Cyfnod
Adeiladwyd ym 1952-3 yn y dull Celfyddyd a Chrefft Romanésg diweddar o dan arolygiaeth y Tad J B O’Connell, offeiriad y plwyf ac ysgolhaig litwrgaidd o fri.
Nid oedd eglwys nac offeiriad Catholig yn ardal Llanfair-ym-Muallt yn y canolbarth ar ddechrau’r G20. Byddai offeiriaid ar ymweliad yn cynnig eu gwasanaeth yn achlysurol, ond nid oedd offeiriad parhaol tan 1907 pan ddaeth y Tad Patrick Kane i breswylio yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd yn 1936 cyn i’r offeren gael ei dathlu am y tro cyntaf yn Llanfair-ym-Muallt, mewn ystafell yng Ngwesty’r Crown a wnaed wedi hynny yn gapel.
Ym 1944 cymerwyd capel a chenhadaeth Llanfair-ym-Muallt drosodd gan y Tad (Canon) J B O’Connell, ysgolhaig litwrgaidd o fri a oedd â diddordeb arbennig yn nyluniad a threfniant eglwysi. Er bod y plwyf trefol yn cynnwys ardal eang, dim ond cynulleidfa fechan o Gatholigion oedd ar y pryd, ond er hynny llwyddodd O’Connell i sicrhau cymunrodd o £6,000 gan y Ficer Cyffredinol Mgr George Nightingale ar gyfer adeiladu eglwys newydd.
Cafwyd plot ar gyfer yr eglwys newydd ar safle ar hyd Ffordd y Garth, a oedd yn cael ei datblygu’n gyflym yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel. Gwnaed y dyluniadau gan y pensaer T Edmund Rees o Messers Johnson, Richards & Rees o Ferthyr Tudful (ef hefyd a ddyluniodd Lyfrgell Carnegie ym Merthyr Tudful, cyf. 11442) gyda’r Messers F Morris of Hereford yn gyfrifol am yr adeiladu. Gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Esgob Petit ar 16 Gorffennaf 1952 ac agorwyd eglwys Crist y Brenin ar 21 Mai 1953. Cerfiwyd y groes sydd uwchben y porth mynediad gan Francis Leech o Layton & Leech, seiri maen o Gaergrawnt.
Oherwydd ei arweiniad yn sefydlu eglwys Crist y Brenin, mynychodd y Tad O’Connell wedi hynny nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol ar litwrgi, gan gynnwys Cyngor y Fatican, fel ‘peritus’ (sylwedydd arbenigol) a chyhoeddodd ei syniadau ar ddyluniadau a dodrefnu eglwysig. Roedd o’r farn y dylai unrhyw newyddbeth yn nyluniad eglwys gael ei dymheru gan draddodiad, gyda phwyslais ar drefnusrwydd a harmoni gweledol. Ei waith mwyaf nodedig yw The Celebration of Mass: A Study of the Rubrics of the Roman Missal (1956), ac ef hefyd a ysgrifennodd y gwaith a argraffwyd yn eang, Church Building and Furnishing: The Church’s Way (1955).
Mae eglwys Crist y Brenin yn ymgorfforiad o’i agwedd at gynllunio eglwysig. Er nad yw’r eglwys yn torri tir newydd nac yn flaengar o ran ei threfniad - mae’n rhagddyddio’r newidiadau a ddaeth i fod wedi Ail Gyngor y Fatican – mae’n bwysig oherwydd ei chysondeb, ei sylw i fanylion a’i chynllun cyfan gwbl ystyriol. Mae ynddi lawer o bethau
tebyg i eglwys restredig Gradd II Y Gwaredwr Sanctaidd, Sant Wulstan a Sant Eadburga yn Pershore, Sir Gaerwrangon a adeiladwyd ym 1958-9 i gydweithiwr O’Connell, eglwys arall wedi ei hystyried yn ofalus ond fel arall yn draddodiadol a syml ei dyluniad. Byddai O’Connell, ynghyd â litwrgydd arall, y Tad James Crichton o Pershore, yn cynghori’r Tad Cunnane ar ddyluniad Cysegrfa Mair y Tapr, yng Nghysegrfan Genedlaethol Cymru yn Aberteifi.
Mae trefniad y Gysegrfa wedi ei newid, a’r allor (wedi gwaredu ei phileri cefnlen a riddel, ond wedi cadw ei chanopi pren) wedi ei gwthio yn erbyn y wal Ddwyreiniol, ac allor newydd wedi ei gosod yn 2003 i nodi hanner canmlwyddiant yr eglwys. Fel arall, nid yw’r eglwys wedi newid rhyw lawer.