Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig
Ni fwriadwyd i'r disgrifiad rhestr fod yn rhestr gyflawn o'r hyn a restrir; ei nod pennaf yw cynorthwyo'r broses o adnabod. Yn ol y gyfraith, mae'r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys yr adeilad cyfan ac (i) unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad hwnnw ac sy'n ategol iddo a (ii) unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffenaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, neu'n ategol iddo, ar y dyddiad y cafodd y cyfryw adeilad ei gynnwys gyntaf ar y rhestr, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd hwyraf.
Statws
Amddiffyniad Dros dro
Lleoliad
Ar ochr ddeheuol y Stryd Fawr mewn teras sy'n rhedeg tua'r de-ddwyrain o'r gyffordd â Ffordd Cwmbowydd.
Dosbarthiad bras
Domestig
Cyfnod
Adeiladwyd tua 1860 fel un o deras o ddeg tŷ o'r enw Diffwys Terrace yn wreiddiol, oedd yn eiddo i Chwarel Diffwys Casson i'r gogledd-ddwyrain (gweler Heneb Gofrestredig CN413) yr oedd ei gweithwyr yn byw ynddynt. Yn ôl traddodiad lleol, roedd y teras yn cael ei alw'n Bootle Alley hefyd yn sgil cael ei adeiladu gan adeiladwyr o Bootle, Glannau Mersi. Gwerthwyd y teras gan Diffwys Casson yn ystod ei drafferthion ariannol oddeutu 1879. Mae'n un o ychydig iawn o dai Ffestiniog i beidio â chymryd rhan yn unrhyw un o gynlluniau amnewid ffenestri a thoeon llywodraeth leol diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, gan fod y perchennog ers y 1970au wedi bod yn awyddus iawn i warchod ac adfer ei gymeriad gwreiddiol. Dymchwelwyd Tŷ Bach yn yr ardd gefn yn 2011.
Tu allan
Tŷ deulawr blaen deuol canol teras yn wynebu'r Stryd Fawr gyda gardd gefn ar lethr tua uchder llawr islaw y gellir ei chyrraedd gyda grisiau allanol. Mae'r teras ar glawdd ar sylfeini tal heb unrhyw islawr. Adeiladwaith o rwbel mawr afreolaidd gyda fframiau drysau a ffenestri tywodfaen gyda tho o lechi Ffestiniog.
To ar ongl gyda bondo ychydig yn ymestynnol yn y tu blaen a'r cefn. Y cyrn simnai wedi'u rendro a rennir gyda rhifau 58 a 60 yw'r unig rai mewn cerrig rwbel sy'n weddill ar y teras, gyda photiau simnai gwreiddiol.
Drws ffrynt pren gwreiddiol gyda chlicied Suffolk (wedi'i symud o ddrws mewnol), ffenest lorweddol uwch ei ben wedi'i disodli gyda gwydr patrymog art nouveau, ffrâm drws tywodfaen gydag ymylon fertigol rhannol siamffrog. Mae’r ffenestri codi di-gorn cilfachog â siliau llechi yn y tu blaen yn wreiddiol heblaw am ffenest y parlwr ar ochr dde'r llawr gwaelod. 12 cwarel y naill ochr i'r llall i'r drws ffrynt gyda 9 cwarel yn union uwchben.
Mae'r cefn wedi'i bwyntio'n fwy helaeth mewn morter calch gan ei fod yn wynebu'r tywydd. Mae grisiau allanol gwreiddiol yn y cefn gyda wynebau llechi yn disgyn o ddrws yr ardd gefn ar y chwith i lawr i'r dde, gyda thro naw deg gradd wedi'i ychwanegu ar y gwaelod. Ardal ddall sylweddol uwchben grisiau hyd at ffenestr ystafell wely gefn. Mae gan reilen lechi ar ben y grisiau graffiti 'TH 1898' gyda llun o gaib a rhaff. Mae drws yr ardd gefn yn fodern ond yn addas o ran cymeriad gyda 12 cwarel. Mae'r ffenestri cefn gyda siliau llechi yn rhai newydd mewn agoriadau gwreiddiol, ffenestri codi 12 cwarel di-gorn i'r chwith o ddrws yr ardd, ffenest adeiniog 2 banel wedi'i rannu'n fertigol yn union uwchben drws yr ardd a ffenest adeiniog 2 banel i'r dde o hon, ffenestri llawr uchaf yn gywastad â'r bondo.
Tu mewn
Y tu mewn wedi'i gadw a'i adfer yn driw gyda mynedfa'r lobi yn agor i goridor canolog gyda pharlwr blaen bach a chegin gefn gyda drws i'r ardd ar y chwith a lolfa gyda grisiau yn y gornel. Ar y llawr cyntaf mae ystafell ymolchi ar y dde yn y cefn ac ystafell wely flaen fach yn y tu blaen, ar y chwith mae ystafell wely flaen fawr ac ystafell wely gefn. Mae parwydydd pren fertigol drwyddi draw.
Llawr o gerrig llorio a thrawstiau nenfwd pren agored yn y llawr gwaelod drwyddo draw. Nenfwd dellt a phlastr yn y gegin a'r neuadd, wedi'i ddisodli gan fwrdd plastr yn y lolfa. Mae gan y drws ffrynt mewnol ffenest uwch ei ben mewn gwydr patrymog art nouveau, ac mae'n arwain at goridor gyda chwpwrdd dan grisiau yn erbyn wal gefn. Collwyd lle tân y parlwr cyn y 1970au. Mae gan ffenest gefn y gegin sil ffenest lechen fewnol sylweddol. Mae lle tân y lolfa wedi'i ail-greu mewn llechen a haearn bwrw gyda theils ceramig addurnol a phren o'i amgylch. Yn ôl pob sôn, mae linter llechen wreiddiol yn y wal ond mae wedi torri. Mae silff â phennau crwm dros y lle tân. Mae grisiau cornel pren gwreiddiol yn dechrau yn erbyn wal gefn y lolfa ac yn troi naw deg gradd i alinio â'r coridor canolog. Mae estyll dros y grisiau, gyda dwy dulath wal ar dro a phostyn sgwâr a fasffurf dal, rheilen grom a balwstrau sgwâr tenau.
Mae parwydydd pren newydd ar y llawr uchaf wedi'u gosod yn yr un safleoedd â'r rhai gwreiddiol coll. Mae parwyd yr ystafell ymolchi ar ongl er mwyn dod at y ffenestr gefn ar y chwith rhwng ei dau banel, fel ei bod yn goleuo'r grisiau a'r ystafell ymolchi. Mae trawstiau to pren agored yn y ddwy ystafell wely ar yr ochr chwith. Mae landin y grisiau yn cymryd rhan o'r ystafell wely flaen fach. Mae lle tân haearn a charreg gwreiddiol yn yr ystafell wely flaen fawr ar y chwith gyda llechen yn banel cefn iddo a theils cerameg o ddiwedd Oes Fictoria wedi'u hychwanegu. Achubwyd sil ffenest lechen fawr ffenest yr ystafell wely gefn o adfeilion hen swyddfa dalu chwarel yn ystod y 1970au ac mae graffiti wedi'i arysgrifio arni, gan gynnwys 'WR 1900', 'JW 1929' a delwedd fanwl o becyn o sigaréts Gold Flake wedi'i lofnodi gan ‘RJ Roberts, August 1927’.
Rheswm dros Ddynodi
Wedi'i restru oherwydd diddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig fel tŷ teras diwydiannol sydd wedi'i gadw'n dda sy'n gysylltiedig â datblygiad y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog, sydd wedi cadw lefel o fanylion pensaernïol sydd bellach yn brin iawn yn nhirwedd treftadaeth y byd. Nid yw'r tai eraill yn y teras o ddiddordeb arbennig.
Mae'r strwythur hwn yn destun Gwarchodaeth Interim o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'n drosedd difrodi'r strwythur hwn a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen 'Hysbysiadau statudol' ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur hwn, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.
Cadw : Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]