Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87924
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Eglwys Gatholig Sant Tudwal, gan gynnwys Ty’r Offeiriad  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Barmouth  
Tref
Abermo  
Ardal
 
Dwyreiniad
261170  
Gogleddiad
316175  
Ochr o'r Stryd
E  
Lleoliad
Ar ochr Ogleddol y dref, i ochr Ddwyreiniol King Edward’s Street (A496).  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol  
Cyfnod
Edwardaidd  

Cyfnod
Eglwys Gatholig a adeiladwyd rhwng 1904 a 1905 yn unol â dyluniadau Alfred Gilbertson o Lerpwl yn y dull Adfywiad Gothig gyda dylanwadau Celfyddyd a Chrefft. Adeiladwyd Tŷ’r Offeiriad cysylltiedig ynghyd â’r eglwys hefyd yn unol â dyluniadau Gilbertson. Tref harbwr fechan oedd Abermo pan ddatblygodd i fod yn gyrchfan gwyliau tua diwedd y 19g. Roedd y ddarpariaeth i addoli ar gyfer Catholigion bryd hynny yn brin iawn, ac fe benodwyd yr offeiriad cyntaf, y Parch Robert Maurice, ym 1878 ond gadawodd yn fuan wedyn. Olynwyd ef gan y Tad McMahon a ddefnyddiodd ei dŷ rhent ei hun yn Nheras Aberamffra fel capel, ond ni fu ymdrechion i sefydlu eglwys barhaol yn llwyddiannus: roedd poblogaeth Gatholig y dref yn fach ac yn gyfnewidiol. I mewn i’r 1880au, treuliai Iesuwyr Coleg Sant Beuno eu gwyliau haf yn yr ardal gan helpu pan oedd angen. Ym 1884 penododd Esgob Amwythig, oedd â’i esgobaeth bryd hynny yn cynnwys yr hen Sir Feirionnydd, y Parch Thomas Donovan i genhadaeth Abermo. Dechreuodd Donovan godi arian ar gyfer eglwys barhaol ac ar 7 Awst 1891 agorwyd capel tun ar Ffordd y Parc fel ateb dros dro. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Tudwal, sant o’r 6g a ymsefydlodd am ychydig yn lleol. Parhaodd y codi arian dan Donovan a’i olynwyr, y Parch W A Baggaley a’r Parch C B Wilcock. Gallodd Wilcock brynu’r safle ar gyfer y Sant Tudwal bresennol ar dir i’r Gogledd o ganol y dref. Rhoddodd y gwerthwr, Mr Williams, £25 tuag at adeiladu’r eglwys newydd. Penodwyd Alfred Gilbertson i ddylunio’r eglwys newydd a gosodwyd y garreg sylfaen ar 15 Awst 1904 gan yr Esgob Francis Mostyn o Fynyw. Cyflogwyr Meistri Lloyd, Williams & Jones o Abermo fel seiri maen, y Meistri Thomas & Parry o Lanbedr fel seiri coed, a Mr John Roberts fel peintiwr. Agorodd ym 1905 ar gost o £5041 a hi oedd yr eglwys Gatholig ôl-Ddiwygiad Protestannaidd gyntaf yn Sir Feirionnydd. Gosodwyd y dodrefn gan gynnwys yr uchel allor a Gorsafoedd y Groes wedi’r agoriad, a gwerthwyd y capel tun ym 1906. Yr unig newidiadau mewnol y gwyddys amdanynt yw’r addasu a wnaed ar yr uchel allor yn dilyn Ail Gyngor y Fatican a symud reiliau allor y rhodfa agored (cedwir hwy ar y safle).  

Tu allan
Eglwys yn y dull Adfywiad Gothig Seisnig Cynnar. Meini gwenithfaen Minffordd mewn haenau ar hap gyda naddiadau tywodfaen melyn Cefn. To llechi. Croesau ar bob talcen. Ffenestri yn gymysgedd o rai lansed sengl a pharau, wedi’u sgwario a chyda rhwyllwaith cromlinog. Y tŵr De-orllewinol gyda bwtresi ar ongl, cloch-agoriadau lansed lwfrog mewn parau, to trumiog a chilfach wyth-ochrog â chanopi ar y top gyda cherflun o’r Forwyn Fair. Mynedfa ar waelod y tŵr. Y Gysegrfa wedi’i goleuo gan ffug-dranseptau talcennog. Tŷ’r Offeiriad i’r dde, 3-llawr 2-fae gyda thu blaen talcennog, ffenestri croes ac oriel ym mae’r ochr chwith. Mae ffenestri tŷ’r Offeiriad yn eu hagoriadau gwreiddiol wedi eu disodli gan rai uPVC.  

Tu mewn
Porthdy yn arwain i narthecs gyda bedyddfan y tu ôl i glwyd yng nghanol y wal orllewinol a sgrin binwydden-byg wydredig i gorff yr eglwys. Oriel gydag organ uwchben a mynediad i’r clochdy. To pren trawst-gordd gyda brenhinbost ar ffurf croes a thrawstiau coler wedi’u fframio gan ongl-groeslathau; rhannau eraill ag addurnwaith rhwyllog. Cyffesgell a chysegrfa i’r ochr ogleddol gyda mynediad trwy’r gysegrfa i dŷ’r offeiriad. Mae casgliad hyfryd o ddodrefn derw gan Ferdinand Stuflesser o Awstria yn parhau i fod yn yr eglwys. Allor gyda phanel blaen cerfwedd o'r Swper Olaf bellach wedi’i gwahanu oddi wrth y reredos, gyda chlochdy tal gwaith agored dros gilfach y Fendith a’r tabernacl, cerfwedd o’r Geni a’r Esgyniad a chlochdai ochr byrrach. Wensgotio gyda rhwyllwaith dall a chreneliadau drwy’r cyfan o’r tu mewn gyda manylion tebyg ar bennau a thu blaen y corau. Yn y gysegrfa plinthiau gyda chanopi ac arnynt ddelweddau o’r Santes Thérèse o Lisieux, Sant Pedr, Sant Joseff, ac angel gwarcheidiol. Cerfluniau o Galon Sanctaidd Mair a Mair Ddihalog ar blinthiau gyda chanopi pinaclog i bob ochr o’r gysegrfa. Paneli cerfwedd-isel aml-liwiog Gorsafoedd y Groes mewn fframiau gothig addurnol. Tu mewn Tŷ’r Offeiriad wedi’i foderneiddio i raddau helaeth er yn parhau â’i drefniad gwreiddiol.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi ei chynnwys oherwydd ei diddordeb pensaernïol arbennig fel eglwys fawr bron yn gyfan o gyfnod yr Adfywiad Gothig diweddar, sy’n parhau i fod â set dda o ddodrefn a gosodiadau ac yn gyfan gyda Thŷ’r Offeiriad cysylltiedig. Adeilad pwysig ar ochr Ogleddol y dref ac iddo werth treflun uchel. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio