Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87845
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
08/04/2021  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Y Meudwy yn Ganolfan Encil Cristnogol Ffald y Brenin  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Benfro  
Cymuned
Cwm Gwaun  
Tref
 
Ardal
Pontfaen  
Dwyreiniad
204724  
Gogleddiad
235239  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Wedi’i lleoli ar ochr Ogleddol y prif adeilad.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
 
Cyfnod
 

Cyfnod
Wedi’i nodi fel melin, gyda llyn melin ar yr ochr Ogleddol, ar fap OS 1888, ac wedi’i throsi’n llety i westeion ar ddiwedd yr 20fed ganrif i Ganolfan Encil Gristnogol Ffald y Brenin. Tra nad yw’n sicr mai Christopher Day oedd yn gyfrifol am y trawsnewidiad hwn, mae’r manylion yn awgrymu mai ef oedd - gweler y lle tân, y drws ac agoriadau’r ffenestri. Mae dyddiad y trawsnewidiad hefyd yn ansicr, ond mae’n ymddangos yn debyg iddo ddilyn y gwaith ar y prif adeilad.  

Tu allan
Adeilad un llawr gyda llofft, hen felin o gerrig rwbel dan do llechi mewn cyfuniad o liwiau, gyda chorn simdde cerrig i’r Chwith a ffenestr do i’r goleddf cefn. Mae’r agoriadau dan fwâu brics, tra bod y ffenestri a’r drysau eu hunain dan bennau trapesoidaidd, ac mae i’r ffenestri siliau llechfaen. Mae drws byrddiedig hanner-gwydr i’r Dde, gyda dwy ffenestr anghymesur i’r Chwith iddo. Yn y talcen Chwith mae ffenestr arall, wedi’i naillochri i’r Dde, ac yn y talcen Deheuol, lle mae’r ddaear yn codi’n serth, mae ffenestr atig ac agoriad bychan i’r llawr gwaelod.  

Tu mewn
Mae waliau a nenfwd y tu mewn wedi’u plastro’n wyn. Yn y llawr gwaelod mae lle tân wedi’i fewnosod a’i amgylchu â cherrig anwastad heb eu plastro, gyda charreg aelwyd o lechfaen. Mae grisiau syth yn arwain i ofod cysgu tebyg i groglofft.  

Rheswm dros Ddynodi
Mae Ffald y Brenin yn gymhlethfa bwysig o eco-bensaernïaeth o ddiwedd yr 20fed ganrif gan un o’i dehonglwyr mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae’n nodedig oherwydd ei ddefnydd o ddeunyddiau y cafwyd hyd iddynt, y modd y mae’n cyd-fynd â ffurfiau naturiol, a datblygiad organaidd o adeiladau hŷn. Mae’r feudwyfa’n rhannu rhai o nodweddion y Ganolfan Encil a’r Ganolfan Ddydd, ac mae iddi werth grŵp gyda hwy. Gwerth grŵp gyda’r brif Ganolfan Encil a’r Ganolfan Ddydd.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio