Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87908
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes o Lourdes  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Ynys Môn  
Cymuned
Llanfair-Mathafarn-Eithaf  
Tref
Benllech  
Ardal
 
Dwyreiniad
252006  
Gogleddiad
382725  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar lethr ar ochr ddeheuol Heol y Traeth.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Eglwys Gatholig 1964-5 gan Stewart Powell Bowen gyda Bill Davies yn brif bensaer. Roedd Benllech, fel llawer o drefi arfordirol y Gogledd yn y cyfnod wedi'r rhyfel, yn cydbwyso poblogaeth Gatholig gymharol isel gyda mewnlifiad tymhorol o dwristiaid yn y tymhorau gwyliau. Ym 1959 penodwyd y Tad J Jackson yn offeiriad y plwyf gan yr Esgob Petit o Mynyw a bu'n cynnal Offeren reolaidd mewn neuadd ddawns leol. Aeth y Tad Jackson ati i godi'r arian ar gyfer eglwys barhaol a phrynu llain o dir ar Ffordd y Traeth am £950. Gwnaed gwaith codi arian er mwyn talu'r costau adeiladu a dyna pryd y cafodd syrfëwr o Gaernarfon gontract i ddylunio eglwys. Lluniwyd cynlluniau ar gyfer eglwys draddodiadol wedi ei hadeiladu o gerrig ond ni chawsant eu rhoi ar waith. Yn hytrach, penodwyd Stewart Powell Bowen, yn gweithio gyda Bill Davies, i ddylunio eglwys. Roedd dyluniad Bill Davies ar gyfer eglwys fodern drawiadol, ac roedd yn troi cefn ar draddodiad drwy fanteisio ar ethos diwygiadol Ail Gyngor y Fatican, ac yn ei ddefnydd o idiom brodorol modern sy'n ymateb i'w gyd-destun tirwedd hefyd. Dyluniwyd yr adeilad fel lle hyblyg hefyd, y gellir ei addasu ar gyfer amrywiadau tymhorol ym maint y gynulleidfa. Dechreuwyd adeiladu'r eglwys ym 1964 ac fe'i cwblhawyd y flwyddyn ganlynol am gost o £15,500. Fe'i hagorwyd gan yr Esgob Petit ar 5 Medi 1965. Gosododd yr eglwys ym Menllech gynseiliau ar gyfer gwaith yn y dyfodol, a sefydlodd yr arddull modernaidd brodorol a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach mewn dwy eglwys Gatholig arall yn y Gogledd (Crist y Brenin yn Nhywyn ym 1973-4 (qv) a Sant Illtud yn Rhuddlan ym 1975-6 (qv) ac yna yng nghapel Presbyteraidd Capel y Groes yn Wrecsam (1982). Mae'r rheiliau cymun gwreiddiol yn yr eglwys wedi'u tynnu oddi yno ac mae rhai ffitiadau eraill wedi'u disodli, ond fel arall mae'r eglwys wedi goroesi heb fawr ddim newid.  

Tu allan
Eglwys mewn arddull frodorol fodernaidd syml. Cyfres o flociau â tho fflat yw'r adeilad, gyda tho ag un goleddf serth yn ymestyn i fyny dros y cysegr, a tho onglog llai ag un goleddf serth â ffenestr dros y fedyddfa. Mae prif ran yr eglwys bron yn sgwâr o ran cynllun gyda chysegr ychydig yn gulach. Mae'r fynedfa ar ochr orllewinol (y de litwrgaidd), mewn cyntedd rhwng y bloc bedyddfa sgwâr ddatblygedig ac adeilad hir y gysegrfa, sy'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae'r waliau rendr plastr garw wedi'u peintio'n wyn ar blinth o frics peirianyddol llwyd, heblaw am y cysegr sydd wedi'i osod ar blinth o wenithfaen rwbel haenog. Ffenestri pren â silffoedd ffenestri llechi, drysau pren gwydrog. Toeau fflat gyda gorchuddion ffelt, toeau un goleddf o lechi a chopr. Croes ddur syml, denau wedi'i pheintio ar wal litwrgaidd orllewinol yr eglwys.  

Tu mewn
Mae tu mewn yr eglwys yn syml ond yn ddramatig, gan gyfuno nenfydau tafod a rhych pinwydd isel gyda gofod uchder dwbl yn taflu golau oddi uchod ar y cysegr. Ceir mynediad o gyntedd sy'n arwain i mewn i narthecs bach gyda bedyddfa flaenorol yn y gornel orllewinol a chysegrfa yn y dwyrain. Mae'r narthecs yn ffurfio ardal ar gyfer sefyll uwchben y prif ofod addoli (y mae bron yn ffurfio ystlys iddo), wedi'i oleuo gan 5 ffenestr do dwfn - mae'r balwstrad pîn yn ychwanegiad diweddarach. Mae grisiau (a ramp ychwanegol) yn arwain i lawr i ardal addoli, gyda'r wal litwrgaidd ogleddol ar ongl tuag at y cysegr, a nenfwd isel. Cysegr uchder dwbl un gris yn uwch ac allor dri gris arall yn uwch, oll wedi'i oleuo'n drawiadol oddi uchod o'r ffenestr llofft olau yn wyneb litwrgïaidd dwyreiniol y to un goleddf, a dwy ffenestr uchel yn y wal oddi tano. Mae'r allor yn agos i ben blaen y cysegr, sef slabiau anferth o lechen Penrhyn. Mae tabernacl silindrog pres ar y wal gefn gyda llechen uwchben gyda chroes bren a metel arno, ac uwchben hyn arwyddlun o bysgodyn cerfluniedig gyda symbol Chi-Rho. Gorsafoedd y Groes ceramig wedi'u peintio. Lloriau teils chwarel drwyddi draw, carped ar rai rhannau.  

Rheswm dros Ddynodi
Caiff ei chynnwys oherwydd ei diddordeb arbennig fel enghraifft arloesol o eglwys Gatholig wedi'r rhyfel, gan arddangos syniadau diwygio Ail Gyngor y Fatican a throi cefn ar gonfensiynau cynllunio eglwysig gyda dyluniad hyderus yn defnyddio moderniaeth frodorol unigryw. Un o eglwysi gorau Bill Davies a Phartneriaeth Bowen Dann Davies, oedd ymhlith y penseiri a'r partneriaethau mwyaf medrus oedd yn gweithio yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Mae'r eglwys wedi goroesi gyda chymharol ychydig wedi ei newid. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio