Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87936
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
08/04/2024  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Tŷ Cwrdd Bach  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Benfro  
Cymuned
Cwm Gwaun  
Tref
Abergwaun  
Ardal
Pontfaen  
Dwyreiniad
202380  
Gogleddiad
234955  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
I’r gogledd-ddwyrain o Dredafydd Uchaf ar ochr ddwyreiniol y ffordd o Benrhiw i Groes Dinas.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Domestig  
Cyfnod
Modern  

Cyfnod
Mae Tŷ Cwrdd Bach yn eco-dŷ a adeiladwyd rhwng 1972-1974 gan Christopher Day (1942-2019) fel cartref i’w deulu, gan ymgorffori adfeilion hen gapel Methodistiaid Calfinaidd. Roedd Christopher Day yn arloeswr ym maes eco-bensaernïaeth, a’i nod oedd symud i ffwrdd o arddulliau a deunyddiau wedi’u masgynhyrchu a chodi adeiladau brodorol sy’n gweddu i’w hamgylchoedd, wedi’u saernïo â llaw a chydag ôl traed carbon bychan. O dan ddylanwad syniadaeth Anthroposoffi Rudolf Steiner, roedd eisiau creu amgylcheddau a fyddai’n cyfoethogi’r enaid ac yn porthi’r ysbryd. Yn y 1960au, roedd pryder cynyddol am effaith yr economi tanwydd ffosil ar yr amgylchedd, ac ym 1970 gadawodd Day swydd yn addysgu pensaernïaeth yn Llundain i astudio amaethyddiaeth organig yng Ngholeg Emerson cyn symud i Sir Benfro ym 1972, gyda’r bwriad o fyw oddi ar y grid a thyfu ei gynnyrch ei hun. Adeiladwyd Capel Tredafydd ym 1792 ac fe’i caewyd ym 1898. Erbyn 1905, roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac erbyn i Christopher Day ei brynu ym 1972, nid oedd fawr ddim ar ôl heblaw am waliau â llystyfiant drostynt. Yn ddiweddarach, dywedodd mai ei nod oedd creu cartref o’r adfail ond gan gadw ei rinweddau hanfodol – ei natur dawel a di-nod, y teimlad o fod wedi’i wreiddio yn y ddaear, yn anad dim y teimlad ei fod yn rhan oesol o’i amgylchedd. Mae gan y tŷ ffynnon breifat sy’n cyflenwi dŵr, gyda thyrbin gwynt bach a phaneli solar yn cyflenwi trydan. Y tŷ hwn a sbardunodd yrfa Day fel pensaer yn ei waith bob dydd. Roedd y rhan fwyaf o’i gomisiynau yng Nghymru ar gyfer tai preifat, ond ei brosiectau mwyaf oedd Ysgol Rudolf Steiner ym Maenclochog a Chanolfan Encil Gristnogol Ffald y Brenin yng Nghwm Gwaun. Cafodd y to glaswellt a grëwyd ym 1974 ei adnewyddu a’i ailblannu â briweg yn 2003.  

Tu allan
Tŷ un llawr gyda waliau cerrig rwbel. To gwyrdd ar oleddf afreolaidd wedi’i blannu â briweg, gyda goleddf bas hir i’r cefn ac estyll pren. Tri chorn simnai carreg ar ffurf debyg i byramid, gyda phlygiadau plwm. Cafnau dŵr plwm. Mae’r tu blaen yn cynnwys wal fwyaf sylweddol yr hen gapel, gyda thri agoriad ffenestr gwreiddiol yn y canol, gyda drws o bob tu. Mae’r ffenestri blaen hyn yn siamffrog trwy osod linteli concrit. Mae’r wal dalcen chwith yn crymu tuag at y cefn, trwy ddefnyddio cerrig wedi’u hailgylchu o’r safle. Mae saith ffenestr o faint, siâp a lleoliad afreolaidd yn y wynebwedd hon; ffenestr betryal syml wedi’i gosod yn isel tuag at y blaen, dwy ffenestr fach iawn ger copa’r talcen, un ar ffurf trapesoid, i’r chwith oddi tani mae ffenestr ar ffurf pentagon afreolaidd gyda lintel goncrit yn dechrau dilyniant o ffenestri llai yn mynd yn is o ran uchder tuag at y pwynt ble mae’r wal gefn yn crymu. Mae llinell y to yn ffurfio cromlin ysgafn dros ddrws cefn canolog gyda ffenestri uchel oddi tani. Biniau storio i’r naill ochr i’r drws cefn, un wedi’i ychwanegu ar ôl 1974, toeau gwyrdd wedi’u plannu â glaswellt. Mae’r wal dalcen dde ar ongl aflem, gyda chornel siamffrog ble mae’n cyfarfod â’r wal gefn. Mae pum ffenestr yn y talcen hwn, ar ffurf trapesoidau o dan y bondo a dau agoriad petryal islaw, gyda lintel goncrit uwchben yr agoriad mwyaf. Mae pob ffenestr yn ffenestri casment pren, gyda gwydr dwbl. Mae drws newydd wedi ei osod yn lle drws stabl gwreiddiol 1974.  

Tu mewn
Heb archwilio, mae ffotograffau o gyhoeddiadau’r pensaer yn dangos ffrâm bren agored a lloriau pren caled. Ffenestri mewn agoriadau dwfn trwy waliau trwchus wedi’u gorchuddio â phlastr garw a weithiwyd â llaw i ffurfio silffoedd bach a chilfachau. Un llawr ar y cyfan, ond gyda grisiau cerrig rhwng rhai ystafelloedd.  

Rheswm dros Ddynodi
Wedi’i restru oherwydd diddordeb pensaernïol arbennig fel enghraifft bwysig o eco-bensaernïaeth diwedd yr 20fed ganrif gan un o’i brif ladmeryddion yng Nghymru. Mae Tŷ Cwrdd Bach hefyd o ddiddordeb hanesyddol arbennig fel adeilad cyntaf Christopher Day, a adeiladwyd fel cartref i’w deulu, ac fel un sy’n cynrychioli pryderon amgylcheddol cynyddol y 1970au cynnar.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio