Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87940
Rhif yr Adeilad
 
Gradd
II  
Statws
 
Dyddiad Dynodi
12/04/2024  
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Carreg Filltir Telford (46)  
Cyfeiriad
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Conwy  
Cymuned
Bro Garmon  
Tref
 
Ardal
Betws-y-Coed  
Dwyreiniad
280081  
Gogleddiad
354644  
Ochr o'r Stryd
E  
Lleoliad
Wedi’i osod tu mewn i wal gerrig ar ochr dwyreiniol Ffordd Caergybi (A5), ychydig i’r de o’r mynedfa i Bron Haul.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Cludiant  
Cyfnod
Diwydiannol  

Cyfnod
Yn dilyn Deddf Uno 1801, dechreuwyd rhaglen i wella’r ffyrdd rhwng y ddwy brifddinas, Llundain a Dulyn. Yn 1811 cafodd Thomas Telford ei gomisiynu i ymgymryd arolwg o'r ffyrdd rhwng Llundain a Chaergybi, ac ym 1817 dechreuwyd y gwaith ar ddarn gogleddol y ffordd yn Amwythig. Yn ogystal â goruchwylio’r gwaith, fe aeth Thomas Telford ati i ddylunio pob manylyn o’r ffordd hefyd, ac mae’r garreg filltir hon yn un o nifer a ddyluniwyd ar gyfer y ffordd. Codwyd cerrig milltir rhwng Bangor a Cernioge yn y cyfnod rhwng 1825 a Chwefror 1827.  

Tu allan
Llechen galchfaen Môn wedi’i naddu, hefo phen bas trionglog ac ochrau siamffrog ar oleddf. Plât mewnosod haearn bwrw, llythreniad gwyn ar du yn ddarllen: HOLY- / HEAD / 46 / C. CURIG / 6M – 5F/ CERNIOGE 7M – 6F. Yn rhannol wedi gordyfu.  

Tu mewn
 

Rheswm dros Ddynodi
Rhestrir y garreg fel enghraifft ragorol o un o gerrig milltir Telford, sydd wedi cadw ei blât haearn bwrw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio