Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Saif Palas yr Esgob uwchlaw glan ogleddol Afon Tywi a’i gorlifdir i’r dwyrain o Gaerfyrddin. Mae wedi’i gofrestru am ddiddordeb hanesyddol ei ardd goediog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda’i phlanhigion coedlan cyfoethog, ar safle gyda hanes maith o ddatblygiad tirwedd o gwmpas sefydliad crefyddol. At hynny mae gwerth grŵp i’r lle gyda chyn Balas yr Esgob Gradd ll (LB 9383), porthdy mynediad (LB 81932), waliau’r ardd furiog (LB 81930) ac Eglwys Dewi Sant gerllaw (LB 81928).
Mae’r ardd ar ffurf triongl yn fras, a’r rhan letaf yn y pen gorllewinol ac yn culhau tua’r pen deheuol. I’r gogledd mae wal o garreg rwbel tuag 1.7m-2m o uchder, i’r gorllewin mae wal garreg hyd at 1.5m o uchder, ac ar hyd yr ochr dde a’r de-ddwyrain mae wal grom a ha-ha sylweddol sy’n cynnwys wal gyda haenau cwrs o garreg 2m o uchder, a ffos allanol. Y tu hwnt i honno ar y gorlifdir mae darn o barcdir.
Mae’r Hen Balas ym mhen gorllewinol y tir, ac eir ato o’r gogledd ar hyd dreif i fynedfa a phorthdy ar yr hen ffordd A40 at gwrt blaen o flaen y Palas.
Mae’r tir yn wastad gan mwyaf ac yn disgyn yn sydyn i lefel is yn y pen deheuol, ger ffin y de-ddwyrain ac yn cydredeg â hi. Tua phen dwyreiniol yr ardd, lle mae’n culhau, mae’r tir yn disgyn yn sydyn o’r gogledd i’r de. Ar y tir i’r gorllewin o’r Palas, o gwmpas y dreif, a hefyd i’r de-orllewin, mae nifer fawr o goed a phrysglwyni bythwyrdd, rhai brodorol a rhai egsotig.
Mae lawntiau o gwmpas y tŷ i’r gogledd, y dwyrain a’r de. I’r de mae coed enghreifftiol cymysg, rhai bythwyrdd a rhai collddail, gan gynnwys coeden Gedrwydd Libanus anferth. O’r dreif mae llwybr troellog yn arwain tua’r dwyrain ar draws lawnt fawr a choed sbesimen hwnt ac yma, fel coeden diwlip, Planwydden Llundain a chonifferau aeddfed. Mewn man coediog ar hyd ffin y gogledd hefyd mae coed sbesimen. I’r gogledd o’r tŷ mae man crwn mwy ffurfiol a llwybrau’n croesi.
Erbyn hyn mae cornel gogledd-orllewin yr ardd, i’r gorllewin o Balas yr Esgob, ar wahân yn eiddo i annedd bresennol yr Esgob, adeilad o 1978. Mae ei gardd gan mwyaf yn cynnwys lawnt helaeth i’r de o’r tŷ gyda rhai coed sbesimen mawr, gan gynnwys pinwydden yr Alban, deri a ffawydd. Mae’r lawnt yn rhedeg i lawr ar ochr ogleddol yr ardd lysiau. Mae hon fwy neu lai yn sgwâr a waliau carreg hyd at 3m o uchder o’i chwmpas wedi’u leinio â brics ac eithrio i’r de. Porfa sydd ar y tu mewn er bod rhai rhannau i’w gweld yn cael eu trin. Mae yno hen goed ffrwythau a rhes o hen goed afalau wedi’u plannu i gydredeg â’r wal orllewinol. Yn erbyn wal y dwyrain mae seiliau tŷ gwydr yn erbyn y wal. Tua’r ochr orllewinol mae man sydd wedi gordyfu gyda seiliau sy’n awgrymu adeilad blaenorol. Y tu hwnt i’r wal yma mae’r fynwent.
Yn agos at ben dwyreiniol yr ardd mae grisiau carreg i lawr dros yr ha-ha i’r parc y tu hwnt. Mae tirweddu addurnol y palas yn ymestyn y tu hwnt i’r ardd at orlifdir Afon Tywi lle mae cae mawr, gwastad gyda dwy goeden sbesimen aeddfed. I’r de-ddwyrain mae llyn troellog a elwir Llyn yr Esgob, ystumllyn clasurol gyda lili’r dŵr, brwyn a choed ar hyd ei ymylon.
Mae Tywi Gateway Trust yn rheoli rhaglen o adfer a gwella Parc yr Esgob, gan gynnwys gosod gerddi newydd, cael yr ardd furiog yn gynhyrchiol eto, a gwella mynediad i’r ddôl.
Lleoliad – Mae’r faith fod y safle’n agos i’r gorlifdir yn rhoi amgylchedd parcdir i’r tŷ a’r ardd.
Golygfeydd Nodedig: Roedd safle Palas yr Esgob yn rhoi golygfeydd ar draws yr ardd i’r dwyrain a’r de ar draws yr afon a’r wlad y tu hwnt.
Ffynonellau:
Cronfa Ddata Asedion Hanesyddol Cadw
Delweddau lloeren Google, defnyddiwyd 05.08.2021