Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87903
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Crist y Brenin  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Conwy  
Cymuned
Kinmel Bay and Towyn  
Tref
Tywyn  
Ardal
Tywyn  
Dwyreiniad
297727  
Gogleddiad
379180  
Ochr o'r Stryd
W  
Lleoliad
Ar ochr Orllewinol Ffordd y Gors, gyferbyn â Llys Glyndwr, y tu ôl i reiliau a chlwydi cyfoes.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Eglwys Gatholig o 1973-74 gan bractis pensaernïol Bowen Dann Davies (BDDP), gyda Bill Davies fel y partner oedd â chyfrifoldeb ac I G Davies fel pensaer y prosiect. Y contractwyr oedd Anwyl Construction. Cost yr adeiladu oedd £30,000. Tyfodd Tywyn yn gyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, yn rhannol oherwydd y don dymhorol o ymwelwyr a ddeuai ar eu gwyliau i’r parciau cabanau a charafanau a oedd newydd eu sefydlu, ond hefyd wrth i breswylwyr sefydlog symud i’r ardal. Adeiladwyd eglwys Crist y Brenin i fodloni anghenion y boblogaeth gynyddol a’r ymwelwyr tymhorol. Eglwys Tywyn oedd y gyntaf o 3 eglwys nodedig a grëwyd gan bractis Bowen Dann Davies rhwng 1973 ac 1982. Datblygodd y themâu brodorol modernaidd Cymreig yr oedd Stewart Powell Bowen wedi eu sefydlu gyda dyluniad Ein Harglwyddes o Lourdes yn Benllech (1964-5), dyluniad yr oedd Bill Davies wedi cyfrannu'r holl waith pensaernïol iddo. Dilynwyd Tywyn yn fuan gan Sant Illtud, Rhuddlan (1975-6), a oedd yn adleisio cynllun Crist y Brenin. Dyfarnwyd i’r practis Gymeradwyaeth yr RIBA ym 1978. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1982 cwblhaodd y practis gapel Presbyteraidd Cymraeg Capel y Groes yn Wrecsam, gan ddefnyddio themâu dylunio tebyg. Enillodd Gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Ddinesig ym 1982, Cymeradwyaeth yr RIBA yn ogystal â’r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1984.  

Tu allan
Eglwys yn y dull brodorol modernaidd cysylltiedig yn arbennig â phractis Bowen Dann Davies (BDDP), wedi ei datblygu mewn ymateb i dirlun a hinsawdd Gogledd Cymru. Mae agweddau nodweddiadol y dull sydd i’w gweld yn cynnwys amlinellau isel, toeau sy’n ymestyn a chynllun cymhleth. Nodwedd drawiadol y cynllun yw ei hyblygrwydd i ymateb i faint cyfnewidiol y gynulleidfa: mae’r prif ofod yn cynnwys neuadd y gellir ei thrin fel ymestyniad i gorff yr eglwys, ac mae drysau ar yr ochr Dde yn caniatáu i addolwyr gymryd rhan yn yr Offeren o’r tu allan. To ar oleddf serth gyda theils concrid sy’n cyd-gloi, brics lliw hufen, ffenestri a drysau pren. Cynllun hirsgwar, y tri phrif floc o’r Dwyrain i’r Gorllewin yn camu allan, y bloc culaf un-gogwydd yn y Dwyrain. Toeau hir isel, gyda’r llofft olau wedi’i gwthio uwchben llinell y prif fondo i roi llofft olau dros y gysegrfa. Mynedfeydd a ffenestri yn y gweddluniau hir, yn cael eu cysgodi gan ymestyniad o’r bondo. Gerllaw’r mynediad mae tŵr rhwyllog pren sy’n sefyll ar ei draed ei hun, gyda chroes ar ei ben, yn uchel uwchben yr eglwys.  

Tu mewn
Y trefniadau mewnol o frics brown golau amlwg, nenfwd a thrawstiau hydredol i gyd wedi’u gorchuddio ag estyll pren. Mae’r tu mewn wedi’i oleuo’n dda o’r gweddluniau hir a’r llofft olau, ac mae iddo gymeriad teuluol anffurfiol, yn cael ei hyrwyddo gan y gallu i gysylltu corff yr eglwys â’r neuadd. Ale ochr lydan yng nghorff yr eglwys, a chysegrfa nad yw wedi ei dylunio’n ofodol: yn hytrach mae’n ffurfio llwyfan o deils wedi ei godi gam yn uwch na chorff yr eglwys. Mae’r bedyddfan a’r allor ar y llwyfan hwn: mae gwaelodion brics i’r naill a’r llall gyda llechi Cymreig gloyw uwchben. Gorsafoedd y Groes wedi eu gosod yn uchel ar drawst hydredol sy’n nodi’r rhaniad rhwng corff yr eglwys a’r ale i’r De. Rhodfa o’r mynediad i’r gysegrfa, cegin, boelerdy a thoiledau.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys oherwydd ei diddordeb arbennig fel enghraifft hardd o eglwys Gatholig ar ôl y rhyfel yng Nghymru, a gwaith Bill Davies a Phartneriaeth Bowen Dann Davies. Yr idiom brodorol modernaidd yr oedd y Bartneriaeth yn bennaf gysylltiedig â hi, wedi ei chyfuno â syniadau diwygiadol Ail Gyngor y Fatican, yn cael eu harddangos yn hyfryd mewn adeilad sy’n hynod sensitif i’w dirwedd a’i gyd-destun cymdeithasol. Mae’r eglwys wedi goroesi heb newid rhyw lawer. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio