Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig


Disgrifiad Cryno o Adeilad Rhestredig:


Rhif Cyfeirnod
87941
Rhif yr Adeilad
1  
Gradd
II  
Statws
Amddiffyniad Dros dro  
Dyddiad Dynodi
 
Dyddiad Diwygio
 
Enw
Tŷ Hen (gan gynnwys ystafell garej Penygroes)  
Cyfeiriad
1 Heol Dinas  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Gwynedd  
Cymuned
Ffestiniog  
Tref
Blaenau Ffestiniog  
Ardal
Rhiwbryfdir  
Dwyreiniad
269520  
Gogleddiad
346344  
Ochr o'r Stryd
 
Lleoliad
Ar ochr ddeheuol Heol Dinas.  

Disgrifiad


Dosbarthiad bras
Domestig  
Cyfnod
Fictoraidd  

Cyfnod
Bwthyn gwerinol o ddechrau i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae tref Blaenau Ffestiniog yn bodoli o ganlyniad i ddatblygiad chwareli llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlwyd y Chwarel Isaf ar Fferm Rhiwbryfdir ym 1819 a chafodd ei chyfuno â dwy chwarel arall yr oedd teulu Oakeley hefyd yn berchen arnynt ym 1882 i ffurfio chwarel lechi Oakeley. Adeiladwyd Tŷ Hen ar hyd hen ffin fferm Rhiwbryfdir a ddaeth yn ffordd at orsaf wreiddiol rheilffordd Ffestiniog, sef Gorsaf Dinas. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y fferm a’r orsaf drenau wedi’u claddu o dan domenni llechi chwarel Oakley, yn yr un modd â nifer o enghreifftiau eraill o fythynnod gweithwyr tebyg yn ddi-os. Mae’n debygol bod estyniad dwy ystafell i’r de yn fwthyn ar wahân a ychwanegwyd yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Defnyddiwyd y tŷ fel lle cysgu yn y 1970au i wirfoddolwyr a oedd yn gweithio ar wyro rheilffordd Ffestiniog. Collwyd simnai frics yn nhalcen y tŷ yn y 2010au.  

Tu allan
Bwthyn deulawr wedi’i adeiladu o rwbel llechi, sydd â tho llechi Cymreig dau oleddf â bondo ymestynnol ac estyll pren. Mae mynedfa yn nhu blaen y talcen gogleddol sy’n wynebu Heol Dinas ac estyniad ar ffurf penty un llawr o’r un deunydd ar yr ochr chwith. Defnyddiwyd yr uned estynedig i’r de yn ddiweddarach ac yn awr fel lle storio. Mae’r drws ffrynt yng nghornel dde y talcen ac mae ffenestr godi ddi-gorn ag 16 cwarel mewn encil i’r chwith a ffenestr godi ddi-gorn â 9 cwarel uwchben, ac mae’r bwlch rhwng y drws a ffenestr y llawr uchaf wedi’i rendro. Fel arall, nid oes ffenestri yn y talcen blaen, ac mae ffenestr fodern ag un cwarel yn y penty. Mae ardal wedi’i rendro islaw, sy’n dangos bod hwn yn ddrws wedi’i fewnlenwi. Mae’r ochr chwith yn wynebu’r dwyrain ac mae tair ffenestr godi ddi-gorn gynnar mewn encil ar y llawr uchaf; mae 9 cwarel yn y ffenestr ganol ac mae 16 cwarel ar y naill ochr a’r llall. Mae siliau llechi. Mae’r penty ar y llawr gwaelod wedi’i rendro ac mae to llechi diweddar sydd â sêl blwm a dwy ffenestr do fodern. I’r chwith o’r prif adeilad ar yr ochr hon y mae drws dwbl â lintel llechi enfawr, a oedd bob amser yn weithdy yn ôl pob tebyg ac sydd ar hyn o bryd yn garej i’r tŷ cyfagos. Mae’r rhan fwyaf o’r ochr orllewinol wedi’i chuddio gan yr eiddo cyfagos, ac mae un ffenestr do fodern tuag at y cefn.  

Tu mewn
Yn y bôn, mae cynllun un ystafell a phenty ychwanegol, ac mae rhydd-ddaliad dros yr eiddo cyfagos yn rhoi arwynebedd llawr mwy ar y llawr cyntaf. Mae mynedfa o Heol Dinas i gyntedd ffrâm bren bach yng nghornel yr ystafell fyw, ac mae grisiau pren i’r lefel uchaf a gris i lawr i’r gegin sydd ar ffurf penty, wedi’u gosod ar hyd y wal gefn. Ni chafodd yr ystafell ar wahân ar y llawr gwaelod a ddefnyddir fel garej gan yr eiddo cyfagos ei harchwilio. I fyny’r grisiau y mae landin fach â thri drws. Y drws canol sy’n wynebu’r grisiau yw’r ystafell ymolchi sydd ag un ffenestr uwchben y drws ffrynt, mae’r drws ar y dde yn mynd i’r ystafell wely flaen sydd â dwy ffenestr a ffenestr fewnol fodern tuag at y grisiau, ac mae’r drws ar y chwith yn mynd i’r ail ystafell wely, sef rhydd-ddaliad dros ystafell garej y cymdogion. Mae gan yr ystafell fyw lawrlechi, drysau cwpwrdd cynnar i’r pantri a stôf yn y lle tân ag aelwyd lechi. Mae gan y grisiau cul falwstrau sgwâr tenau a phostyn grisiau fasffurf turniedig. Mae’r gegin sydd ar ffurf penty wedi’i moderneiddio, ac mae wedi cadw’r encil yn y wal y credir ei fod yn ddrws i ochr ddwyreiniol yr adeilad sydd wedi’i fewnlenwi. Mae un nenbren agored a sil ffenestr llechi trapesoidaidd mawr yn yr ystafell wely dros yr eiddo cyfagos. Mae gwydro eilaidd wedi’i ychwanegu at y ffenestri codi. Mae gan yr ystafell garej islaw’r ystafell wely dros yr eiddo cyfagos lawrlechi wrth y fynedfa.  

Rheswm dros Ddynodi
Mae’r bwthyn wedi’i restru am ei fod o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig, ac yn enghraifft brin sydd wedi goroesi o fwthyn gwerinol diwydiannol sydd wedi’i gadw’n dda ac yn gysylltiedig â datblygiad y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog, ac sydd wedi cadw lefel anghyffredin o fanylion pensaernïol. Nid yw’r bwthyn cyfagos diweddarach i’r de o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]





Allforio