Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87907
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig y Beichiogiad Dihalog, gan gynnwys y ty offeiriad cysylltiedig  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir y Fflint  
Cymuned
Flint  
Tref
Y Fflint  
Ardal
 
Dwyreiniad
324165  
Gogleddiad
373013  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar ben Gogleddol Stryd Coleshill, yn agos i’r gyffordd â Stryd Earl a Ffordd Aber.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Fictoraidd  

Cyfnod
Eglwys Gatholig wedi’i hadeiladu yng nghanol yr 1880au yn y dull Gothig Seisnig Cynnar yn defnyddio brics coch Rhiwabon yn unol â dyluniadau gan Sinnott & Powell, penseiri amlwg yng Ngogledd-orllewin Lloegr ar ddiwedd y 19g. Hyd at y 18g nid oedd y Fflint wedi bod yn ddim mwy na phentref bach. Yn y 18g dechreuwyd ar y gwaith diwydiannol o gloddio am lo a phrosesu plwm ar raddfa fechan, a chynyddodd cyflymder y diwydiannu yn y 19g. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn rhaid i Gatholigion y dref deithio i Dreffynnon i ddathlu’r Offeren. Roedd tir wedi ei brynu ym 1841 gan ddau ŵr lleol - George Roskell, Maer cyntaf y Fflint, ac Edward Roberts – a bwriad y Tad Lythgoe SJ, Rheithor Treffynnon, oedd adeiladu eglwys, ysgol a thŷ offeiriad, ond ni fu unrhyw symud ymlaen am gryn amser. Yn yr 1850au trawsnewidiwyd yr hen waith mwyndoddi i ffatri alcali, a gwelodd y dref gynnydd mawr yn ei phoblogaeth Gatholig. Roedd llawer o’r gweithwyr yn y diwydiannau a oedd yn tyfu yn dod o deuluoedd Gwyddelig a oedd wedi mudo draw, ac roedd y mewnlifiad yn ddigon mawr i greu cymuned Wyddelig ei hiaith yn y dref. Dechreuodd gwaith adeiladu’r eglwys newydd ym 1854, dan arweiniad y brodyr Cycyllog a oedd wedi cyrraedd Pantasaff ddwy flynedd yn gynt. Dechreuodd y datblygiad gydag ysgol/capel, ac fe’i cofrestrwyd ar gyfer addoli ym 1858. Ehangwyd yr ysgol/capel ym 1876 ac yna adeiladwyd yr eglwys ei hun – gosodwyd ei charreg sylfaen ar 5 Mehefin 1884 gan Dr Edmund Knight, Esgob Amwythig. Dyluniwyd hi gan James a Bernard Sinnott o Sinnott & Powell o Lerpwl a’r adeiladwyr oedd y Meistri Reney o Gei Connah. Agorwyd hi ar 30 Awst 1885 gan y Cardinal Manning. Cost adeiladu’r eglwys oedd £2,000. Roedd wedi’i chynllunio gyda thŵr a meindwr. Ond ni chafodd y naill na’r llall eu hadeiladu. Ar ôl dymchwel Downing Hall, cartref yr Arglwydd a’r Fonesig Denbigh, rhoddwyd yr allor o’r capel preifat yno i’r Fflint ym 1890 gan frodyr Pantasaff a gosodwyd hi yno fel uchel-allor; symudwyd yr uchel-allor wreiddiol i Gapel y Forwyn Fair. Yn yr un flwyddyn gosodwyd celfddelw o’r Galon Sanctaidd ac adeiladwyd y tŷ offeiriad presennol sy’n gysylltiedig â’r eglwys. Talwyd am yr olaf gan Mrs Elizabeth Harnett, merch George Roskell. Aildrefnwyd y seintwar ym 1936 pan osodwyd allor newydd a rheilen seintwar o lechfaen Gwespyr ac ail-leoli allor Downing Hall fel allor y Forwyn Fair. Ym 1958, bu aildrefnu pellach i allor y Forwyn Fair, cysegrfa’r Galon Sanctaidd a’r fedyddfan gyda lloriau newydd yn yr eiliau, y porth a’r seintwar. Yn ddiweddar yn yr 20g aildrefnwyd y gysegrfa ymhellach - symudwyd peth o’r dodrefn a chafwyd rhai newydd yng nghapel y Forwyn Fair.  

Tu allan
Eglwys, dull Gothig Seisnig Cynnar diaddurn. Brics coch Rhiwabon gydag addurniadau tywodfaen (bellach wedi’u peintio). To llechi, ar oleddf serth. Corff yr eglwys gyda seintwar talcen crwn amlochrog o dan yr un to ac eil benty Ogleddol gyda chapel y Forwyn Fair ar ei ben Dwyreiniol. Porth Gogledd-orllewinol yn estyn allan o’r eil, gyda bwa wedi’i fowldio a’i osod yn ddwfn. Ffenestri lansed, rhai’r eil yn barau, y rhai i’r Gorllewin â’u heyrn yn rhwyllog. I’r Gorllewin o gorff yr eglwys ffenestr lansed driphlyg, band silff ffenestr risiog yn ei fframio a mowldin capan. Ffenestri bychain pedeirdalennog i’r llofft olau. Adeilad cysegrfa 2-lawr i’r De-ddwyrain. Y tŷ offeiriad yn gysylltiedig â’r eglwys yn y De-orllewin; brics gyda tho llechi, talcen sy’n wynebu’r Gorllewin ychydig ymlaen, a thalcenni mewn parau yn wynebu’r De, i gyd â bricwaith addurnol dan y bondo, talcenni a chwrs llinyn.  

Tu mewn
Wedi ei orffen mewn brics Rhiwabon (fel y tu allan), corff yr eglwys a’r eil wedi’u gwahanu gan rodfa o golofnau drwm o gerrig Swydd Gaerefrog gyda phennau plaen. 3 ffenestr llofft olau gron uwchben. Oriel côr uwchben y gysegrfa. To baril bwaog corff yr eglwys o ffawydden goch, gyda’r llawr, y drysau, y corau a’r gwaith coed gwreiddiol arall i gyd o ffawydden goch hefyd. Llawr y seintwar o estyll derw. 3 ffenestr lansed yn nhalcen crwn y seintwar, y ffenestr ganol ag ynddi wydr lliw yn portreadu Ein Harglwyddes Ddihalog.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys er gwaethaf colli ac aildrefnu rhai o’r gosodiadau a’r dodrefn gwreiddiol, oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig fel eglwys nodedig o ddiwedd y 19g gyda chymeriad cryf, syml a defnydd nodedig o frics Rhiwabon y tu mewn yn ogystal â’r tu allan. Dyluniwyd hi gan gwmni amlwg o benseiri diwedd y 19g a oedd yn gyfrifol am amrediad o eglwysi yn Archesgobaeth Lerpwl a Salford, llawer ohonynt wedi’u rhestru isod. Mae dyluniad yr eglwys yn adlewyrchu diddordeb hanesyddol tref y Fflint, ei diwydiant a’i phoblogaeth Gatholig. Mae ganddi hefyd ddiddordeb hanesyddol oherwydd ei chysylltiadau â chymunedau mynachaidd Pantasaff a Threffynnon. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio