Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:
Dyddiad Dynodi
12/04/2024
Enw
Carreg Filltir Telford (23)
Lleoliad
Wedi’i osod o flaen cilfach llydan wedi’i leinio â cherrig ar ochr ddeheuol Ffordd Caergybi (A5), yn agos i Chylchfan Stadiwm Nantporth.
Dosbarthiad bras
Cludiant
Cyfnod
Yn dilyn Deddf Uno 1801, dechreuwyd rhaglen i wella’r ffyrdd rhwng y ddwy brifddinas, Llundain a Dulyn. Yn 1811 cafodd Thomas Telford ei gomisiynu i ymgymryd arolwg o'r ffyrdd rhwng Llundain a Chaergybi, ac ym 1817 dechreuwyd y gwaith ar ddarn gogleddol y ffordd yn Amwythig. Yn ogystal â goruchwylio’r gwaith, fe aeth Thomas Telford ati i ddylunio pob manylyn o’r ffordd hefyd, ac mae’r garreg filltir hon yn un o nifer a ddyluniwyd ar gyfer y ffordd. Codwyd cerrig milltir rhwng Bangor a Cernioge yn y cyfnod rhwng 1825 a Chwefror 1827.
Tu allan
Llechen galchfaen Môn wedi’i naddu, hefo phen bas trionglog ac ochrau siamffrog ar oleddf. Plât mewnosod haearn bwrw, llythreniad gwyn ar du yn ddarllen: HOLY- / HEAD / 23 / MONA / 10 / BANGOR / 2.
Rheswm dros Ddynodi
Rhestrir y garreg fel enghraifft ragorol o un o gerrig milltir Telford, sydd wedi cadw ei blât haearn bwrw.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]