Cyfnod
Eglwys Gatholig a adeiladwyd ym 1968 yn unol â dyluniadau Gwilym Parry Davies. Y contractwr oedd Hugh Jones a’i Fab, Dinbych. Y gost (am yr eglwys a thŷ’r offeiriad) oedd £25,000.
Roedd y Tadau Jeswit wedi sefydlu cenhadaeth yn Ninbych ym 1853 ac adeiladwyd capel ar dir ym Mryn Sychar ym 1863. Gwasanaethwyd hwn ar benwythnosau am flynyddoedd lawer gan seminaryddion o eglwys Sant Beuno. Ymhen amser penderfynwyd bod yr eglwys yn rhy fach, felly ar ôl codi arian adeiladwyd eglwys a thŷ’r offeiriad newydd. Wedi ei chysegru i Sant Joseff, agorwyd yr eglwys ym 1968 gan John Petit, Esgob Mynyw.
Mae dyluniad yr eglwys yn adlewyrchu’r diwygiadau a ddaeth o ganlyniad i Ail Gyngor y Fatican ac, yn fwriadol, nid yw’n draddodiadol ei hadeiladwaith, ei deunyddiau na’i threfniant. Adeiladwyd hi ar gynllun sgwâr, ond trefnwyd hi gyda bedyddfa a chysegrfa wedi’u halinio ar echel letraws. Mae hefyd yn nodedig am ddefnyddio strwythur to paraboloid hyperbolig, math o do a ddatblygwyd yn gyntaf cyn yr Ail Ryfel Byd ond a ddaeth yn fwy poblogaidd yn ystod y 1950au a’r 1960au ac a ddefnyddiwyd ar gyfer strwythurau a oedd yn gofyn am ofod cynllun agored mawr. Mae iddo nifer o fanteision nad oes gan do wedi’i lunio yn y dull traddodiadol – y gallu i’w godi’n gyflym, ei hunan-orffeniad o ansawdd uchel, a’i gost cymharol fychan. Mae enghreifftiau yn Lloegr, fel Gwasanaethau Markham Moor (1960-1) ac eglwys Sant Ioan, Lincoln (1962-3), y naill a’r llall gan Sam Scorer, a Sefydliad y Gymanwlad (1962-3) yn rhestredig. Yng Nghymru cafodd pwll nofio Waterworld Wrecsam ei adeiladu gyda tho paraboloid hyperbolig (1965-7). Mae’n bosib i’r defnydd ohono yn Ninbych, tra’n hwyr yng nghyd-destun y DU, fod wedi’i effeithio gan do Wrecsam. Y defnydd o’r math hwn o do yn Ninbych yw’r ail enghraifft, hyd y gwyddys, yng Nghymru.
Mae’r defnydd o strwythur to hunangynhaliol tenau yn eglwys Sant Joseff yn caniatáu gofod mewnol hyblyg heb gynhalbyst mewnol. Mae cryfder y to yn ddyledus i dyndra pilen yn ffurf haen ddwbl o estyll tafod a rhigol gyda distiau pren rhyngddynt. Mae strip y llofft olau, yn union o dan y to, yn rhoi’r argraff o do yn arnofio. Caiff y to ei ddal i lawr gan folltau i mewn i geudod y waliau a’i angori gan fwtresi concrid cyfnerthedig mawr yn nau o’r corneli isel.
Mae rhai newidiadau bychain wedi’u gwneud i’r tu allan (newid estyll yr wyneb-fyrddau am rai uPVC), a’r tu mewn yr oedd yna’n wreiddiol Gapel yr Arglwyddes wedi’i wahanu oddi wrth y narthecs gan bared, ond symudwyd y pared i greu ystafell ymgynnull fawr ac ardal ymborthi/gweini lluniaeth.