Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87918
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Dewi Sant  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir y Fflint  
Cymuned
Mold  
Tref
Yr Wyddgrug  
Ardal
 
Dwyreiniad
324154  
Gogleddiad
364206  
Ochr o'r Stryd
E  
Lleoliad
Oddi ar Lôn Dewi Sant, wrth y gylchfan ar yr A541 ar y gyffordd â New Street.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Adeiladwyd yr eglwys Gatholig ym 1965-6 a’i dylunio gan y cwmni medrus Weightman and Bullen. Fe’i codwyd ar gost o £45,000. Yn nechrau a chanol y 19eg ganrif, roedd yr offeren yn cael ei gweinyddu mewn tŷ yn New Street a llety yn Milford Street. Yn wreiddiol roedd y genhadaeth yn cael ei chynnal gan y brodyr Cycyllog o Gaer ac yna'r brodyr o Bantasaff. Ym 1862 adeiladwyd eglwys fechan yn Ffordd Fain, ac yna'n ddiweddarach adeiladwyd tŷ’r offeiriad ac ysgol gerllaw. Yn y 1930au caffaelwyd safle mawr gerllaw'r eglwys i’w ddatblygu gydag adeiladau newydd i wasanaethu'r gymuned Gatholig yn y dref. Adeiladwyd tŷ’r offeiriad ym 1955-56, a gafodd ei ddylunio gan Frederick Roberts o'r Wyddgrug. Ef hefyd a oedd yn gyfrifol am ddylunio’r ysgol fwy o faint a adeiladwyd ar ddechrau'r 1960au. Yn ddiweddarach darparwyd cwfaint ar gyfer lleianod y Sainte Union Congregation a oedd wedi’u penodi i fod yn athrawon yn yr ysgol. Yn olaf, adeiladwyd eglwys newydd ym 1965-6. Fe'i dyluniwyd gan y meistri Weightman and Bullen a oedd wedi datblygu arddull newydd o ddylunio eglwysi yn sgil Ail Gyngor y Fatican. Hwy a fu’n gyfrifol am lawer o gomisiynau yn arbennig ar draws Gogledd Orllewin Lloegr. Eu practis hwy gynlluniodd eglwys Dewi Sant yn Nhywyn maes o law (1969). Yn wreiddiol y bwriad oedd cael cwrt caeedig o flaen yr eglwys, ond ni chafodd hyn ei gynnwys yn y dyluniad terfynol. Cafwyd rhai newidiadau yn y 1990au, gan gynnwys ailosod drysau ar y pen Gorllewinol, gosod rhai ffenestri uPVC, troi'r fedyddfa yn storfa, tynnu rheiliau metel yr allor a symud yr allor yn ôl (i ganiatáu seddau ychwanegol), gan ar yr un pryd greu capel y Sacrament Sanctaidd yn y gofod oddi ar yr eil ddeheuol a fu’n gyffesgell yn wreiddiol. Mae capeli ystlys o boptu pen gorllewinol corff yr eglwys hefyd wedi'u haddasu ar gyfer defnyddiau eraill. Yn 2022, gosodwyd 12 o ffenestri lliw dalle de verre gan Jonah Jones yn yr eglwys ar ôl eu symud o eglwys Morfa Nefyn a oedd wedi cau. Roeddent wedi eu creu ar gyfer yr eglwys honno ym 1967-8. Adeiladwyd yr eglwys fel rhan o'r cynllun ehangach a oedd yn cynnwys tŷ’r offeiriad, neuadd y plwyf, ysgol a chwfaint. Dim ond yr eglwys sydd wedi ei chynnwys yn y rhestru hwn.  

Tu allan
Mae’r dyluniad yn seiliedig ar gynllun hydredol traddodiadol sef corff eiliog, transeptau a seintwar, mae'r elfennau wedi'u hail-ddychmygu'n sylweddol mewn idiom gyfoes a’u mynegi mewn deunyddiau modern. Mae’r wyneb o frics lliw oren gwledig o Swydd Gaerlŷr ar biler maen wedi'i atgyfnerthu gan ddur. Mae’r toeau o ddur a phren wedi’u gorchuddio gan gopr. Mae’r cynllun yn fawr a hirsgwar, sy'n cynnwys corff yr eglwys gydag eiliau sydd ychydig ymlaen ym mhen dwyreiniol a gorllewinol yr adeilad, ac yn cydio yn y to canopi ar oleddf dros y fynedfa, a chyntedd penty yn y Dwyrain. Mae estyniadau bas tebyg i dransept i’r Gogledd a’r De, gyda band o ffenestri isel cul i’r Gogledd, grid afreolaidd o oleuadau uwch i’r De. Mae waliau Gogleddol a Deheuol corff yr eglwys yn cael eu mynegi gan estyniadau penty un-llawr gyda thoeau wedi’u gorchuddio â chopr, wedi’u gwahanu gan ffenestri tal. Mae yn y clochdy, sydd ychydig ymlaen yn y cornel De-orllewinol, un gloch gopr a chroes enfawr alwminiwm (gwydr ffibr yn wreiddiol). Mae i ffrynt cilfachog y Gorllewin ganopi penty wedi’i orchuddio â chopr dros y fynedfa, a ffenestri tal yn estyn o’r to hwn hyd at y bargod, yn yr onglau gyda’r eiliau ychydig ymlaen. Mae mynedfa ychwanegol ym mhen Gorllewinol yr eil Ogleddol.  

Tu mewn
Brics lliw oren gwledig Swydd Gaerlŷr, fel y tu allan. Corff llydan, urddasol, yr eiliau'n cordeddu drwy'r pileri sydd wedi eu gorchuddio â brics i gynnal y to. Mae’r pileri hyn yn diffinio baeau llydan a chul bob yn ail – y baeau cul â ffenestri uchel, y baeau lletach yn agor i gilfachau bwaog bas. Yn wreiddiol roedd dau o’r baeau yn cynnwys cyffesgelloedd, ond mae’r bae i’r De bellach yn gapel y Sagrafen Fendigaid. Oriel ar y pen gorllewinol, i’w chyrraedd ar risiau troellog yn y cornel Gogledd-orllewinol. Hen fedyddfaen i’r De-orllewin, bellach yn storfa. Y cysegrfan wedi’i uwcholeuo’n ddramatig gan lusern wydredig, wedi’i hystlysu gan gapeli yn null transept wedi’u cysegru i’r Forwyn Fair ac i Ddewi Sant, y ddau â ffenestri gwydr lliw haniaethol dalle de verre gan Charles Norris, mynach o Abaty Buckfast. Bwâu bas yn waliau Dwyreiniol y transeptau hyn yn agor i fwâu cul gyda ffenestri tal sy’n rhoi ochr-oleuni cudd i’r cysegrfan. Y tu ôl i’r rhain, cysegrfa ac ystafell flodau sy’n cael eu cysylltu gan dramwyfa sy’n rhedeg y tu ôl i'r cysegrfan. Mae’r 12 ffenestr gan Jonah Jones wedi’u gwasgaru drwy’r eglwys mewn dwy set: mae 8 wedi’u gosod mewn fframiau y tu blaen i ffenestri sydd eisoes yn bodoli i bob ochr o gorff yr eglwys ac ar y pen gorllewinol, a 4 wedi’u gosod mewn blychau goleuadau ar y waliau mewnol i’r Dwyrain a’r Gorllewin. Cyfuniadau haniaethol mewn lliwiau sylfaenol cryf yw’r rhan fwyaf ohonynt, er bod y pâr o boptu’r cysegrfan yn cynnwys arwyddluniau o sêr a blodau.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi’i chynnwys oherwydd ei diddordeb pensaernïol a hanesyddol fel eglwys wych gan un o gwmnïau pensaernïol pwysicaf y cyfnod ar gyfer adeiladau eglwysi Catholig. Mae’r dyluniad yn dehongli cynllunio traddodiadol mewn idiom fodern i greu adeilad trawiadol a medrus. Mae’r 12 ffenestr gan Jonah Jones, ynghyd â’r ffenestri gwreiddiol gan Charles Norris, yn cynrychioli casgliad pwysig o waith gan ddau o artistiaid blaenaf yr 20g a oedd yn gweithio mewn dalle de verre. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio