Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87850
Rhif yr Adeilad
6  
Gradd
II*  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
02/02/2022  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Laburnum Cottage, gan gynnwys rheiliau blaen, wal a giât  
Cyfeiriad
6 Monk Street  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Fynwy  
Cymuned
Abergavenny  
Tref
Y Fenni  
Ardal
 
Dwyreiniad
330019  
Gogleddiad
214145  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar ochr ogleddol Monk Street, i’r dwyrain o’r gyffordd â Cross Street.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
 
Cyfnod
 

Cyfnod
Rywbryd ar ôl 1241, adeiladwyd cylchlin o waliau cerrig o gwmpas y dref ganoloesol, mewn ymateb i ansefydlogrwydd gwleidyddol ac ymryson sifil. Mae dealltwriaeth dda o linellau’r waliau a safleoedd pedwar porth gwarchodedig mawr, ac mae Laburnum Cottage y tu mewn i safle hen Borth y Dwyrain. Wedi ei adeiladu ar ddechrau i ganol y 19eg ganrif, dangosir adeilad ar safle Laburnum Cottage ar gynllun 1834 John Wood o’r dref, a hwnnw wedi’i adeiladu yn erbyn wyneb allanol wal y dref, o bosibl gyda llwybr cul rhyngddynt (wedi’i farcio nawr gan y fynedfa lydan ar ochr chwith y tŷ). Cafodd ei ymestyn i’r adeilad presennol rywbryd oddeutu 1840, sydd wedi goroesi i raddau helaeth yn ôl y dystiolaeth ar gynllun tref 1881. Dangosir adeiladau pellach yn y cefn ar y cynllun hwn, ond mae estyniad deulawr diweddarach i’r prif dŷ wedi disodli’r rhain. Mae cynllun 1881 yn dangos llinell Wal y Dref (‘Olion’) hefyd sy’n ffurfio ochr orllewinol Laburnum Cottage, gydag adeiladau eraill wedi’u hadeiladu ar wyneb dwyreiniol mewnol y wal. Credir bod talcen ochr chwith Laburnum Cottage, y wal blaengwrt a wal yr ardd gefn wedi’u hadeiladu ar linell wal y dref ganoloesol, ac yn cadw ei hadeiladwaith hanesyddol.  

Tu allan
Tŷ mewn arddull bictiwrésg, o frics a cherrig plastr garw gydag addurniadau tywodfaen, to llechi a simneiau talcen plastr garw. Wyneb blaen deulawr, 2 fae ar Monk Street gydag adain bellach 3 bae a bae sengl i’r cefn. Mae gan du blaen Monk Street ffenestri plwm pren gyda meini clo nadreddog ar ffenestri’r llawr cyntaf. Prif fae dwbl bargodol gyda ffenestr ddwbl, balconi isel ar fracedi corbel dwfn ar y llawr cyntaf, ffenestr deir-ran ar y llawr gwaelod gydag ymyl bedimentog ar fracedi arddulliedig, a ‘LABURNUM COTTAGE’ wedi’i gerfio i mewn i’r ffris (replica yw hwn - gwelwyd y gwreiddiol yn yr ardd gefn yn ystod yr archwiliad). Bae mynediad i’r chwith gydag un ffenestr uwchben porth bargodol, gyda bwa segmentol a phen barfog gwrywaidd cerfiedig ar y maen clo, conglfeini, cerrig capio a phig dŵr glaw pen dyn. Drws pren trwm, gwydr lliw wedi’i osod mewn ffenestr agen gul yn y wal ochr dde. Wal blaengwrt bargodol ar y chwith ar linell wal y dref ganoloesol, a hwyrach ei bod yn cynnwys gwaith maen ohoni. Simnai fargodol ganolog ar yr ochr dde, ffenestr adeiniog bren ar y llawr gwaelod gyda chapan â bracedau. Ffenestr lithro ddalennog 12-cwarel Swydd Efrog i’r dde ar y llawr cyntaf. Siliau cul i’r ddwy ffenestr. Y rhan gynharach yn camu i lawr i’r cefn, deulawr a 3 bae, bae llaw chwith yn cyd-redeg â thalcen y wyneb blaen, y ddau arall wedi’u gosod yn bellach yn ôl. Ffenestri llithro dalennog fel o’r blaen ar y llawr cyntaf, ffenestr fach i’r chwith, drws gwydrog canolog o dan ganopi gyda ffenestr ddalennog hongiad dwbl 16-cwarel ar y dde. Estyniad diweddarach gyda ffenestri modern. Wal ochr chwith (yn wynebu’r maes parcio) yn blaen, gyda bwtresi ar y ddwy ran gynnar. Wal yr ardd yn y cefn (ar y chwith) ar linell wal y dref ganoloesol ac ymddengys ei bod yn cynnwys gwaith maen ohoni.  

Tu mewn
Yn destun gwaith adnewyddu diweddar ar adeg yr archwiliad yn gynnar yn 2021. Adeiladwaith hanesyddol wedi goroesi a rhai manylion drwyddo draw. Lled un ystafell, gyda dyfnder o dair ystafell dros ddau lawr. Mynedfa ar y chwith yn arwain i mewn i gyntedd hir - ffabrig hanesyddol agored i’r chwith, yn perthyn i hen wal y dref o bosibl, gyda chilfach bwa wedi’i dorri i mewn i’r wal a phorth bwaog diweddarach ran o’r ffordd ar hyd y cyntedd, gyda philastrau panelog a phennau cyfansawdd. Drws cyfagos ar yr ochr dde i’r ystafell flaen, brest simnai wedi goroesi gyda chilfachau bwaog ar y naill ochr a’r llall (gyda ffenestr yn yr un ar yr ochr dde). Ar ddiwedd y cyntedd, mae grisiau tro cam un rhediad, gyda physt grisiau turniedig, canllaw a balwstrau sgwâr plaen, ystafell ymolchi oddi tanynt. Ystafell tua’r cefn, cilfach bellach ar y chwith gyda philastrau a bwa wedi’u mowldio. Lle tân carreg mawr yn y wal gefn, ffenestr ddalennog 16 cwarel a drws gwydrog. Drws ar y chwith yn y cefn yn arwain at estyniad cefn diweddarach (bellach yn gegin), fawr ddim o ddiddordeb ac eithrio pren gweddilliol yn y wal rannu fewnol a gwaith maen gweladwy ar y chwith. Llawr cyntaf gyda thoiled ar yr hanner landin, a drws i ystafell wely. Cyntedd ar ben y grisiau yn cyd-redeg â’r wal i lofft yn yr estyniad cefn, 5 gris bellach i’r ystafell flaen, gyda lle tân haearn bwrw gydag ymyl gorbelog. Mae drysau 4 panel gyda phendrawstiau, sgyrtinau a chornisiau wedi goroesi drwyddo draw.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi’i restru am ei ddiddordeb pensaernïol arbennig fel tŷ mewn cyflwr da o ddechrau i ganol y 19eg ganrif ac wedi’i restru yn radd II* gan y credir iddo gael ei adeiladu ar linell wal dref ganoloesol y Fenni a’i fod yn dal i gynnwys peth o’r adeiladwaith.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio