Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.

Disgrifiad Cryno


Rhif Cyfeirnod
87901
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes o Fatima, gan gynnwys y ty offeiriad  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Bala  
Tref
Bala  
Ardal
 
Dwyreiniad
292559  
Gogleddiad
335960  
Ochr o'r Stryd
N  
Lleoliad
Ar ochr Ogleddol y Stryd Fawr, ychydig i lawr o’r Llew Gwyn.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Sefydlwyd yr eglwys ym 1946 mewn hen stablau y tu cefn i’r siop sglodion. Mae’n debyg fod yr adeilad, sydd ar safle amlwg yn y Stryd Fawr, yn dyddio o 1609. Bu Catholigiaeth yn bresennol yn nhref y Bala yn y 19g wedi i Iesüwr o Ruthun ymweld â’r dref a gweinyddu’r offeren. Daeth hyn i ben tua‘r 1870au ac roedd hi’n 1932 cyn i’r dref gael gwasanaeth offeiriaid o Ddolgellau a fyddai’n ymweld yn rheolaidd, gan gynnal y gwasanaethau yn Neuadd Buddug. Tua 1935 prynodd y Tad Eric Green, offeiriad plwyf yn Nolgellau safle ger Llyn Tegid a pharatôdd gynlluniau ar gyfer eglwys barhaol. Ni chafodd yr eglwys honno fyth ei hadeiladu. Yn fuan wedyn, sefydlodd Chwiorydd Nasareth Gwfaint ym mhentref cyfagos Llanycil a sefydlwyd plwyf yn y dref. Roedd caplan y Cwfaint yn gwasanaethu fel offeiriad, ac roedd y Cwfaint, Neuadd Buddug ac adeiladau lleol eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer yr Offeren. Tyfodd y boblogaeth Gatholig leol ac ym 1946 cafodd y dref ei hoffeiriad llawn amser cyntaf, y Tad James Koenen OP, Brawd Du Isalmaenig. Ef gododd y £1,800 i brynu’r hen siop sglodion yn y Stryd Fawr ynghyd â’r tŷ a’r stablau y tu cefn iddi. Roedd Koenen wedi ymgysegru i’n Harglwyddes o Fatima ac ar ei anogaeth cysegrwyd yr eglwys newydd hon iddi hi. Credir fod i’r adeilad ddechreuadau cynnar a’i fod ar safle lle y cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg cyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru. Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith i’w newid ar gyfer ei ddefnyddio fel eglwys gan Koenen a’i blwyfolion. Roeddent wedi gofyn am gyngor ynglŷn â’r gwaith gan Geoffrey Webb, Athro Hanes Celfyddyd yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade. Ni dderbyniwyd ei gyngor i benodi naill ai Sebastian Comper neu William Henry Randoll Blacking fel penseiri. Agorodd yr eglwys ar gyfer addoliad ar 15 Mehefin 1948 ac mae’n debyg mai hi yw’r gyntaf y tu allan i Bortiwgal i gael ei chysegru i ‘Ein Harglwyddes o Fatima’. Roedd hyn o gymaint pwysigrwydd fel i Is-Gennad Portiwgal ac Is-Genhadon Cyffredinol Panama, Chile a Salvador fynychu’r agoriad. Rhoddwyd i’r eglwys gerfddelw o’n Harglwyddes o Fatima a chafodd ei fendithio gan Esgob Leiria yn Fatima. Cyrhaeddodd ar long yn Lerpwl a daethpwyd ag ef mewn car â’i do i lawr trwy Gaer, Wrecsam a Llangollen i’r Bala, ac yno ei gario trwy’r dref i’r eglwys. Yn fuan iawn daeth yr eglwys yn gyrchfan i bererinion ac yn ganolfan symbolaidd i’r ffydd Gatholig mewn rhanbarth a oedd wedi’i hystyried yn draddodiadol fel cadarnle Protestannaidd yng Nghymru. Bwriad Koenen oedd datblygu’r plwyf fel canolfan i Gatholigiaeth. Ar Sul 4 Gorffennaf 1954 roedd 20,000 o bererinion yn y dref ar gyfer Uchel Offeren yn cael ei gweinyddu gan yr Esgob Petit o Fynyw ar lannau Llyn Tegid. Hon oedd un o’r cynulleidfaoedd mwyaf o’r ffydd Gatholig yng Nghymru. Mae’r Capel, sydd braidd yn guddiedig o’r Stryd Fawr, yn parhau i gael ei ddefnyddio, ac wedi goroesi fel yr adeilad eglwysig Catholig hynaf y gwyddys amdano yn Esgobaeth Wrecsam. Ym 2000 trawsnewidiwyd cyffesgell yn yr eglwys i gysegrfa Ein Harglwyddes o Fatima gan adeiladwr lleol, Ellis Gwyne Jones, ac mae’n cyfuno manylion o lechfaen Cymru (gan Mike Watts) a gwydr lliw i bortreadu haul troellog Fatima (gan y Chwaer Jen Bronham, a’r Chwaer Loreto o Dde Cymru a’r artist John Shannon).  

Tu allan
Eglwys a thŷ offeiriad mewn adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr, yn ymestyn i’r cefn ar blot tir bwrdais cul. Y tŷ offeiriad a’r siop bietistaidd yn nhu blaen y Stryd Fawr, yr eglwys mewn cwrt i’r cefn, i’w chyrraedd ar hyd tramwyfa dan do ar yr ochr. Yn gyfan gwbl o gerrig rwbel wedi’u rendro, y rendro wedi’i linellu i ddynwared cerrig nadd ar weddlun y Stryd Fawr. Toeau llechi. Y tu blaen ar y Stryd Fawr yn 1½ llawr a 3 bae. Y brif ran wedi’i gosod yn ôl gydag adain dalcennog ymlaen ac i’r chwith â ffenestr groes 3-rhan i’r llawr gwaelod, ffenestr godi 4-cwarel wedi’i hamnewid i’r talcen a delw deilsiog o’n Harglwyddes o Fatima rhyngddynt. Croes ar yr apig. Penty ar draws y brif ran i’r dde yn cynnwys mynedfa i’r tŷ offeiriad i’r chwith, ffenestr arddangos y siop bietistaidd a mynedfa i’r dramwyfa i’r dde. Ffenestri dormer mewn parau wedi’u gosod yn ôl yn y brif ran gefn. Yn y cwrt: adain gefn 2-lawr, 2-fae i’r tŷ offeiriad, ffenestri wedi’u hamnewid a chorn simdde talcennog. Y tu hwnt, yr eglwys yn yr hen stabl, un llawr a 5 bae, clochdy pren wedi’i osod uwchben y bondo i’r chwith, ffenestri lansed wedi’u gosod yn ddwfn (y ffenestri eu hunain wedi’u hamnewid am rai UPVC) a chapel ystlys/cysegrfa yn ymestyn allan. Drws mynedfa bwaog i’r dde.  

Tu mewn
Corff yr eglwys a’r seintwar yn un, gyda chapel ystlys bach neu gysegrfa ar y llaw dde (gogledd litwrgaidd) i gorff yr eglwys. Corff yr eglwys o 4 bae, ffenestri yn waliau’r Gorllewin a’r Gogledd a 2 ffenestr-do ar ochr y cwrt, trawstiau to gyda chyplau dyrchafedig, a choed palis yn amlwg ym mhen talcennog y gysegrfa. Y waliau wedi’u leinio â slabiau concrid gydag uniadau llydain i waelod y trawstiau. Llawr derw, llawr llechfaen yn y capel/seintwar. Cerflun derw o Sant Jwdas yn y pen Gorllewinol. Gorsafoedd y Groes ceramig crwn. Bedyddfan wythonglog o garreg gerfiedig wedi’i pheintio ar ben Dwyreiniol corff yr eglwys. Meinciau o goed pîn, yn ôl yr hanes wedi eu cael gan y Tad Koenan o gapel Methodist lleol. Capel ystlys / cysegrfa gyda waliau wedi’u leinio â llechi, ffenestr gwydr lliw, cerfddelw o’n Harglwyddes o Fatima. Y gysegrfa i fyny un gris, waliau derw panelog, bwrdd allor (gosodwyd yn dilyn Ail Gyngor y Fatican, 1962-5), plinth tabernacl a thabernacl gyda chroes uwchben wedi’i cherfio gan Ferreira Thedun. Ni chafodd y tŷ offeiriad na’r siop bietistaidd eu harchwilio.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys er gwaethaf newidiadau diweddarach, oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig ac fel enghraifft brin o eglwys Gatholig ôl-ryfel wedi’i sefydlu mewn adeilad a oedd â dechreuadau cynnar wedi’i addasu ar gyfer ei ddefnyddio, yn cadw ffurf a chymeriad yr adeilad a oedd yn bodoli, y tu mewn yn arbennig felly. Mae iddi ddiddordeb hanesyddol oherwydd ei rôl yn sefydlu’r ffydd Gatholig yn y dref a’r ardal ehangach, ac mae iddi werth grŵp gyda’r adeiladau cylchynol yn Ardal Gadwraeth y Bala. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio