Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig


Manylion


Rhif Cyfeirnod
PGW(Gm)52(NEP)
Enw
Parc Margam  
Gradd
I  
Dyddiad Dynodi
01/02/2022  
Statws
Dynodedig  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Castell-nedd Port Talbot  
Cymuned
Margam  
Dwyreiniad
281010  
Gogleddiad
186166  

Dosbarthiad bras
Gerddi, Parciau a Mannau Trefol  
Math o Safle
Parc ceirw a thirlun; parciau difyrrwch; gerddi; hen ardd lysiau  
Prif gyfnodau adeiladu
Deuddegfed-pymthegfed ganrif; 1540-diwedd yr ail ganrif ar bymtheg; 1786-90; 1830-40; 1920au; 1950au  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Cofrestrwyd Parc Margam yn safle gradd I fel safle aml-haenog o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol. Mae'n cynnwys olion abaty cyn hanesyddol ac abaty Sistersaidd yn ogystal â chyfnodau o greu gardd a thirlunio yn y cyfnod Tuduraidd ac yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. O bwysigrwydd penodol mae’r parc ceirw muriog sydd o safon arbennig, ffasâd y neuadd wledda, yr orenfa Sioraidd eithriadol, y Tŷ Citrws a’r gerddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda'u casgliad gwych o goed a phrysglwyni. Mae’r ardd a grëwyd o ddiwedd y 1940au gan Ralph Hancock yn Nhwyn-yr-hydd yn gofnod hyfryd o’r cyfnod gan fod y cyfan wedi cael ei gadw a’i gynnal o fewn y parc. Mae'r parc a'r ardd gofrestredig yn rhannu gwerth grŵp pwysig gyda'r henebion cofrestredig a'r nifer fawr o adeiladau rhestredig o arwyddocâd hanesyddol i ystâd Margam. Mae Castell Margam (LB: 14170) yn blasty Tuduraidd-Gothig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gynlluniwyd gan y pensaer Thomas Hopper (1776-1856), ar gyfer Christopher Rice Mansel Talbot (1803-90). Fe'i lleolir mewn parc eang ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe ac i'r de-ddwyrain o Bort Talbot. Dewiswyd y fan a'r lle yn fwriadol ar gyfer ei chysylltiadau hanesyddol a'i safle hyfryd wrth droed bryn hanesyddol coediog, gydag adfeilion Abaty Margam a'r orenfa o'r ddeunawfed ganrif i'w gweld i'r gorllewin. Mae'n barc mawr o gymeriad amrywiol rhwng cefnen Mynydd Margam, i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, a'r gwastadedd arfordirol (sydd bellach wedi'i ddiwydiannu) i'r gorllewin. Mae’n safle hynafol gydag olion o aneddiadau cyn hanesyddol, hanesyddol cynnar, Sistersaidd a chyfnodau diweddarach. Mae tarddiad parc i’w weld yng nghyfnod y Tuduriaid, os nad yn gynharach na hynny. Mae siâp y parc ar ffurf triongl bras ac wedi'i amgylchynu bron yn llwyr gan wal gerrig rwbel sylweddol. Mae’r wal hon yn adfeilio mewn mannau er bod rhannau ohoni, yn enwedig ar hyd yr A48 ar yr ochr ddeheuol, wedi’u hailadeiladu (nprn 19296). Mae llawer o newidiadau wedi bod i’r parc dros amser ond fe drawsffurfiwyd y parc yn bennaf gan Talbot o 1828 ymlaen. Gellir rhannu'r parc yn dair prif ardal. Mae pob rhan o'r parc yn wahanol o ran cymeriad a defnydd. Ar fap ystâd y Plas o 1814 gelwir yr ardal i'r de o'r tŷ yn Barc Bach, yr ardal i’r dwyrain yn Barc Mawr a’r ardal ar y tir uwch yn Barc Uchaf. Yn gyntaf, ceir tir isel yn hanner deheuol y parc, ardal sydd wedi'i ffinio yn y gorllewin gan y tiroedd a'r gerddi ac ar y gogledd gan gefnen serth Craig y Lodge. Fe'i thrawstorrir gan y brif ddreif flaenorol o fynedfa fawreddog rhwng dau borthdy (LB: 14168) ar ochr ddwyreiniol y parc. Gwnaed y ddreif hon gan C.R.M. Talbot yn 1840 ac fe'i crëwyd yn fwriadol i roi cipolwg ar y castell wrth ddynesu ato. Mae'r ddreif yn rhedeg tua'r gogledd-orllewin o'r fynedfa ar draws tir agored, heibio i Bwll Dwr Furzemill. Yna mae'n rhedeg islaw’r Blanhigfa Gartref o goed pinwydd, ar y dde, a heibio i Bwll Dŵr Newydd (a grëwyd yn 1926) ar y chwith cyn cyrraedd pen dwyreiniol y plasty, lle mae’r naill gangen yn arwain at gwrt y stablau a'r llall at y cwrt blaen ar ochr ogleddol y tŷ. Mae ail brif ardal y parc i'r gogledd a'r gogledd-orllewin o'r tŷ ac mae'n wahanol iawn o ran cymeriad i'r gyntaf. Mae'n cynnwys dyffryn coediog sy'n rhedeg tua'r gogledd o ochr ogleddol y gerddi a bryn, Mynydd y Castell, y tu ôl i'r tŷ, gyda bryngaer o’r Oes Haearn ar ei ben (heneb gofrestredig GM162). Ceir llyn trionglog ar waelod pen deheuol y dyffryn. Mae'r hen ddreif orllewinol yn arwain tua'r gogledd o'r cwrt blaen ar hyd ochr ddwyreiniol y llyn o amgylch ei ben gogleddol, ar hyd yr ochr orllewinol ac yna tua'r gorllewin i ffin y parc i Borthdy’r Gorllewin (LB14164) a ddyluniwyd gan Edward Haycock ac a adeiladwyd tua dechrau'r 1840au. Ym mhen gogleddol y llyn mae'r ddreif yn croesi dros bont garreg un bwa. Mae'r nant islaw wedi'i haddurno â rhaeadr risiog. Ymhlith y nodweddion yn y rhan hon o'r parc mae adfeilion melin fynachaidd, melin Cryke ar ochr orllewinol y llyn; adfeilion Hen Eglwys, neu gapel Cryke (heneb gofrestredig GM163; LB: 14155) eglwys o'r bymthegfed ganrif ar fryncyn o ddaear ar y llethrau coetir cymysg; baddondy carreg ar gyfer mynaich yr abaty; Sedd y Foneddiges, sef nodwedd addurnol ar drac sy'n ffinio'r nant i'r gogledd o'r llyn; a’r Hen Gastell, sylfeini hen adeilad cerrig ym mhen deheuol clegyrog y fryngaer sy'n rhoi golygfeydd ysblennydd ar draws y parc a thu hwnt draw tuag at Fôr Hafren. Trydedd ardal y parc sydd ar yr ochr ogleddol yw'r Parc Uchaf. Mae’r ardal hon yn fras ar ffurf triongl ac yn cynnwys llwyfandir uchel tonnog uwchlaw’r gefnen, gyda chwm, Cwm Philip, ar hyd yr ochr ogledd-orllewinol. Mae’r ardal hon wedi’i henwi erioed fel y "Parc Ceirw" gan yr Arolwg Ordnans. Mae'n rhagflaenu'r parc presennol, a’i wrthglawdd o ffin i'w weld ar hyd Craig y Lodge. Cedwir gyr o geirw yn y parc o hyd. Ar ben sgarp serth Craig y Lodge sydd wedi'i orchuddio ag eithin, mae heneb "Bro", sef maen hir o adeiladwaith modern gyda "bro" wedi'i arysgrifio arno, wedi'i osod ar lwyfan gwylio sgwâr, sy'n sefyll wrth ymyl olion y Porthdy Isaf. Yn y wal ddwyreiniol mae safle’r Porthdy Uchaf. Dangosir y ddau ar fap Arolwg Ordnans 1876 ond mae’n ymddangos na fu porthdy erioed ar yr ail. Mae'r parc bellach yn cael ei ddefnyddio fel parc gwledig ar gyfer gwahanol weithgareddau hamdden. Mae’r gerddi i’w gweld yn bennaf i'r gorllewin o'r tŷ, gerddi sydd wedi eu gosod mewn stribed hirgul o'r tŷ hyd at ychydig i’r gorllewin o'r orenfa (LB: 14152). Mae'r tir yn goleddu i lawr o'r tŷ, gan lefelu cyn cyrraedd olion yr abaty (heneb gofrestredig GM005). Mae gan y gerddi hanes hir a buont yn destun sawl trawsnewidiad (gweler y disgrifiad hir yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg (2000) am hanes y gerddi). Mae'n debygol bod gerddi a pherllannau iwtilitaraidd ynghlwm wrth y fynachlog Sistersaidd, ond soniwyd am y tro cyntaf am erddi yn 1661 gyda chofnodion garddwr ac adeiladu gwahanol waliau gardd. Erbyn yr 1870au roedd y gerddi'n ddigon nodedig i’w crybwyll mewn cylchgronau garddio. Mae'r gerddi'n perthyn i dair prif ardal sef y teras (LB: 14163) o amgylch y tŷ, y tir sy’n goleddu i'r gorllewin, a'r tir gwastad o amgylch adfeilion yr abaty a’r orenfa. Mae'r teras yn enfawr ac yn eang, wedi'i adeiladu'n drwm ac yn addurnol, gydag wyneb o gerrig, yn ymestyn o dalcenni deheuol a gorllewinol y tŷ. Gosodwyd y ddwy ochr gyda gwelyau sgwâr o flodau (ailosod patrwm y bedwaredd ganrif ar bymtheg), a phob un rhwng stribedi cul o lawnt. Mae llwybrau graean yn ffinio ochr hir pob ochr teras. Tir glaswelltog yn bennaf yw'r tir sy’n goleddu i'r gorllewin, sydd wedi'i osod allan yn anffurfiol a'i blannu gyda chymysgedd o goed a llwyni sbesimen, coed pinwydd, derw a rhododendron ymhlith y rhai amlycaf. Mae'r ardal wedi'i ffinio ar yr ochrau gogleddol a'r ochrau deheuol gan waliau gwrthglawdd cerrig. Mae rhodfa lydan ganolog yn ffurfio dynesfa fawreddog, echelinol at y tŷ, gyda rhesi o risiau (LB: 23266) ym mhen draw’r rhodfa sy’n canolbwyntio ar dalcen gorllewinol y tŷ. I lawr yr ochr ogleddol ceir olion gardd ddŵr. Y drydedd ardal yw'r tir gwastad i'r gorllewin o'r llethr, sy'n gorwedd i'r de-orllewin o'r llyn. Y brif nodwedd yma yw’r orenfa o'r ddeunawfed ganrif (LB: 14152) sy’n ganolbwynt dramatig i'r gerddi, ac olion Abaty Margam i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain. O'u hamgylch ceir tiroedd anffurfiol sy’n bennaf yn cynnwys lawntiau ac wedi’u plannu â choed a phrysglwyni sbesimen. Mae llwybr graean yn arwain o'r dwyrain i’r gorllewin heibio'r orenfa. I'r gorllewin o’r orenfa mae'n cylchu tua phen gorllewinol yr ardd. Mae'r ardd wedi'i ffinio ar yr ochr ddeheuol gan wal a ha-ha. Yng nghornel dde-orllewinol yr ardd mae tŷ o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef Park House a adeiladwyd ar gyfer y prif arddwr. Mae'r rhodfa fawr hyd at y plasty yn parhau tua'r gorllewin tuag at yr orenfa cyn troi’n llai ffurfiol ar draws lawnt a blannwyd â choed. Mae'r llwybr yn rhannu'n ddwy gangen gulach sy'n arwain at y cabidyldy sydd wedi adfeilio (LB: 14149) ynghyd ag adfeilion eglwys fawr yr abaty (LB: 14148) i'r gogledd, a’r un ddeheuol sy’n arwain at ben dwyreiniol yr orenfa. Mae pen gorllewinol yr ardd yn ardal agored, goediog. Adeiladwyd yr hen ardd lysiau yn ystod yr 1830au ac fe’i lleolir ar hyd ymyl ogledd-orllewinol y gerddi sydd wedi'u ffinio ar yr ochr ogleddol gan y lôn i'r eglwys. Fe'i datblygwyd ar safle hen bentref Margam (15356), gyda’r ffordd gyhoeddus i'r eglwys yn cael ei hailgyfeirio o amgylch ei hochr ogleddol. Mae'r ardd yn ffurfio petryal afreolaidd o 5 erw (2 ha). Mae echelin hir yr ardd yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, gan gulhau ym mhob pen. Mae waliau’r ardd rhwng 3.5 a 4.5 metr o uchder. Maen nhw o gymeriad amrywiol a gallant fod yn adlewyrchu sawl cyfnod (LB: 14162). Ar hyd ochr ddeheuol yr ardd lysiau, mae tŷ gwydr hir gyda tho ar oledd a’r Tŷ Citrws sy'n dyddio o tua 1800 (LB: 23264). Mae’r ardd wedi'i rhannu'n ardaloedd gwahanol. Mae pen dwyreiniol yr ardd wedi'i osod yn rhannol fel tri theras mawr glaswelltog sy’n cynnal gwelyau geometrig o flodau gyda rhesi canolog o risiau rhwng y terasau hynny. Yn y pen dwyreiniol ar y teras uchaf mae sianel ddŵr sych, wedi'i leinio â cherrig, sydd o bosibl o darddiad mynachaidd, sy'n rhedeg o’r gogledd i’r de. Mae iard ar ochr ogleddol yr ardd. Ar yr ochr ddeheuol mae rhes o fythynnod unllawr a adeiladwyd yn erbyn wal gefn garreg tŷ gwydr hir gyda tho ar oledd sy'n dyddio o tua 1890. Mae tai gwydr eraill wedi mynd ac mae llawer o'r safle bellach yn cynnwys twnelau polythen. Mae'r ardal orllewinol wedi'i rhannu'n bedrannau gan lwybrau sy’n dilyn y cynllun a welir ar argraffiad cyntaf yr Arolwg Ordnans (1883). Mae adeiladu Twyn-yr-hydd (LB: 23263) ym mhen deheuol y parc tua dechrau'r 1890au wedi cyflwyno endid ar wahân o fewn y parc ac un sydd â'i gymeriad arbennig ei hun. Fe'i hadeiladwyd yn yr 1890au gan Emily Charlotte Talbot ar gyfer ei hasiant tir sef Edward Knox. Dynesir at y tŷ ar hyd dreif o’r de. Mae'r fynedfa (LB 23281) rhwng waliau o gerrig sychion wedi'u hadeiladu'n dda, ynghyd â phileri sgwâr uwch gyda chorneli cerrig nadd. Mae'r rhain, a'r waliau cysylltiedig, sy'n cynnwys claire-voies, o gerrig o’r Cotswolds sy’n cyd-fynd â'r rhai sydd yn yr ardd furiog i'r gogledd o'r tŷ ac o’r un arddull â nhw. I'r de o'r tŷ mae llwybr graean wrth ymyl y tŷ ac yna lawnt sy’n goleddu, gyda choed cymysg yn y pen dwyreiniol. Ar ffin yr ardd nid oes unrhyw rwystr, dim ond ychydig o goed a choed rhododendron. I'r gorllewin o'r tŷ mae lawnt wedi'i lefelu, yn wreiddiol ar gyfer tennis ynghyd â hen foncyff coeden fawr. I'r gogledd o'r tŷ mae'r cymeriad yn dra gwahanol. Yma ceir gardd furiog, betryalog wrth ymyl y tŷ, wedi'i hadeiladu'n hardd yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft. Dyluniwyd yr ardd hon gan Ralph Hancock (1893-1950), y dylunydd gardd o Gaerdydd. Mae map Arolwg Ordnans 1918 (a arolygwyd yn 1914) yn dangos y gerddi gyda chynllun tebyg iawn i heddiw. Mae Manylion Gwerthu 1942 yn nodi Twyn-yr-hydd fel ystâd breswyl gydag ystâd chwaraeon ar wahân, gan gynnwys 313 erw o ben dwyreiniol y parc. Mae’r manylion gwerthu yn disgrifio’r teras graean a’r lawnt gyda’r gwelyau cylch o rosynnau ar ochr ddeheuol y tŷ a’r tiroedd yn ‘frith’ o flodau’r enfys, llawryf, celyn a rhododendron. Disgrifir yr ardd lysiau fel un rhannol furiog, gan gynnwys gwinwydd-dy wedi'i gynhesu, fframiau oer a thŷ gwydr a tho ar oledd (y cyfan wedi mynd bellach) ynghyd ag amrywiaeth o gytiau potio. I'r gorllewin nodwyd bod lawnt tennis a border blodau. Does dim sôn am yr ardd furiog i'r gogledd o'r tŷ. Gwnaed yr ardd hon, ynghyd â ha-ha newydd a'r fynedfa a'r waliau i'r dwyrain o'r tŷ, tua diwedd yr 1940au, pan gomisiynodd Syr David Evans Bevan, a oedd yn byw yn Nhwyn-yr-hydd ar y pryd, y dylunydd gardd Ralph Hancock i ail-ddylunio ei ardd. Golygfeydd Nodedig: Mae golygfeydd panoramig ysblennydd i’w gweld dros y parc a'r ardal o fryncyn bach yr Hen Eglwys neu gapel y Cryke. O sgarp Craig y Lodge ac ar hyd crib y gefnen, mae golygfeydd godidog, panoramig dros y parc, Bae Abertawe a thu hwnt. Mae golygfeydd hefyd i’w gweld o safle adfeilion yr Hen Gastell gan edrych allan dros y parc a'r ardal gyfagos heb sôn am y golygfeydd sydd i’w gweld i'r de o'r tŷ a theras yr ardd. Gan wynebu i'r naill gyfeiriad neu'r llall ar hyd y Rhodfa Lydan rhwng y plasty a'r orenfa gellir gweld mwy o olygfeydd trawiadol. Ffynonellau: Cadw 2000: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg, 102-113 (cyf: PGW(Gm)52(NEP)). Map chwe modfedd Argraffiad Cyntaf yr Arolwg Ordnans, dalen: Morgannwg XXXIII.NW (1876). Ail Argraffiad Map 25 modfedd Arolwg Ordnans, dalen: Morgannwg XXXIII.7 (1897). Nodiadau ychwanegol: D.K. Leighton  

Cadw : Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio