Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87906
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Sant Illtud  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Ddinbych  
Cymuned
Rhuddlan  
Tref
Rhuddlan  
Ardal
 
Dwyreiniad
302293  
Gogleddiad
378605  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Wedi’i lleoli ymhlith tai ar ochr ogleddol Rhuddlan, ac mae mynediad iddi o Faes Onnen a Lôn y Ficerdy.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Eglwys Gatholig rhwng 1975-76 gan bractis pensaernïol Partneriaeth Bowen Dann Davies (BDDP). Y contractwr oedd Anwyl Construction. Y gost adeiladu oedd £48,000. Fel sawl tref ar hyd arfordir gogledd Cymru, profodd Rhuddlan dwf cyflym yn y cyfnod wedi'r rhyfel. Roedd y gynulleidfa Gatholig wedi rhentu hen stabl ar gyfer cynnal yr Offeren ers blynyddoedd lawer, ond ym 1960 dechreuodd Esgob Mynyw ymgyrch codi arian ar gyfer eglwys barhaol. Roedd yr arian wedi'i gasglu erbyn canol y 1970au. Rhoddodd offeiriad y plwyf, y Tad Murphy, friff i'r practis pensaernïol sef Partneriaeth Bowen Dann Davies ar gyfer eglwys a fyddai'n addas ar gyfer cynulleidfaoedd o wahanol faint yn dibynnu ar adeg y flwyddyn a nifer y bobl ar wyliau yn y dref. Roedd BDDP wedi cwblhau'r eglwys Gatholig gyfagos yn Nhywyn (qv) yn ddiweddar, yn ogystal â'r un ym Menllech (qv) ar Ynys Môn. Mae'n debyg mai'r eglwysi hyn ysbrydolodd y dewis o bensaer yn Rhuddlan ac a ddylanwadodd ar ddyluniad yr eglwys. Ymgorfforodd BDDP lawer o nodweddion a ddefnyddiwyd yn eu heglwysi cynharach, megis capasiti hyblyg, trefniant a lleoliad y gysegrfa, y gyffesgell, toiledau a chegin fach - a dilynodd yr un egwyddorion dylunio gyda thoeau llydan isel a gwedd allanol y cynllun. Mae'r tu mewn eang yn mynegi syniadau cyfoes am arferion litwrgaidd yn dilyn Ail Gyngor y Fatican (1962-65). Rhuddlan oedd yr ail o dair eglwys hynod a grëwyd gan BDDP rhwng 1973 a 1982. Datblygodd themâu cynhenid Gymreig a sefydlwyd gan Stewart Powell Bowen gyda dyluniad Ein Harglwyddes o Lourdes ym Menllech (1964-5), ac y cyfrannodd Bill Davies yr holl waith pensaernïol ar ei chyfer. Dilynodd Crist y Brenin yn Nhywyn ym 1973-4, gan adleisio dyluniad Benllech. Adeiladwyd Rhuddlan yn fuan wedi hynny a dyfarnwyd Cymeradwyaeth RIBA iddi ym 1978. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1982 cwblhaodd y practis gapel Presbyteraidd Cymreig Capel y Groes yn Wrecsam, a efelychodd themâu dylunio cartrefgarwch a thoeau llydan isel a chynlluniau wedi'u mynegi'n glir. Enillodd Gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Ddinesig ym 1982, Cymeradwyaeth RIBA a'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ill dau ym 1984.  

Tu allan
Adeilad hir isel, wedi'i gynllunio ar raddfa i gyd-fynd â'r tai cyfagos. Waliau plastr garw wedi'u paentio. To llechi sment asbestos isel gyda bondoeau sy'n bargodi'n ddwfn. Ffenestri pren â staen lliw tywyll. Tri phrif floc - yr eglwys, y neuadd a'r gysegrfa, gyda'r eglwys ar ben lletaf y rhes i'r gogledd. Oddi yma, mae'r adeilad yn mynd yn is fesul cam, ac yn cilfachu yn unol â'r cynllun ar yr ochr ddwyreiniol, fel bod pob bloc i'w weld ar wahân yn glir. Yn y pen gogleddol (y dwyrain litwrgaidd), mae llinell y to yn codi i lofft olau dros y cysegr, gyda ffenestr ar ei wyneb dwyreiniol. Daw golau i'r cysegr drwy baneli gwydr tal a chul ym mhob cornel hefyd. Drws ochr a ffenestri rhesog o dan y bondo o amgylch yr ongl ogledd-ddwyreiniol lle mae prif ran yr eglwys yn ymestyn y tu hwnt i'r cysegr. Y neuadd yn is na'r eglwys, ac yn cilfachu yn unol â'r cynllun i’r Dwyrain: drws a ffenestri rhesog o amgylch yr ongl ogledd-ddwyreiniol fel o'r blaen. Manylion tebyg i’r gysegrfa, yn mynd yn is fesul cam eto. Ffenestri gwydr yn y to ar grib bloc y neuadd a bloc y gysegrfa. Golwg gorllewinol di-dor gyda ffenestri mewn bandiau hir o dan y bondo ac o amgylch y brif fynedfa wydrog tua'r pen gogleddol.  

Tu mewn
Tu mewn syml gyda waliau wedi'u paentio'n wyn a deunyddiau naturiol wedi'u hamlygu, gan gynnwys llawr parquet (gyda charped arno yng nghorff yr eglwys a'r cysegr) a thrawstiau a nenfydau astellog, sy'n anghymesurol, gyda ffurfiau sy'n wahanol yn yr eglwys a'r neuadd. Allor a bedyddfaen ar lwyfan uwch, y bedyddfaen pren ar ffurf sigurat pen i waered gyda phlinth gwyrdd a llechen ar ei ben. Mae'r tabernacl wedi ei addurno â symbolau'r Ewcharist. Meinciau a dodrefn eraill gwreiddiol, y cyfan yn rhan o'r dyluniad gwreiddiol. Dim gwahaniaeth strwythurol rhwng yr eglwys a'r neuadd, gan olygu y gellir defnyddio'r neuadd fel estyniad i'r eglwys.  

Rheswm dros Ddynodi
Caiff ei chynnwys oherwydd ei diddordeb arbennig fel enghraifft wych o eglwys Gatholig wedi'r rhyfel, ac o waith Partneriaeth Bowen Dann Davies, un o'r partneriaethau pensaernïol mwyaf medrus yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Mae'r adeilad yn batrwm hyderus o'r idiom frodorol fodernaidd y cysylltir y Bartneriaeth yn arbennig â hi, sy'n gysylltiedig â syniadau diwygio Ail Gyngor y Fatican. Mae'r eglwys wedi goroesi heb fawr o ddim wedi'i newid. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio