Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:
Dyddiad Dynodi
12/04/2024
Enw
Carreg Filltir Telford (28)
Lleoliad
Wedi’i osod o flaen wal gerrig isel ar ochr orllewinol Ffordd Caergybi (A5), 250m i’r de o’r Pont Hanner ffordd.
Dosbarthiad bras
Cludiant
Cyfnod
Yn dilyn Deddf Uno 1801, dechreuwyd rhaglen i wella’r ffyrdd rhwng y ddwy brifddinas, Llundain a Dulyn. Yn 1811 cafodd Thomas Telford ei gomisiynu i ymgymryd arolwg o'r ffyrdd rhwng Llundain a Chaergybi, ac ym 1817 dechreuwyd y gwaith ar ddarn gogleddol y ffordd yn Amwythig. Yn ogystal â goruchwylio’r gwaith, fe aeth Thomas Telford ati i ddylunio pob manylyn o’r ffordd hefyd, ac mae’r garreg filltir hon yn un o nifer a ddyluniwyd ar gyfer y ffordd. Codwyd cerrig milltir rhwng Bangor a Cernioge yn y cyfnod rhwng 1825 a Chwefror 1827.
Tu allan
Llechen galchfaen Môn wedi’i naddu, hefo phen bas trionglog ac ochrau siamffrog ar oleddf. Plât mewnosod haearn bwrw (tolciog pen chwith), llythreniad gwyn ar du yn ddarllen: HOLY- / HEAD / 28 / BANGOR / 3 / C. CURIG / 11M – 3F.
Rheswm dros Ddynodi
Rhestrir y garreg fel enghraifft ragorol o un o gerrig milltir Telford, sydd wedi cadw ei blât haearn bwrw.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]