Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87844
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
08/04/2021  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Canolfan Ddydd yn Ganolfan Encil Cristnogol Ffald y Brenin  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Benfro  
Cymuned
Cwm Gwaun  
Tref
 
Ardal
Pontfaen  
Dwyreiniad
204734  
Gogleddiad
235183  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar ochr Ddeheuol y brif ganolfan.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
 
Cyfnod
 

Cyfnod
Prynwyd fferm Sychbant ym 1984 gan Peter a Phyllida Mould, gyda’r bwriad o sefydlu canolfan encil Gristnogol anenwadol. Ymgymerwyd â’r dasg o drawsnewid adeiladau’r fferm rhwng 1985 a 1988 gan Christopher Day. Cododd Day ran o’r waliau, ychwanegodd gapel ar y pen Gogleddol ac ailwampiodd y tu mewn. Roedd Christopher Day yn arloeswr eco-bensaernïaeth, yn awyddus i gefnu ar arddulliau a deunyddiau wedi’u masgynhyrchu er mwyn codi adeiladau ag iddynt arddull frodorol yn gweddu i’w hamgylchedd gyda manylion wedi'u saernïo â llaw. Wedi dod dan ddylanwad syniadau Anthroposoffeg Rudolf Steiner, roedd am greu amgylcheddau a fyddai’n meithrin yr enaid ac yn porthi’r ysbryd. Roedd Day wedi’i hyfforddi mewn cerfluniaeth yn ogystal â phensaernïaeth, ac wedi symud i Sir Benfro ym 1972 lle dechreuodd ar ei yrfa fel pensaer. Tai preifat oedd mwyafrif ei gomisiynau yng Nghymru; ei brosiectau mwyaf oedd Ysgol Rudolf Steiner ym Maenclochog a Chanolfan Encil Gristnogol Ffald y Brenin. Yma gallodd Day wireddu ei uchelgais ‘to design projects which develop and enhance the spirit of place already there so that the new is not an imposition, but an organic development of the old’.  

Tu allan
Adeilad un llawr ar ffurf U, gyda waliau sydd wedi gweld dyddiau gwella a adeiladwyd o gerrig rwbel y cafwyd hyd iddynt neu a gafodd eu hail-ddefnyddio, dan do llechi. Mae’r agoriadau naill ai yn cyrraedd lefel y bondo neu o dan bennau o frics cylchrannog, er mai pennau trapesoidaidd sydd i’r ffenestri a’r drysau eu hunain. Yn wynebu’r prif adeilad i’r Gogledd mae esgyll allanol byr ymledol sy’n ystafelloedd storio gyda drysau o lawn-uchder ac mae’r rhan ar y llaw Chwith wedi’i fframio gan golofn hen glwyd. Mae gan y prif adeilad ffenestr i’r Dde sydd wedi cymryd lle drws cynharach ac mae’r fynedfa wedi’i naillochri mewn cyntedd cilfachog ar ongl â’r adain Chwith. Mae wedi’i osod ar bostyn pren afreolaidd ac mae iddo ddrysau i’r ddwy brif ystafell. Ar yr ochr Ddeheuol mae’r adeilad yn ymestyn i’r cae cyfagos, ar waelod gyda rhagfur sy’n estyn allan. Mae pob arwyneb wedi’i drin yn wahanol ond mae’r ffenestri wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’r olygfan sy’n edrych i lawr dros Gwm Gwaun. Mae i’r arwyneb Deheuol ffenestr lydan dri-golau o dan dalcen tŷ i’r Dde. Yn y wal Dde-ddwyreiniol mae hanner-ffenestr ystafell gysgu dri golau gyda phroffil to ffasedog, ac yn y wal Dde-orllewinol mae ffenestr lydan dri-golau arall o dan y bondo a drws llawn-uchder.  

Tu mewn
Mae’r tu mewn wedi’i rannu’n ddwy brif ystafell yn ogystal ag ystafelloedd storio yn yr esgyll. Mae i’r prif ystafelloedd waliau gwyn a thrawstiau to sgwâr.  

Rheswm dros Ddynodi
Rhestrwyd fel gwaith eco-bensaer blaengar yn gweithio yng Nghymru, yn arddangos nodweddion arbennig iddo ef, fel defnydd o ddeunyddiau y cafwyd hyd iddynt ac am ganiatáu i’r adeilad ymdoddi i’w amgylchedd trwy ei ymestyn i gae o borfa arw, ac am werth grŵp gyda’r brif Ganolfan Encil.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio