf Steiner, roedd am greu amgylcheddau a fyddai’n meithrin yr enaid ac yn porthi’r ysbryd. Roedd Day wedi’i hyfforddi mewn cerfluniaeth yn ogystal â phensaernïaeth, ac wedi symud i Sir Benfro ym 1972 lle dechreuodd ar ei yrfa fel pensaer. Tai preifat oedd mwyafrif ei gomisiynau yng Nghymru; ei brosiectau mwyaf oedd Ysgol Rudolf Steiner ym Maenclochog a Chanolfan Encil Gristnogol Ffald y Brenin. Yma gallodd Day wireddu ei uchelgais ‘to design projects which develop and enhance the spirit of place already there so that the new is not an imposition, but an organic development of the old’.  

Tu allan
Rhes hir o adeiladau ar safle llethrog wedi’u trawsnewid i ganolfan encil un llawr a hanner, gyda chapel crwn ar y pen Gogleddol yn cael ei wahanu oddi wrth y prif adeilad gan rodfa dan do. Waliau o gerrig rwbel yw rhai adeilad yr hen fferm, ond maent wedi’u hatgyweirio a’u codi’n uwch yn ddetholus, gan ddefnyddio cerrig heb eu chwarelu yn bennaf i greu llinell do donnog. Mae’r to wedi’i orchuddio â llechi, gyda ffenestri to a thri chorn simdde ar ffurf garneddog wedi’u codi o gerrig maes. I osgoi camau sydyn yn llinell y to, mae’r gwahanol lefelau wedi’u cysylltu â rhannau ar ogwydd. Mae i’r capel do conigol. Mae’r agoriadau dan fwâu brics cylchrannog, er mai pennau trapesoidaidd sydd i’r mwyafrif o’r ffenestri a’r drysau, ac mae gan y ffenestri casment pren siliau llechfaen. Ar yr ochr Ddwyreiniol mae 6 ffenestr o wahanol faint i’r Dde o gyntedd sydd mewn ychwanegiad atodol ffasedog, tra i’r Chwith o’r cyntedd mae’r wal wedi’i gorchuddio’n rhannol â llechi ac mae 2 stribed awyru o’r hen dŷ allan yn dal i fod ar boptu’r drws hanner-gwydr. Mae gan grib y tair ystafell gysgu gyrsiau ar ogwydd i leihau effaith yr ongl lem. Ar yr ochr Orllewinol, yn wynebu’r hen fuarth, mae 2 ddrws hanner-gwydr a 9 ffenest gasment o wahanol faint, un ohonynt o fewn hen fynedfa wedi’i chau. Mae yna ffenestr ystafell gysgu ar ffurf ‘ael’ a ffenestr atig fach ychwanegol i’r Dde ohoni dan y bargod. Ar y pen disgynnol mae grisiau carreg allanol wedi’u lapio o gwmpas yr ongl Dde-orllewinol, yn arwain i falconi sy’n rhoi golygfeydd godidog dros Gwm Gwaun, a drws hanner-gwydr i lawr yr atig. Ar y pen esgynnol mae’r capel, sydd â ffenestri Gogleddol triphlyg pennau-crwn (i bob pwrpas, y pen Dwyreiniol litwrgaidd) a 2 ffenestr ar yr ochr Orllewinol a’r ochr Ddwyreiniol. Mae gan y drws pren solet ar ochr Ddeheuol y rhodfa golynnau strap crwm, o bosib wedi’u hail-ddefnyddio.  

Tu mewn
Mae’r tu mewn wedi’i isrannu gyda pharwydydd sydd yn fwriadol wedi’u bras-blastro ac â gorffeniad gwyngalchog, i feddalu’r arwynebau llyfn a’r onglau llym. Mae tri o’r drysau’n wreiddiol ac iddynt bennau trapesoidaidd, ac maent wedi cadw’u cliciedi bawd sydd wedi’u cerfio â motiff trwmped a thelyn. Drysau mwy newydd yw’r drysau eraill i fodloni safonau diogelwch tân. Mae’r tu mewn ar y pen disgynnol wedi’i rannu i borthdy, gyda mynedfa ar wahân ac yn wreiddiol wedi’i fwriadu ar gyfer warden, llety i westeion, a chapel. Mae rhodfa letraws ar y llawr gwaelod yn torri i fyny unedau’r adeilad a fyddai fel arall yn hirsgwar, sydd ag ystafelloedd i westeion a chyfleusterau ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod. Mae grisiau syth gydag ochr allan gaeedig, hefyd wedi’u gosod yn lletraws o fewn yr adeilad, yn arwain i lawr yr atig lle mae ystafelloedd cyffredin a mwy o ystafelloedd gwesteion. Yn yr ystafell gyffredin, mae yna le tân ar draws yr ongl Ogledd-ddwyreiniol, ac mae cerrig maes crynion o’i gwmpas yn ei fframio. Mae tu mewn y capel wedi’i blastro mewn dull tebyg i’r gweddill, dan nenfwd isel crwm wedi’i wyngalchu. Nid oes dodrefn yn y capel, dim ond meinciau o gwmpas yr ochrau. Yn y canol mae craig frig debyg i allor fawr, sy’n ymddangos fel petai’n codi allan o lawr llechi sydd fel arall yn anwastad.  

Rheswm dros Ddynodi
Mae Ffald y Brenin yn waith pwysig o eco-bensaernïaeth o ddiwedd yr 20fed ganrif gan un o’i dehonglwyr mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae’n arbennig o nodedig oherwydd ei ddefnydd o ddeunyddiau y cafwyd hyd iddynt, harmoni ei ffurfiau naturiol fel y graig frig yn y capel a’r gwaith cerrig haenog garw, ac fel datblygiad organaidd o adeilad hŷn, i gyd yn nodweddiadol o waith Day.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio