Cyfnod
Eglwys Gatholig a adeiladwyd rhwng 1967 a 1969 i gynlluniau gan gwmni amlwg o benseiri, Weightman & Bullen of Liverpool. Dyluniwyd yr eglwys i eistedd i fyny at 250 o bobl. Costiodd £47,000.
Ar ddechrau’r 20g dim ond llond llaw o Gatholigion a oedd yn byw yn Nhywyn ac yn y Bermo yr oedd yr eglwys agosaf. Ym 1935 cymerodd gwraig leol, Miss Mary Corbett brydles ar gapel Presbyteraidd Cymraeg yn Brook Street i’w ddefnyddio ar gyfer dathlu’r Offeren. Cysegrwyd yr eglwys i Ddewi Sant a dodrefnwyd hi ag allor o Dderw Awstralaidd. Ym 1939, cafodd ardal y plwyf lleol ei had-drefnu a phenododd Esgob Hannon, Mynyw, Basil Rowlands yn offeiriad plwyf ar gyfer Tywyn, yr offeiriad Catholig cyntaf i breswylio yn y dref ers yr Hybarch John Griffith a ferthyrwyd yn Camberwell ym 1539.
Yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd datblygodd y dref fel cyrchfan gwyliau ac oherwydd y mewnlifiad o dwristiaid haf cymerwyd meddiant o neuadd y Fyddin Diriogaethol ar gyfer dathlu’r Offeren. Dechreuwyd codi arian ar gyfer eglwys newydd ym 1954,ac erbyn 1958 roedd digon o arian wedi’i godi i’r offeiriad plwyf, y Tad Joseph Jackson, brynu’r safle presennol. Parhaodd y codi arian am ddegawd arall ac ar 25 Hydref 1969 agorwyd a bendithiwyd yr eglwys gan yr Esgob Petit, Mynyw. Adeiladwyd hi dan gyfarwyddyd y Tad Charles Lloyd, yr offeiriad ar y pryd, yn unol â dyluniadau Weightman & Bullen, gyda chasgliad nodedig o ddodrefn gan John Skelton, nai a disgybl Eric Gill, gan gynnwys cerflun o Ddewi Sant ar y lawnt i’r Gogledd-orllewin o’r eglwys. Adeiladwyd yr eglwys fel cyfres o adeiladau gydag atodiad i gorff yr eglwys, neuadd blwyf, cegin, swyddfeydd a thŷ offeiriad.
Mae eglwys Dewi Sant yn un o nifer o eglwysi Catholig modernaidd a adeiladwyd yng Nghymru yn dilyn Ail Gyngor y Fatican. Hyrwyddodd y Cyngor newidiadau sylfaenol mewn cynllunio eglwysig, trefniant ac arferion addoli. Mae eglwys Dewi Sant yn nodedig oherwydd y defnydd o dŵr twmffat pigfain canolog fel canolbwynt yr eglwys. Mae iddo adlais yn nyluniad capel Hopwood Hall ym Manceinion gan Frederick Gibberd (1964-5, GII), hwnnw hefyd â phaneli gwydrog i’r twmffat. Yn Nhywyn mae’r twmffat yn hynod drawiadol o’r tu allan ac yn llifoleuo tu mewn yr eglwys â golau naturiol.
Cafodd waliau’r eglwys eu hatgyfnerthu yn 2001 trwy godi bwtresi yn yr iard, adnewyddwyd y rendro a newidiwyd y ffenestri am unedau gwydr-dwbl – i gyd am gost o £42,000. Y flwyddyn olynol ailosodwyd gorchudd copr y tŵr a’r to, a oedd wedi bod yn gollwng, am gost o £120,000.