Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87874
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes o’r Dyrchafiad  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Castell-nedd Port Talbot  
Cymuned
Briton Ferry  
Tref
 
Ardal
 
Dwyreiniad
274121  
Gogleddiad
193942  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Uwchben Ffordd Castell-nedd ar ei phen Deheuol, gerllaw’r gyffordd â’r A48.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Adeiladwyd ym 1966 a dyluniwyd gan y pensaer Thomas Price ARIBA o FR Bates, Son & Price. Er bod Llansawel, i ddechrau, wedi datblygu drwy gydol y G19 fel tref ddiwydiannol o ddociau, gweithfeydd dur a thunplat, yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel gwelodd yr ardaloedd o gwmpas y dref dwf diwydiannol sylweddol. Ym 1951 adeiladwyd eglwys ar safle’r eglwys bresennol a wasanaethai fel capel anwes i eglwys Sant Joseff ar Lôn Hillside, Castell-nedd (1933). Cafodd plwyf newydd ei chreu ym 1958 a threfnodd yr offeiriad, y Parch. Edmund Mullins, adeiladu eglwys newydd a thŷ offeiriad ochr yn ochr â’r neuadd a oedd yno eisoes. Adeiladwyd yr eglwys yn union wedi Ail Gyngor y Fatican (1962-5) ac roedd yn fynegiant o’r meddylfryd cyfoes ar ddyluniad eglwysig a dull addoli yn y cyfnod wedi’r rhyfel. Roedd Price wedi dylunio eglwys Sant Bened yn Uplands, Abertawe (1961, Gradd II) a’i waith o dan ddylanwad trwm y Mudiad Litwrgaidd. Er bod dyluniad eglwys Llansawel wedi’i seilio ar ffurfiau syml tebyg i flociau a chynllun hirsgwar syml, mae’n fynegiant uniongyrchol o’r meddylfryd adnewyddol am addoliad Catholig yn ogystal ag ysbryd ehangach ailadeiladu yn y cyfnod wedi’r rhyfel. Mae trefniant y rhodfeydd wedi’i ddylanwadu gan eglwys Maguire & Murray, Sant Paul, Bow Common yn Llundain (Gradd II*, 1958-60). Fe’i hadeiladwyd gyda dyluniad hirsgwar canoledig cymharol syml a chyda llusern wydredig fawr a chorongylch dur yn hongian uwchben yr allor ganoledig. Contractwyr yr eglwys oedd Messrs Knox & Wells. Cysegrwyd ac agorwyd hi ar 10 Mai 1966 gan Archesgob Caerdydd. Mae peth ail-fodelu mewnol wedi digwydd ond mae llawer o’r manylion mewnol, sy’n arbenigol ac yn gwbl nodweddiadol o’r cyfnod, wedi goroesi. Mae’r corongylch silindrig a’r gwydr lliw, gan John Petts, yn cyfrannu tuag at greu tu mewn grymus. Felly hefyd y clochdy gwaith agored concrid ar du blaen yr eglwys yn edrych dros Ffordd Castell-nedd sy’n nodweddiadol o ddylunio’r 1960au ac yn creu tirnod lleol arbennig. Mae lluniau cynnar o’r eglwys o’r Catholic Building Review 1966 (ail gynhyrchwyd yn Taking Stock Statement of Significance) yn dangos nad yw’r cynllun paent presennol yn wreiddiol - y rhannau isaf yn goch a lliw llwydfelyn gwannach i’r prif adeilad; pan agorwyd gyntaf roedd gwaith brics y rhannau isaf o liw golau (brics llwydfelyn anorffenedig o bosib) a lliw tywyllach uwchben. Roedd y clochdy o liw golau unffurf. Mae lluniau cynharach hefyd yn dangos trefniannau gwahanol i’r gysegrfa gydag uchel-allor ddiaddurn wedi’i hamgáu gan reiliau syml. Mae’r rheiliau wedi eu symud a llwyfan wedi ei greu ar gyfer blaen-allor newydd a’r bedyddfaen wedi ei symud o’i safle gwreiddiol ar ben Dwyreiniol y narthecs i ochr y gysegrfa. Mae tŷ’r offeiriad yn gysylltiedig â chefn yr eglwys ar lefel y llawr cyntaf ac mae wedi ei ddylunio i ffitio i mewn i ran uchaf y safle dyrchafedig, ond nid yw o ddiddordeb arbennig. Nid yw’r neuadd wrth ochr yr eglwys o ddiddordeb arbennig.  

Tu allan
Eglwys yn y dull Modernaidd. Cynllun hirsgwar wedi ei gyfeiriadu fwy na heb Dwyrain-Gorllewin, wedi ei ddominyddu gan y brif ran dal tebyg i focs, adeiladwaith ffrâm ddur gyda chaenen allanol fetel hunan-orffenedig. Ffenestr ganol fawr yn y pen Gorllewinol, ffenestri hirsgwar i ben Dwyreiniol yr ochrau Gogleddol a Deheuol, a ffenestri cul o gwmpas gwaelod y waliau Gogleddol, Deheuol a Dwyreiniol. Yn amgáu rhan isaf y prif adeilad hwn ar ei ochrau Gorllewinol a Deheuol mae rhodfa is gyda tho gwastad a waliau o waith brics ceudod. Ar ei ochr Ddeheuol mae mynedfa mewn cilfach ddofn, drysau teir-ran gyda gwydro llorweddol, a 4 ffenestr gul i’r dde. Yn cysylltu â’r gornel Gogledd-orllewinol mae clochdy tal gwaith-agored o goncrid wedi’i atgyfnerthu ac yn dal cloch sengl. I’r Dwyrain, wedi ei adeiladu i mewn i’r eglwys, mae tŷ’r offeiriad, 2 lawr ac wedi ei orchuddio, a chyda mynedfa drwy ddrws llydan i fyny 4 gris. Mae hwn yn cysylltu â’r neuadd i’r De.  

Tu mewn
Mynedfa ar y De-orllewin yn arwain yn union i ehangder llawn y narthecs, wedi ei wahanu oddi wrth brif ran yr eglwys gan sgrin wydredig mewn ffrâm bren gyda phaneli gwydr lliw yn cynrychioli Y Dioddefaint gan John Petts. Corff yr eglwys, ar y cyfan, yn blaen, teils y nenfwd wedi eu ffurfio’n groes, yn hongian o’i brig uwchben y flaen-allor mae corongylch silindrig mawr o dan do-olau bwaog 12 troedfedd. Y tu ôl i hwn mae panel rhwyllwaith sy’n cydweddu â ffrâm grid y corongylch. Ffenestri ochr gyda phatrymau gwydr lliw haniaethol yn ‘hongian’ o freichiau’r groes yn y waliau Gogleddol a Deheuol. Ar yr ochr Ddeheuol mae capel bach i Ddewi Sant, wedi ei wahanu oddi wrth brif ran yr eglwys gan sgrîn rwyllwaith o’r un arddull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y clochdy ac yn cynnwys ffigwr mynegiadol o Ddewi Sant gan Petts. Ffenestr ganol fawr yn y wal Orllewinol llinell â gwaelod croes y nenfwd, ffenestr wydr lliw goncrid o Ein Harglwyddes hefyd gan Petts. Meiciau pren plaen. Y gysegrfa wedi ei chodi ar lwyfan, blaen-allor gyda blaen-len cerfiedig yn portreadu’r Swper Olaf, bedyddfaen carreg silindrig yn pigfeinio.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig fel eglwys Gatholig fodernaidd bwysig a nodedig, wedi ei dylunio gan bensaer eglwysi Catholig o bwys yn y cyfnod ôl-ryfel, a oedd yn amlwg wedi ei ddylanwadu gan arferion litwrgaidd a syniadaeth gyfoes ynghylch dylunio eglwysig. Mae wedi goroesi’n gymharol gyfan gyda pheth ail-osod ond mae wedi cadw ei thu mewn grymus gyda’i chynllun syml a’i gwydr lliw a ffitiadau pwysig eraill. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio