Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig


Manylion


Rhif Cyfeirnod
PGW(Gm)5(BRI)
Enw
Bryngarw  
Gradd
II  
Dyddiad Dynodi
01/02/2022  
Statws
Dynodedig  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Pen-y-bont ar Ogwr  
Cymuned
Ynysawdre  
Dwyreiniad
290475  
Gogleddiad
185501  

Dosbarthiad bras
Gerddi, Parciau a Mannau Trefol  
Math o Safle
Gardd derasog ffurfiol; coetir anffurfiol a gardd ddŵr gydag elfennau Japaneaidd.  
Prif gyfnodau adeiladu
1910-18  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae Bryngarw wedi'i gofrestru oherwydd ei goetir a’i gerddi dŵr Edwardaidd anffurfiol helaeth, sy'n cynnwys rhai nodweddion a phlanhigion dwyreiniol. Mae'r planhigion yn cynnwys rhai coed a llwyni sbesimen arbennig, gan gynnwys masarn Japan, coed magnolia a rhododendrons. Mae Bryngarw yn bwysig oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol â phartneriaeth dylunio tirlun Alfred Parsons, Capten Walter Partridge a Charles Tudway a fu'n ymwneud â'r dylunio a'r plannu. Lleolir y gerddi ym Mryngarw yng nghwm Garw, ar lethrau yn union i'r gorllewin o'r afon, wedi'u gosod allan o amgylch tŷ Bryngarw, sydd mewn arddull Tuduraidd-Elisabethaidd (NPRN 409938). Saif y tŷ tuag at ganol ei diroedd gyda'r gerddi wedi'u lleoli'n bennaf i'r de, i’r dwyrain, ac i ogledd-ddwyrain y tŷ. Mae gan y safle hanes o feddiannaeth sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif o leiaf yn ôl pob tebyg. Mae manylion ail argraffiad map 25 modfedd yr Arolwg Ordnans (1899) yn cynnwys gardd furiog, waliau teras, tramwyfa, porthdy, heulfan, coedlannau geometrig ynysig, tai gwydr, perllan, gwelyau blodau posibl, a choetir gyda llwybrau â golygfeydd a phyllau. Crëwyd y tiroedd ar eu ffurf bresennol gan Gapten Onslow Powell Traherne rhwng 1910 a 1918, a chafodd gymorth ar gyfer y dylunio a’r plannu gan bartneriaeth dylunio tirlun Alfred Parsons, Capten Walter Partridge a Charles Tudway. Ar wahân i'r lawnt deras i'r de o'r tŷ mae'r gerddi'n anffurfiol. Mae ardaloedd o goetir, gan gynnwys coetir lled-naturiol, llynnoedd, pyllau a gerddi dŵr. Mae coed a llwyni addurnol wedi eu plannu mewn lleoliadau coetir gyda rhai nodweddion dwyreiniol a choed a llwyni sbesimen arbennig. Mae'r planhigion Tsieineaidd a Japaneaidd yn cynnwys coed masarn, coed magnolia a rhododendrons. Plannwyd bambŵ, pinwydd a choed conwydd eraill hefyd. Ceir gerddi dŵr yng nghwm Afon Garw islaw'r tŷ i'r dwyrain. Mae'r ardd lysiau, sydd bellach yn faes parcio, wedi'i lleoli i'r de o'r tŷ. Mae'r fynedfa i'r tiroedd i'r de, ychydig i'r gogledd o bentref Brynmenyn, ac mae lôn yn arwain at y tŷ. Saif pileri cerrig sgwâr a waliau o boptu’r gatiau haearn. Mae'r rhain i gyd yn fodern. Ymhlith y strwythurau adeiledig eraill mae porthdy, cytiau cŵn (sy'n annedd bellach), pont bren mewn arddull Japaneaidd (yn lle'r un wreiddiol), a phafiliwn pren bach gyda feranda agored yn lle'r pagoda gwreiddiol. Ffynonellau: Cadw 2000: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg (cyf: PGW(Gm)5(BRI). Map 25 modfedd ail argraffiad Arolwg Ordnans o Forgannwg, XXXIV, 7 (1899).  

Cadw : Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio