Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Cofrestrwyd Mynwent Cathays yn sgil ei diddordeb hanesyddol fel mynwent aml-enwadol fawr Fictoraidd sydd wedi’i chadw’n dda, ac sydd wedi llwyddo i gadw ei chynllun gwreiddiol a’i thyfiant o goed bytholwyrdd addurnol i raddau helaeth. Mae’n cynnwys rhai cofebion addurnedig a diddorol yn dyddio o 1859 ymlaen. Mae gwerth grŵp i’r ardal gofrestredig gyda phrif fynedfa porth ysblennydd a waliau’r cwrt blaen (LB: 13682), capeli corfflan (LB: 13683) a phorthdy, tŷ mynwent (LB: 25824) a gynlluniwyd gan R.G. Thomas, pensaer Casnewydd ar y cyd â T. Waring, tirfesurydd y fwrdeistref.
Lleolir Mynwent Cathays yn ardal Cathays o Gaerdydd i’r gogledd o ganol y ddinas. Mae’r fynwent ar ffurf barcut, gyda rheilffordd ar ei ffin ddwyreiniol, a ffyrdd ar y tair ochr arall. Fe’i rhennir yn hanner ogleddol a deheuol gan ffordd ddeuol yr A48, y rhan ddeheuol yw rhan wreiddiol y fynwent. Mae’r ddau hanner yn gwbl ar wahân, er yn rhyng-weladwy ar draws toriad dwfn yr A48.
Agorwyd y fynwent gyntaf ar y safle, Mynwent Newydd Caerdydd, ar dir agored i’r gogledd o Gaerdydd. Mynwent aml-enwadol oedd hi, gydag adran i bob enwad, a chapel ar gyfer yr ‘Esgobol’, ‘Anghydffurfwyr’, a Chatholigion. Cafodd ei chynllunio ar ffurf llwybr echelinol canolog yn gogwyddo o’r gogledd-orllewin/de-ddwyrain gan arwain at ddau gapel unfath a mynedfa fawreddog a phorthdy ar y pen deheuol. Mae dau lwybr ochr yn fforchio o’r prif lwybr gan greu cynllun siâp calon. Bob ochr i’r capeli roedd cynlluniau cymesurol o lwybrau hirgrwn a llwybrau croes, gyda llwybrau eraill yn arwain o gwmpas rhannau allanol y fynwent. Roedd capel Catholig yn y pen gogledd-orllewinol gyda llwybrau rheiddiol yn arwain allan ohono. Conwydd sydd wedi’u plannu’n bennaf yn y fynwent, yn enwedig o gwmpas y prif lwybrau ac o gwmpas yr ymylon. Dangosir y cynllun hwn ar argraffiad cyntaf map chwe modfedd yr Arolwg Ordnans 1886. Mae llawer o gynllun gwreiddiol rhannau hynaf y fynwent yn dal i oroesi, a’r rhannau coll amlycaf yw’r capel Catholig a’r llwybr hirgrwn i’r de-orllewin o gapel yr Anghydffurfwyr.
Erbyn 1915 roedd wedi ehangu tuag at Heol yr Eglwys Newydd yn y de, ac agorwyd ardal newydd i’r gogledd o reilffordd Dyffryn Taf, a oedd yn dilyn llwybr ffordd yr A48 bresennol, ar beth arferai fod yn dir fferm a rhandiroedd. Mae’r adran ddeheuol wedi’i chynllunio â llwybrau tarmac syth yn croesi ei gilydd, gyda beddau mewn rhesi, sawl mynedfa a choed ar hyd y ffiniau.
Yng nghanol yr ochr dde-ddwyreiniol y mae’r brif fynedfa, gyda rheiliau haearn bob ochr iddi. Mae’n cynnwys pyrth haearn dan fwâu cerrig gothig triphlyg, yr un ganolog yn fwy gyda chroes yn goron arni. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1857-59, a’i dylunio gan R.G. Thomas o Gasnewydd a T. Waring o Gaerdydd. I’r gogledd-ddwyrain mae porthdy cerrig deulawr gothig â tho brig llechi. Mae meillion ar ben ei ffenestri llai.
Tu mewn i’r brif fynedfa mae dau gapel gothig unfath bob ochr i ystafell dderbyn ganolog sydd â thŵr cloch yn goron arno, a porte-cochères a chynteddau cysylltiol rhyngddyn nhw. Mae’r capeli yn yr un arddull â’r fynedfa a’r porthdy. Fe’u hadeiladwyd rhwng 1857-59 gan R.G. Thomas a T. Waring.
Ymhellach i’r de, ar hyd yr ochr dde-ddwyreiniol mae mynedfa arall ac iddi byrth haearn dwbl a phileri cerrig gyda phaneli gothig cilannog a thopiau triongl wedi’u haddurno â hanner meillion. Ceir pileri tebyg ym mhob mynedfa. Yn y cornel de-orllewinol mae porth bychan â phileri cerrig bob ochr iddo. Ger pen dwyreiniol yr ochr ddeheuol mae mynedfa letach, debyg, â phyrth haearn dwbl a phyrth ochr ar gyfer cerddwyr â waliau cerrig sy’n mewngrymu. Yng nghornel y safle, mae adeilad ysblennydd Llyfrgell Carnegie (LB:13681). Mae dwy fynedfa i’r ochr orllewinol, ar hyd Ffordd Allensbank, un brif fynedfa ac un ochrol, gyda phyrth haearn, pileri a waliau rhesog bob ochr.
Ymysg y coed sydd wedi’u plannu mae pisgwydd, cypreswydd, yw, pinwydd a phinwydden Chile. Mae hanner gogleddol y fynwent wedi’i chynllunio â llwybrau croes gyda beddau mewn rhesi anghyson gyda phlannu tebyg yn yr adran ddeheuol.
Ffynonellau:
Cadw 2000: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg (cyf: PGW(Gm)19(CDF))
Argraffiad cyntaf map 6 modfedd Arolwg Ordnans Morgannwg, dalen XLIII (1886)
Ail argraffiad map Arolwg Ordnans 25 modfedd Morgannwg, dalen XLIII.11 (1901).