Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87904
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Sant Joseff, gan gynnwys y ty offeiriad cysylltiedig  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Conwy  
Cymuned
Colwyn Bay  
Tref
Bae Colwyn  
Ardal
Bae Colwyn  
Dwyreiniad
284520  
Gogleddiad
379206  
Ochr o'r Stryd
S  
Lleoliad
Ar ochr Ddeheuol Ffordd Conwy, ar y gyffordd â Choedlan Brackley/Brackley Avenue.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Fictoraidd  

Cyfnod
Eglwys Gatholig a adeiladwyd rhwng 1898 a 1900 yn unol â dyluniadau gan Robert Curran yn y dull Gothig Addurnol sy’n dangos dylanwad A.W.N.Pugin. Ar ddiwedd y 19g ehangodd Bae Colwyn yn gyflym fel tref glan môr a chyrchfan gwyliau. Ar y cychwyn byddai Catholigion y dref yn cael eu gwasanaethu gan y genhadaeth yn Llandudno ond ym 1895 cymerwyd yr awenau yn y dref gan offeiriad seciwlar, y Tad Rockcliff, a dechreuodd weinyddu’r Offeren yn lolfa’r Imperial Hotel a oedd newydd gael ei hadeiladu ar Heol yr Orsaf (rhestredig 87661). Yna rhoddwyd cenhadaeth y dref i Obladiaid Mair Ddihalog, ac o sylweddoli bod poblogaeth y dref a’i hymwelwyr ar gynnydd, caffaelwyd safle yn Heol Conwy ar gyfer eglwys newydd ynghyd â chymwynaswr i’w hariannu. Mgr. James Lennon, offeiriad wedi ymddeol o Newton-le-Willows yn Sir Gaerhirfryn fu’n gyfrifol am yr ariannu er cof am ei frawd y Deon John Lennon. Gosodwyd carreg sylfaen yr eglwys ar 10 Awst 1898 a £12,000 oedd cost yr adeiladu. Robert Curran o Warrington oedd y pensaer a’r contractiwr oedd Thomas Brown o Gaer. Unig gomisiwn arall Curran i adeiladu eglwys oedd ‘Our Lady of the Assumption’ yn Latchford, Esgobaeth Amwythig sy’n rhannu elfennau tebyg i Sant Joseff ac yn cael ei rhestru gan Historic England ar fel adeilad Gradd II (rhestredig 1393628). Y bwriad oedd i eglwys Bae Colwyn fod â meindwr tal Gogledd-orllewinol uwchben y tŵr – ni chafodd fyth ei adeiladu, yn hytrach codwyd parapet castellog drosto. Cafodd nifer o osodiadau gan gynnwys allorau ac organ yn rhoddion. Mae’r tŷ offeiriad cysylltiedig yn yr un dull a hefyd wedi’i ddylunio gan Curran. Cafodd ei ddylunio i gartrefu 12 offeiriad.  

Tu allan
Eglwys yn y dull Gothig Addurnol. Tywodfaen o liw hufen wedi’i sgwario ar hap gydag addurniadau tywodfaen coch a tho llechi. Cynllun unionlin Dwyrain-Gorllewin gyda thŵr cornel yn y Gogledd-orllewin. Portsh ar waelod y tŵr, corff yr eglwys, eiliau Gogledd a De, cysegrfa gromfannol amlochrog a chapeli ystlys. Bwtresi grisiog, cyrsiau llinyn wedi’u mowldio. Talcen serth i’r ffrynt gorllewinol gyda ffenestr bigfain rwyllog 4-golau o fewn bwa wedi’i fowldio’n ddwfn. Bwa tebyg o dano i’r drws Gorllewinol wedi’i ystlysu gan bâr o belydr gwenithfaen, drysau dwbl gyda cholynnau strap. Tŵr â bwtresi ongl, fframiau wedi’u mowldio i’r drws yn y talwyneb Gogleddol ac uwchben cilfach gyda cherfddelw marmor o Sant Joseff. Rhan uchaf y tŵr â ffenestri lansed tal. Eiliau’r Gogledd a’r De â ffenestri pigfain 2-olau gyda mowldin capan a ffenestri 3-golau pennau gwastad i’r llofft olau uwchben. Mae pen dwyreiniol pob un o’r eiliau yn terfynu mewn capel gyda tho yn goleddfu a thalcenni copaog serth gyda chroes yn derfyniadau iddynt. Ffenestri rhwyllog 2-olau gyda phedairdalennau i dalcenni’r capeli a’r gysegrfa gromfannol. Y tŷ offeiriad yn gysylltiedig i’r De-ddwyrain gan adeiladwaith un-llawr. Dull Gothig cynhenid yn defnyddio’r un deunyddiau â’r eglwys: tywodfaen lliw hufen gydag addurniadau tywodfaen coch yn cynnwys bwâu-cynnal pigfain i’r ffenestri. Adeilad mawr, 2-lawr gyda chroglofft, yn ei hanfod yn cynnwys cynllun-L gyda thalcen yn ymestyn allan yn wynebu Heol Conwy, a mynediad mewn bloc to talcennog yn ongl y ddwy res. Ffenestr fae fawr ogwyddol mewn talcen yn ymestyn allan, gyda phâr o ffenestri codi uwchben a ffenestr sengl i’r groglofft. Drws bwaog gyda ffenestri codi tebyg uwchben ac i’r dde.  

Tu mewn
Corff yr eglwys 5-bae yn uchel gyda bwâu pigfain ar golofnau o wenithfaen coch caboledig i rodfeydd yr eiliau. To o drawstiau ar gorbelau wedi’u cryfhau gan fwâu. To’r gysegrfa o bren gydag addurn stensiledig yn y sbandreli. Capeli gydag allor garreg gerfiedig gywrain: yng nghapel y Gogledd ‘Calon Sanctaidd Iesu’ gan Cusack; yng nghapel y De ‘Ein Harglwyddes’ gan Boultons of Cheltenham, y ddau tua 1900-01; uchel allor ar ddull tebyg gydag sgrîn-allor marmor cyflawn. Oriel y côr a’r organ i’r Gorllewin, y narthecs uwchben wedi’i gwahanu oddi wrth gorff yr eglwys gan y sgrin bren a gwydr wreiddiol. Bedyddfan i’r De-orllewin, bellach yn cael ei ddefnyddio fel ystordy. Organ, o Gapel Jerusalem Penmaenmawr, gan Peter Conacher and Co of Huddersfield, ailadeiladwyd gan George Sixsmith ym 1995. Chwech o ffenestri gwydr lliw o 1912 gan Harry Clarke yn yr eil ddeheuol. Ffenestri gwydr lliw eraill yng nghysegrfa 1925, arlunydd anhysbys. Yng nghapel y De llechen mewn ffrâm Gothig wedi’i chysegru i John Joseph Lennon, Rheithor St Gregory’s Weld Bank, Chorley, a fu farw ar 12 Hydref 1897. Mae’r gosodiadau gwreiddiol y tu mewn i’r tŷ offeiriad yn cynnwys drysau 5-panel, pen-drawstiau a sgyrtinau dwfn, lleoedd tân llechfaen a marmor, porth mynediad gyda sgrîn, grisiau tro cam gyda balwstrau wedi’u turnio, pyst grisiau rhigolog, a phanelu mahogani.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig fel eglwys fawr gyflawn o ddiwedd y 19g yn y dull Gothig Addurnol, yn ffurfio grŵp gyda’r tŷ offeiriad o’r un cyfnod. Mae’r eglwys wedi goroesi heb newid rhyw lawer gyda thu mewn da yn cynnwys gosodiadau o ansawdd uchel gan gynnwys yr allorau a’r gwydr lliw. Gwerth grŵp gydag adeiladau rhestredig cyfagos yn Ardal Gadwraeth Pwllycrochan. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio