Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.
Statws
Amddiffyniad Dros dro
Enw
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr Wrecsam
Lleoliad
Rhan o ganolfan ddinesig Wrecsam, yn union i'r de o’r Llys Sirol ar gornel wrth ymyl cylchfan rhwng Bodhyfryd (A5152) a Stryt Holt, gyda maes parcio mawr a Chofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i'r gorllewin.
Cyfnod
Pwll nofio cyhoeddus a chanolfan hamdden a adeiladwyd rhwng 1967-1970 gan y brodyr Frederick D Williamson (pensaer) a Gerald A Williamson (peiriannydd) o Borthcawl. Yr amcangyfrif o'r gost oedd £400,000 a dalwyd gan Gorfforaeth Wrecsam trwy fenthyciad gan y Swyddfa Gymreig.
Agorwyd y baddondai dan do cyhoeddus cyntaf yn Wrecsam mewn hen fragdy a gafodd ei addasu ym 1901. Erbyn canol y 1950au cyflwynwyd cynnig gan yr Henadur Will Dodman i godi pwll newydd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal digwyddiadau ac ymdopi â'r galw cynyddol oherwydd y twf parhaus mewn genedigaethau a’r boblogaeth yn Wrecsam. Yn 1960 argymhellodd Pwyllgor Wolfenden ar Chwaraeon a'r Gymuned y dylai’r llywodraeth ganolog chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o adeiladu cyfleusterau chwaraeon dan do, yn enwedig pyllau nofio dan do, syniadau a gymerwyd fel rhan o ymgyrch lwyddiannus Llafur yn etholiad cyffredinol 1964. Ffrwyth cyntaf y polisi newydd yng Nghymru oedd y pwll dan do a’r ganolfan hamdden yn Afan Lido, Port Talbot a agorwyd ym 1965, a chyflogodd Wrecsam yr un penseiri ar gyfer eu prosiect ar ôl derbyn dyluniad "cyffrous, gwahanol a chyfoes".
Defnyddiwyd y siâp hyperbolig-paraboloid neu hypar (cromlin ddwbl sy'n debyg i gyfrwy ceffyl) gyntaf mewn pensaernïaeth yn Ffrainc a'r Eidal yn y 1930au ar gyfer cyfleusterau milwrol a diwydiannol a gwelwyd bod iddo gryfder strwythurol mawr er ei fod yn denau ac ysgafn. Yn y 1950au, bu’r penseiri Felix Candelas ac Eduardo Catalano yn gyfrwng i boblogeiddio'r hypar ym Mecsico ac yna UDA i ddechrau, ac yn y degawdau cynnar ar ôl y rhyfel gwelwyd toeau hypar yn cael eu defnyddio ar dai, stadia chwaraeon ac addoldai. Y baddondy newydd yn Wrecsam gan y brodyr Williamson oedd un o'r enghreifftiau cynharaf o do hypar ar bwll nofio dan do, ac roedd yn un o’r rhai mwyaf a adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif.
Roedd y baddondai yn cynnwys prif bwll o faint priodol i gystadlaethau, pwll plymio a phwll i ddysgwyr. Nodwedd anarferol yn y prif bwll yw’r ddau ben bas gyda chanol dwfn fel bod y pwll mor groesawgar â phosibl i blant a dysgwyr. Roedd cynghorwyr Wrecsam wedi mynnu hyn er bod Clwb Nofio Wrecsam wedi gwrthwynebu’n fawr. Bu oedi cyn cwblhau'r adeilad yn sgil trafferthion peirianyddol yn ymwneud â'r to, ac agorodd yr adeilad i'r cyhoedd ar 15 Mai 1970 gyda Gareth Williams, 18 oed o'r Rhos-ddu yn prynu'r tocyn cyntaf. Ar wahân i nofio, roedd y baddondai hefyd yn cynnig sawnau, siop losin, siop trin gwallt merched, golchdy, ac ystafell deledu. Ymhen pythefnos cynhaliwyd y digwyddiad mawr cyntaf, sef Cystadleuaeth Nofio’r Gwledydd Celtaidd a drefnwyd gan Gymdeithas Nofio Cymru gydag athletwyr o Gymru, yr Alban ac Iwerddon yn cystadlu. Erbyn yr agoriad swyddogol ar 17 Medi roedd y baddondai wedi cael eu defnyddio gan 100,000 o nofwyr gan gynnwys 14,000 o blant.
Ar ddiwedd y 1990au caewyd yr adeilad a chwblhawyd gwaith adnewyddu gan ychwanegu estyniad ar gyfer cyntedd a grisiau i’r gornel orllewinol, a gosod llithren, dŵr gwyllt a jacuzzi yn lle’r byrddau plymio concrid. Cafodd seddi sefydlog eu gosod hefyd ar gyfer gwylwyr. Ail-enwyd y baddondai yn 'Ganolfan Byd Dŵr' a chafodd ei hail-agor gan y Frenhines Elizabeth II ar 6 Mawrth 1998.
Tu allan
Cynllun siâp diemwnt sydd i’r strwythur gyda lefel y plinth o frics du (brics 'Darstone' a wnaed yn Wrecsam) a waliau llen panelog a gwydrog wedi'u gwahanu gan golofnau concrid neu fwliynau o dan do paraboloid hyperbolig cragen goncrid (hypar). Mae'r to yn gorchuddio arwynebedd yn y cynllun o 154 troedfedd sgwâr gyda'i gorneli uchel i'r dwyrain a'r gorllewin 52 troedfedd uwchben y corneli isel i'r gogledd a'r de. Mae ei bwysau yn gorwedd ar y corneli isel sy'n cael eu cynnal ar waliau ategu concrid siâp 'T' ac maent ynghlwm wrth dynlathau concrid sy'n cydredeg â llawr cyntaf lefel y pwll sy’n estyn allan o orchuddlen yr adeilad. Y tu hwnt i'r corneli isel mae dalwyr glaw concrid sgwâr annibynnol.
Mae cornel ddwyreiniol yn gromlin cwbl wydrog o'r plinth i'r to lle mae'n ymuno â llofft olau o amgylch yr adeilad cyfan. Mae waliau concrid i'r ochrau â chladin panelog. Mae ffenestri tri-phaen toriad llorweddol yn ochri'r brif ffenestr gyda phump y naill ochr ar lefel y llawr cyntaf a thair y naill ochr ar y lefel uwchben. Yn y plinth, mae pyrth wedi’u gorchuddio, sef mynedfeydd y staff, y naill ochr i’r gornel wydrog.
Yng nghornel y gorllewin sy'n wynebu'r maes parcio mae paneli gwydr ar y lefel uchel sy'n cysylltu â'r llofft olau ond collwyd y patrwm gwreiddiol o wydr a bandiau concrid pan ychwanegwyd estyniad i'r dderbynfa ym 1997. Y tu hwnt i hyn ar ochr y de-orllewin mae llethr i lawr i fynedfa drws cerbydau i'r ystafell beiriannau. Mae pedair ffenestr wreiddiol sydd wedi goroesi yn cyfateb i'r goleuadau uchaf ar yr ochrau dwyreiniol, wedi'u paru i'r naill ochr i'r gornel orllewinol.
Tu mewn
Y prif le yw neuadd y pwll ar lefel y llawr cyntaf, gyda'r prif bwll, pwll dysgwyr ac ardal pwll pleser (y pwll plymio yn wreiddiol, bellach wedi'i rannu'n llithrennau dŵr, dŵr gwyllt a jacuzzi canolog). Mesuriadau'r prif bwll adeg ei adeiladu oedd 42 troedfedd o led (sy'n cyfateb i hyd pwll y dysgwyr) a 33⅓ metr o hyd. Mae gan y pwll ddau ben bas gyda’r dyfnder eithaf yn y canol. Mae'r to hypar yn estyn yn isel dros bwll y dysgwyr yng nghornel y gogledd ac un o bennau bas y prif bwll ar gornel y de i greu lleoedd ar gyfer gwersi nofio, gyda'i gorneli gwydr uchel dros yr hen ardal blymio i'r dwyrain ac ardal y gwylwyr i'r gorllewin, gan roi lle mwy crand ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr.
Mae derbynfa ar y llawr gwaelod, caffi, campfa ac ardaloedd swyddfa i’r staff sydd wedi'u moderneiddio'n sylweddol. Mae gan yr ystafell beiriannau ei phrif ardal yn union o dan bwll y dysgwyr ac mae'n ymestyn rhwng ac o amgylch y basnau concrid gwreiddiol ar gyfer y prif bwll a'r pwll plymio (fel yr oedd).
Rheswm dros Ddynodi
Mae wedi ei gynnwys er gwaethaf gwaith ailwampio 1997 ar sail ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig fel yr enghraifft allweddol sydd wedi goroesi o bwll nofio dan do o'r cyfnod wedi'r rhyfel yng Nghymru. Mae'n arddangos arloesedd technolegol a medrusrwydd fel y to paraboloid hyperbolig cyntaf yng Nghymru, wedi'i adeiladu ar raddfa a oedd yn llawer uwch nag unrhyw un o'i ragflaenwyr yn y DU. Mae'n cymhwyso'r ffurf strwythurol feiddgar hon i bob pwrpas i fod yn fath o adeilad newydd: mae'n enghraifft arloesol o gyfleuster wedi'r rhyfel gyda ffocws ar hamdden yn hytrach na chwaraeon yn unig. Mae'n gwneud cyfraniad nodedig i ddatblygiad pensaernïaeth ar gyfer hamdden yn y cyfnod wedi'r rhyfel. Mae ei ddyluniad yn adlewyrchu demograffeg ffyniannus ac optimistiaeth dechnolegol Cymru ar ddiwedd y 1960au. Nid yw estyniadau ochr orllewinol 1997 o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]