Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.
Statws
Amddiffyniad Dros dro
Enw
Heneb i’r Esgob Brown ym mynwent Eglwys Dewi Sant
Awdurdod Unedol
Sir y Fflint
Lleoliad
Ym mynwent Eglwys Gatholig Dewi Sant, yn union i’r Dde o’r eglwys.
Cyfnod
Adeiladwyd eglwys Dewi Sant yn Pantasaff dan nawdd yr Is-iarll a’r Fonesig Fielding: roedd Louisa Pennant yn etifeddes Downing Hall, ac ystâd a oedd yn cynnwys Pantasaff. Penderfynodd hi a’i gŵr adeiladu eglwys yno i ddathlu eu priodas ym 1846: Eglwyswyr Anglicanaidd oeddent pan ddechreuodd yr adeiladu, ond roeddent wedi troi’n Catholigion cyn iddi gael ei orffen ac, ar ôl brwydr gyfreithiol, agorwyd yr adeilad fel eglwys Gatholig ym 1852. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Tŷ Brodyr ar y safle a rhoddwyd yr eglwys yng ngofal y Brodyr Llwydion Cycyllog.
Dr James Brown (1811-1881) oedd Esgob cyntaf Amwythig: crëwyd Esgobaeth Amwythig ym 1851 fel rhan o adferiad yr hierarchaeth Gatholig yng Nghymru a Lloegr yng nghanol y 19g. Roedd hyn yn cynnwys siroedd Môn, Caernarfon, Dinbych, Fflint, Meirionnydd a Trefaldwyn, hyd at 1895. Gwasanaethodd Brown fel Esgob tan iddo farw ym 1881. Dano ef, bu cynnydd sylweddol yn y nifer o offeiriaid, eglwysi, mynachlogydd, lleiandai ac ysgolion i’r tlodion, o fewn ei esgobaeth. Mae’n bosib fod yr heneb wedi gael ei chynllunio gan Edmund Kirby. Roedd Kirby, pensaer a disgybl i E W Pugin a chynorthwyydd i John Douglas yng Nghaer, yn aelod o’r pwyllgor a oedd wedi’i sefydlu i goffáu bywyd a llwyddiannau’r esgob.
Tu allan
Heneb uwch gothig. Beddrod cist fechan ar blinth taprog sydd wedi’i fowldio, gyda slab top tebyg i do â’i dalcen mewn ffurf croes, gyda llechi cen pysgod a chroes wedi’i rholio a’i gwrymio. Arysgrif i’r ochrau. Croes ddeiliog addurnol ar y pen, wedi’i chyfoethogi ar bob ochr ag arwyddluniau a delwau amrywiol mewn cerfwedd uchel ac isel. Mae’r groes wedi’i hystlysu gan angylion sydd wedi’u chynnal ar golofnau cyfansawdd gyda siafftiau clystyrog a thalcenni rhwyllog.
Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig fel heneb yn yr arddull Gothig o'r 19g, ac oherwydd ei diddordeb hanesyddol arbennig oherwydd ei gysylltiad â ffigwr amlwg yn yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn ystod yr hanner canol i ddiwedd y 19g. Yr enghraifft orau mewn grŵp o henebion mewn cyflwr da sydd ym mynwent yr eglwys.
Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]