Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae Castell Sain Ffagan ymhlith maestrefi gorllewinol Caerdydd. Fe’i cofrestrwyd am fod ganddo un o'r gerddi hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Mae'n ardd helaeth o nifer o gyfnodau mewn adrannau a therasau gyda strwythur Tuduraidd sylfaenol, sydd bellach yn Fictoraidd ac Edwardaidd yn bennaf, gan gadw llawer o'i chynllun a'i phlannu strwythurol. Gall y pyllau ffurfiol fod yn ganoloesol eu tarddiad ac yn sicr roeddent yn bodoli yn yr unfed ganrif ar bymtheg. I'w gogledd mae gardd ddŵr wedi'i dylunio a'i hadeiladu gan y dylunwyr gwaith cerrig a gerddi dŵr enwog o oes Fictoria, Pulham & Co. Mae coetir arbrofol anarferol gyda’i lwybrau marchogaeth echelinol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif hefyd wedi goroesi’n rhannol. Mae'r gerddi bellach yn cynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae gwerth grŵp gyda'r Castell Rhestredig Gradd I (LB 13888) ynghyd â nifer o strwythurau Rhestredig sy'n gysylltiedig â'r gerddi yn ogystal â nifer o adeiladau rhestredig wedi'u hailadeiladu a symudwyd yma o bob cwr o Gymru i’w harddangos yn yr amgueddfa. Mae adeilad yr amgueddfa ei hun hefyd yn Rhestredig Gradd II (LB 87638).
Mae’r Castell ym mhen deheuol pentref Sain Ffagan. I'r gorllewin mae'r tir yn disgyn yn serth tuag at lednant o afon Elái sy’n llifo gogledd-de wedi’i lleoli tua’r de.
Mae tiroedd y coetir yn meddiannu ardal drionglog o lethr ysgafn i'r gorllewin o'r tŷ a'r tiroedd addurnol, a’i phen eithaf i'r gogledd-orllewin. Sefydlwyd ardal y coetir yn 1908 gan Iarll Plymouth. Amgaewyd 78 erw gyda ffens. Roedd chwech ohonyn nhw, yn y pen dwyreiniol, ar gyfer gardd lysiau a chwrt tennis sydd bellach wedi’u meddiannu gan Amgueddfa Werin Cymru, ei phrif adeiladau a'i maes parcio. Roedd y cynllun gwreiddiol yn batrwm ffurfiol o lwybrau marchogaeth yn rhannu'r ardal yn adrannau ac yn flociau plannu llai o faint a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o goed addurnol. Cafodd ardaloedd helaeth o goed eu torri yn ystod yr 1950au i wneud lle ar gyfer adeiladau o bob rhan o Gymru oedd yn cael eu hailgodi yno ar dir yr amgueddfa. Mae hanner deheuol y coetir yn parhau gyda’r rhan fwyaf o'i brif lwybrau marchogaeth echelinol a'i fannau agored o dir porfa. Rhywogaethau collddail cymysg yw’r coed yma, gydag ychydig o goed sbesimen a grŵp o goed pinwydd. Mae pedrant gogledd-orllewin y coetir hefyd yn parhau i gadw’r rhan fwyaf o'i brif lwybrau marchogaeth echelinol. Coed collddail cymysg sydd yma’n bennaf. Mae’r amgueddfa wedi difodi’r pedrant sydd i’r gogledd-ddwyrain.
Lleolir y gerddi i'r gogledd, y dwyrain a'r gorllewin o'r Castell, ac i'r dwyrain o diroedd y coetir. Maen nhw’n meddiannu ardal betryalog y mae un o lednentydd afon Elái yn llifo drwyddi o'r gogledd i'r de. Mae’r tir yn disgyn yn serth o'r tŷ i waelod y dyffryn i'r gorllewin, gan godi'n fwy graddol ar yr ochr arall. Datblygwyd y gerddi dros gyfnod hir. Maen nhw’n rhannol orchuddio, ac wedi addasu, tirwedd ganoloesol oedd yn cynnwys castell, persondy, pentref a phyllau pysgod.
Ffiniwyd y gerddi gan waliau cerrig sylweddol a gellir eu rhannu'n bum ardal wahanol: y cyrtiau blaen i'r dwyrain, y ffiniau i'r gogledd, y terasau a'r pyllau, y gerddi coediog a dŵr anffurfiol, a'r ardaloedd ym mhen gogleddol yr ardd.
Mae'r brif ddynesfa at y tŷ o gyfeiriad y dwyrain, drwy gatiau Rhestredig Gradd II (LB 13883) yn arwain i mewn drwy’r fynedfa i ardd goediog sydd wedi'i ffinio â waliau Rhestredig Gradd II (LB 13887). Mae rhodfa ganolog echelinol sydd wedi ei hymylu â choed pisgwydd wedi’u plethu yn arwain at y cwrt blaen mewnol drwy fynedfa fwaog Restredig Gradd II y castell canoloesol (LB 82223). Mae’r cwrt hwn yn cynnwys cylch crwn o raean gyda lawnt a borderi cul wrth droed y waliau. Yn y canol gosodwyd dyfrgist blwm gron restredig Gradd II* o'r ail ganrif ar bymtheg mewn cylch o wrychoedd isel a glaswellt (LB 13885). Mae drws cul pen gwastad ar yr ochr ogleddol yn arwain i'r gerddi.
Mae'r ail brif ardal yn cynnwys adrannau ar wahân i'r gogledd o'r tŷ. Ffiniwyd yr ardal gyfan gan waliau cerrig Rhestredig Gradd II (LB 82252) ac mae wedi'i hisrannu naill ai gan waliau neu wrychoedd ffurfiol. Gelwir yr adran ar wahân gyntaf, wrth ymyl y tŷ, yn parterre neu Ardd Iseldirol, gyda murfur a thŵr gwylio. Yng nghanol y parterre mae ffownten farmor Eidalaidd Restredig Gradd II (LB 82224). Lawnt fowlio yw hanner gogleddol yr adran. Mae'r llwybr dwyrain-gorllewin yn arwain tua'r dwyrain o dan dwnnel o goed oestrwydd, i ddwy adran arall ar wahân sef yr Ardd Addurnol (Knot Garden) ar y de, yr Ardd Berlysiau ar y gogledd.
Yr ail adran ar wahân i'r gogledd o'r parterre yw'r Ardd Forwydd (Mulberry Garden), a gyrhaeddir o’r lawnt fowlio drwy borth addurnol. Fe'i gosodwyd fel lawnt wedi'i phlannu â pherllan o goed morwydd ac iddi siâp sgwâr yn fras sydd wedi'i ffinio â waliau Rhestredig Gradd II ar bob ochr heblaw’r ochr ddwyreiniol (LB 13890). Ar yr ochr ddwyreiniol, mae grisiau'n arwain at ddau dŷ gwydr rhydd-sefyll, sy'n cyfeirio tua’r dwyrain-gorllewin, sy'n dyddio i 1920-40.
Yn cysylltu ag ardal yr Ardd Forwydd a'r tai gwydr mae'r hen ardd lysiau sydd wedi'i ffinio â waliau Rhestredig Gradd II (LB 13892) ac sy'n cynnwys Tŷ Gerddi Rhestredig Gradd II, hen fwthyn y prif arddwr (LB 82230). Y tu ôl iddo mae mur terfyn dwyreiniol Rhestredig Gradd II y tiroedd (LB 13880).
I'r gogledd-orllewin mae ardal anffurfiol o lawnt, coed a phrysglwyni. I'r gogledd mae'r ardal a elwir yn Ilex Grove, wedi'i phlannu â derw bytholwyrdd, wedi'i ffinio ar y dwyrain gan wal Restredig Gradd II (LB 13894). Hon yn rhannol yw wal yr Ardd Eidalaidd, sef adran furiog betryalog y tu ôl i Ilex Grove.
Trydedd brif ardal ar wahân y gerddi yw'r terasau a'r pyllau dŵr. Lleolir tri theras Eidalaidd Rhestredig Gradd II, a gynhelir gan waliau cynnal, ar y llethr serth sy'n disgyn tua'r gorllewin i lawr y dyffryn (LB 13891), gyda chymorth wal yr Ardd Iseldirol yn y dwyrain. Mae gan y terasau rodfeydd graean a borderi prysglwyn ac maen nhw wedi'u cysylltu gan resi o risiau. Ym mhen deheuol y terasau, mae llethr serth yn disgyn i'r pyllau pysgod drwy res uchel o risiau.
Mae cyfres o bedwar pwll ffurfiol, wedi'u leinio â cherrig, wedi'u halinio gogledd-de, wedi’i lleoli yng ngwaelod y dyffryn gwastad, wedi'u llenwi gan ddŵr o’r nant yn y pen gogleddol. Mae gan bob un ohonyn nhw argae pen gwastad glaswelltog gyda sianelau llifddor cul. Ger pen y pyllau mae colomendy Rhestredig Gradd II (LB 13901).
Pedwaredd ardal ar wahân y gerddi yw'r coetir anffurfiol a'r ardd ddŵr sydd ar ochr orllewinol y dyffryn i'r gogledd o'r pyllau dŵr, ardal sydd wedi'i ffinio â hen fur terfyn gogleddol Rhestredig Gradd II ar dir y castell (LB 13900). Mae'r nant sydd wedi'i ffinio gan waith carreg o gerrig clymfaen, yn troelli drwy ardal o lawnt donnog wedi'i phlannu â choed addurnol, gan gynnwys helyg, drain gwynion, ceirios blodeuog a magnolias. Mae llwybr yn croesi'r nant tua'r pen deheuol dros bont garreg isel a rhaeadr fechan oddi tani. Ceir llwybr yn arwain at ysgubor Restredig Gradd II Stryt Lydan, sef ysgubor o'r unfed ganrif ar bymtheg a symudwyd o ardal ger Penley yn Sir y Fflint (LB 13899). I'r gogledd mae mur terfyn yr ardal gyda hafdy wedi'i adeiladu i gornel y gogledd-orllewin.
Ardal olaf y gerddi yw'r adrannau ar wahân yn y pen gogleddol sydd wedi'u hamgáu'n amrywiol gan wrychoedd a waliau cerrig Rhestredig Gradd II hyd at 4 metr o uchder (LB 13896). Mae'r ardal yn betryalog ac eithrio'r pen gorllewinol, sy'n drionglog. Mae'r nodweddion yn cynnwys lawnt wedi'i phlannu â phedair rhes o oestrwydd, un ar hyd pob ochr; nifer o derasau; pwll petryalog, sef hen bwll nofio; ffatri wlân Restredig Gradd II o'r ddeunawfed ganrif o Lanwrtyd a ailadeiladwyd (LB 13897); ac ardal furiog drionglog o laswellt wedi'i phlannu â choed sbesimen.
Lleoliad – Mae Castell Sain Ffagan, a’i erddi a’i diroedd wedi’i leoli ar gyrion pentref Sain Ffagan sy'n ffinio ag ef ar y gorllewin ac sydd bellach o fewn maestrefi Caerdydd. Fel arall, fe’i hamgylchynir gan dir fferm.
Golygfeydd Nodedig: O derasau'r ardd orllewinol mae golygfeydd i’w gweld i'r gorllewin ar draws y tiroedd a’r ardal o gefn gwlad o’i amgylch.
Ffynonellau:
Cadw 2000: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg, 82-9 (cyf: PGW(Gm)31(CDF)).
Map 25 modfedd Trydydd Argraffiad Arolwg Ordnans, taflen: Glamorgan XLII.12 (1920).