Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87852
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
15/10/2021  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Ty gwreiddiol ar Fferm Cosmeston Isaf  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Bro Morgannwg  
Cymuned
Sully  
Tref
 
Ardal
Cosmeston  
Dwyreiniad
317915  
Gogleddiad
168961  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Rhan o gasgliad o adeiladau fferm ar Fferm Cosmeston Isaf, i'r dwyrain o'r B4267 tua 300m i'r de o'r fynedfa i Barc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Domestig  
Cyfnod
Aml-gyfnod  

Cyfnod
Tŷ aml-gyfnod, cnewyllyn tŷ un uned a adeiladwyd yn yr 17G neu'r 16G, naill ai mynediad ar y pen yn wreiddiol neu gyda simnai ochrol a fyrhawyd yn ddiweddarach (nid yw tystiolaeth o'r union drefniant yn weladwy). Cafodd ei ymestyn yn ddiweddarach yn yr 17G yn erbyn y lle tân gyda rhes hirach â mynediad uniongyrchol gyda lle tân yn y talcen a grisiau'n creu cynllun 2 uned gyda simneiau talcen a chrib a'r rhan hŷn yn dod yn barlwr i'r neuadd newydd. Ychwanegwyd rhes bellach yn 18G/19G a throswyd y cyfan yn ddiweddarach, oddeutu 1890, at ddefnydd anifeiliaid (stablau, beudy) gan roi wyneb newydd / ailadeiladu'r brif wal ddeheuol ac ychwanegu estyniad unllawr ar yr ochr hon. Byddai'r addasiad hwn wedi digwydd pan adeiladwyd ffermdy newydd i'r gogledd, gan israddio'r tŷ cynnar at ddefnydd y fferm. Gosodwyd to newydd o dun rhychiog yn yr 20G.  

Tu allan
Rhes o adeiladau ffermydd deulawr (tŷ blaenorol), wedi'i alinio o'r dwyrain i'r gorllewin yn fras. Mae adain unllawr dalcennog ar ongl sgwâr wedi'i hychwanegu at y gweddlun 'blaen' deheuol. Calchfaen rwbel gydag addurniadau brics a bloc, atgyweiriadau ac ychwanegiadau. Dan do tun rhychiog. Y gornel dde-ddwyreiniol wedi'i hailadeiladu gyda blociau (o amgylch grisiau 17G y talcen). Ychwanegwyd estyniad at yr ochr dde, to un ongl, drws llydan ar ongl gyda'r brif res. Ychwanegwyd estyniad pellach (llawer diweddarach) ar yr ochr ddwyreiniol. Grisiau a drws i'r llawr uchaf yn y talcen ar y dde. Drws i'r ochr dde isaf yn y pen dwyreiniol. Simnai fawr ymestynnol ar y talcen dwyreiniol (ailadeiladwyd yn y gornel ddeheuol) wedi'i chapio â brics. Mae'r gweddlun gogleddol wedi'i guddio i raddau helaeth gan lystyfiant ond mae ganddo ychwanegiad â tho tun rhychiog ar oledd yn y pen gorllewinol, mae agoriadau ffenestri wedi'u blocio yn y rhan o'r 17G yn weladwy. Yng ngweddlun y de mae 3 drws i'r llawr gwaelod, drws ceirt llydan ar yr ochr dde, drws canolog cul a drws lletach ar yr ochr chwith gyda ffenestr wrth ei ochr a ffenestr uwchben. Ffenestr sgwâr fach uwchben y drws canolog.  

Tu mewn
Mae mynediad i'r rhan gynharaf drwy'r drws ceirt ar y llaw dde ar y gweddlun deheuol. Mae lle tân mawr a simnai risiog yn y wal ddwyreiniol, gydag agoriad drws wedi'i gau ag estyll yn y gornel ogledd-ddwyreiniol (mynedfa gynnar); mae trawst wedi'i adeiladu yn y wal ddwyreiniol, sy'n gilannog uwchben a chyda thyllau distiau, capan ac agoriad bach wedi'i gau yn y wal uwchben. Agoriad drws a thystiolaeth o agoriad ffenestr ganolog yn y wal ogleddol (wedi'i difrodi'n helaeth). Mae estyniad diweddarach o'r 17G wedi cadw lle tân yn y talcen (sydd bellach wedi'i lenwi) gyda chapan pren enfawr a dalwyr carreg, mae grisiau yn y talcen wedi goroesi ar yr ochr chwith, ond mae'r llawr uchaf yn anhygyrch. Agoriad drws wedi'i rwystro i dŷ cynharach. Mae simnai ymestynnol yn y talcen dwyreiniol gyda bwrdd corbelog ar uchder y nenfwd. Estyniad dwyreiniol gyda drws o'r rhan gynnar ac ystafell ddiogel wedi'i hadeiladu yn y gornel dde-orllewinol. Gosodwyd llawr newydd ond mae trawstiau pren gyda thyllau distiau wedi goroesi gan awgrymu strwythur ffrâm llawr cul. Mae estyniad i'r de gyda lle tân yn y talcen a grât haearn bwrw bach.  

Rheswm dros Ddynodi
Mae wedi'i gynnwys oherwydd ei ddiddordeb pensaernïol ac hanesyddol arbennig fel ffermdy prin sy’n goroesi o'r cyfnod cyn 1700 gyda'i ffurf a'i gynllun yn glir ar y cyfan, sy’n cadw tystiolaeth glir o'i darddiad cynnar (gyda nodweddion cynnar sy’n goroesi) a'i ddatblygiad yn yr 17G.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio