Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Cofrestrwyd yn sgil goroesiad rhannol tir a dirluniwyd i greu tirlun pictiwrésg pwysig a rhamantaidd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, creadigaeth John Dillwyn Llewelyn (1810-1882) oedd yn ffigur cenedlaethol pwysig ym maes garddwriaeth. Mae’r safle’n anarferol am fod nifer o ffotograffau cyfoes yn bodoli ohono. Lluniau oedd wedi cael eu tynnu gan Llewelyn, a oedd hefyd yn arloeswr ym maes ffotograffiaeth. Er bod llawer o’i waith plannu egsotig wedi diflannu mae strwythur ei dirluniad wedi goroesi, yn ogystal â gweddillion ei dŷ tegeirianau arloesol yn yr ardd lysiau furiog. Mae’r ardal gofrestredig hefyd yn cynnwys arsyllfa gyhydeddol Llewelyn a adeiladwyd yn 1846 fel lleoliad i’w delesgop, ac oddi yno y tynnwyd un o’r ffotograffau cyntaf o’r lleuad. Mae’r tŷ tegeirianau a’r arsyllfa yn gofadeiladau cofrestredig (GM596; GM410) ac yn rhannu gwerth grŵp gyda’r parc cofrestredig a’r ardd.
Lleolir Penllergaer (neu Penllergare) yn nyffryn Afon Llan i’r gogledd o Abertawe. Dymchwelwyd y tŷ̂ mwyaf diweddar (a ailadeiladwyd gan John Dillwyn Llewelyn yn 1835-36 ac a gynlluniwyd gan y pensaer Edward Haycock) yn 1961 a chafodd swyddfeydd y cyngor eu hadeiladu ar y safle maes o law gyda llawer o’r ardd yn union o gwmpas yr adeilad yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio cerbydau. Yn fwy diweddar, dymchwelwyd swyddfeydd y cyngor ac adeiladwyd tai ar y safle.
Lleolir Penllergare (ger pentref Penllergaer) yn nyffryn yr Afon Llan i’r gogledd o Abertawe. Dymchwelwyd y tŷ̂ diweddaraf (a ailadeiladwyd gan John Dillwyn Llewelyn yn 1835-36, gan ddefnyddio’r pensaer Edward Haycock) yn 1961 a chafodd swyddfeydd y cyngor eu hadeiladu ar y safle maes o law gyda llawer o’r ardd yn union o gwmpas yr adeilad yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio cerbydau. Yn fwy diweddar, dymchwelwyd swyddfeydd y cyngor ac adeiladwyd tai ar y safle.
Creadigaeth John Dillwyn Llewelyn yn bennaf oedd yr ardd o 1833 ymlaen. Cyn y dyddiad hwnnw, gwyddom fod parc yno ond ni cheir tystiolaeth o beth oedd ymddangosiad y parc. Trawsnewidiwyd y dirwedd gan John Dillwyn Llewelyn gan ddefnyddio cryn ddychymyg o safbwynt tirlunio tua 3km o ddyffryn Afon Llan, lle mae’n llifo o Felin-llan i Cadle. Arweiniodd y cyfuniad o’r llynnoedd, rhaeadrau a’r plannu egsotig helaeth at greu tirwedd ramantaidd. Mae ffotograffau gan Llewelyn o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhoi syniad da i ni o’r dirwedd pan oedd ar ei anterth.
Lleolwyd y tŷ ym mhen gogleddol y parc, ar ochr orllewinol yr afon, gyda llethr serth yn arwain at y dyffryn a’r llyn islaw. Roedd y brif fynedfa yn y de, ym Melin Cadle, a chafodd Dreif Cadle hardd ei hadeiladu yn 1833 yn ogystal â chodi porthdy sef y Porthdy Isaf, a adeiladwyd ger y fynedfa gan Edward Haycock (1790-1870). Mae’r dreif yn arwain tua’r gogledd ar hyd ochr orllewinol y dyffryn heibio i’r Porthdy Canol a'r Porthdy Uchaf, a adeiladwyd yn 1833/34 i gyd-fynd â’r dreif newydd. Adnewyddwyd y Porthdy Isaf i fod yn dŷ preifat. Adfeilion yw’r Porthdy Canol a’r Porthdy Uchaf erbyn hyn. Roedd, ac mae, pen gogleddol y dreif yn ddramatig, gyda chraig uwchben a llethr serth islaw.
Mae’r dreif yn pasio chwarel, wedi’i haddurno fel nodwedd bictiwrésg o’r dirwedd. Mae ffotograff yn dangos bod gardd yno a bod rhaeadr yn y cornel gogledd-orllewinol. Ar ben y rhaeadr roedd caban pren, sydd bellach wedi mynd, â llwybrau’n cyrraedd ato o’r ardd furiog.
Islaw safle’r tŷ mae’r tir yn goleddu’n serth i lawr at y llyn. Mae’r llyn wedi’i gronni yn y pen deheuol gydag argae creigwaith sylweddol. Ar ei lan gorllewinol mae llwybr yn arwain at lwyfan cerrig lle mae modd gweld y rhaeadr yn rhaeadru dros yr argae. Mae tair rhaeadr, un ganolog a dwy raeadr ochrol lai, wedi eu gwahanu oddi wrth y brif raeadr gan slabiau cerrig. Mae’r creigwaith yn ymestyn tua’r dwyrain a’r gorllewin bob ochr i’r rhaeadrau. Adeiladwyd y cyfan yn artiffisial o gerrig mawr gwastad, wedi eu gosod yn llorweddol, a’u trefnu i edrych fel brigiadau craig naturiol neu glogwyn. Mae nifer o lwybrau’n arwain i lawr ac ar draws y dyffryn, un yn arwain i ochr orllewinol yr hen lyn a oedd yn gorchuddio pen deheuol llawr y dyffryn.
Adeiladwyd y llynnoedd a’r rhaeadrau yn ystod yr 1830au hefyd a’u cwblhau yn 1839. Roedd gan y ddau lyn gytiau cychod. Lleolwyd yr un ar gyfer y llyn uwch ar lan y gorllewin ar gilfach ger y pen gogleddol. Roedd y cwt cychod ar gyfer y llyn is wedi’i leoli ar gilfach ar ochr ogleddol y llyn. Mae’r ddau bellach wedi diflannu, gan adael dim ond y sylfeini ar ôl. Cynhaliodd Llewelyn nifer o arbrofion gydag ‘a small electric galvanic apparatus’ i yrru’r cychod. Roedden nhw’n gweithio’n dda er bod y cychod ychydig yn araf. Ymwelodd y British Association for the Advancement of Science ar 19 Awst 1848 ar gyfer gweld sut oedd y cyfan yn gweithio.
Gwelwyd gwaith plannu coed a llwyni ar raddfa eang o 1833 ymlaen. Mae map Arolwg Ordnans 1876 yn dangos bod ardal y tir a dirluniwyd wedi’i gwblhau, gan ddangos yn glir mai coed oedd yn gorchuddio’r tir bron yn gyfan gwbl – a’r unig ardal o dir agored oedd y cae rhwng y Porthdy Canol a’r Porthdy Uwch, a oedd ar ffurf llain gul o dir i lawr tuag at ben gogleddol y llyn isaf.
Cafodd y gerddi eu creu gan John Dillwyn Llewelyn hefyd ar yr un pryd ag yr ailadeiladwyd y tŷ ganol yr 1830au. Mae map Arolwg Ordnans 1876 yn dangos y cynllun wedi’i gwblhau. Mae’r ardaloedd o gwmpas safle’r tŷ wedi eu colli i ddatblygiad. Lleolir yr arsyllfa gyhydeddol (LB: 26500; GM410) i’r gorllewin o safle’r tŷ. Arferai’r arsyllfa sefyll yn ei gardd ei hun ond bellach mae’n sefyll o fewn ardal werdd yng nghanol datblygiad o dai newydd.
Lleolir yr ardd lysiau i’r de o safle’r tŷ. I’r dwyrain ohono mae llethr serth i’r de o’r ddreif; i’r de mae caeau agored a gweddillion cytiau. Mae sawl rhan i’r gerddi; gardd drapesoid furiog fawr yw’r brif adran gyda waliau cerrig rwbel uchel o’i chwmpas yn ogystal ag adfeilion y tai gwydr a’r tŷ tegeirian. Gellir gweld olion llwybrau perimedr a chroes o ganlyniad i’r cerrig a osodwyd ar hyd ymylon y llwybrau. Yn y canol, mae amgylchyn carreg hen bwll dŵr bach sydd wedi gordyfu. Ychydig i’r gogledd-ddwyrain wedyn mae adfeilion y tŷ tegeirian sydd wedi gordyfu’n wyllt. Mae adrannau muriog llai y tu allan i’r brif ardd furiog yn cynnwys olion fel tir ar gyfer tyfu melon (PRN04859), tŷ tyfu grug (PRN04849), creigardd (PRN04850), tŷ pinafal (PRN04853) ac adfeilion llety’r garddwr (PRN4852;4855;4858).
Crëwyd yr ardd lysiau gan John Dillwyn Llewelyn ac mae’n debygol ei bod yn cyfoesi â’r tŷ a’r tiroedd o’i gwmpas sy’n dyddio’n ôl i’r 1830au. Roedd yn bendant yn bodoli erbyn 1840, gan fod yr ardal i’w gweld ar y map degwm. Er mai adfeilion ydyw bellach, mae’n ymddangos ei bod wedi cadw’r cynllun gwreiddiol ac mae’n bosib gweld y mwyafrif o’r nodweddion a welwyd ar fap Arolwg Ordnans 1876, hyd yn oed os mai darniog yw’r adfeilion. Adeiladwyd nodwedd bwysicaf yr ardal hon sef y tŷ tegeirian, mewn dau gam. Adeiladwyd y tŷ tegeirian cyffredin yn ystod y cam cyntaf ar ddechrau’r 1830au (cyfeiriwyd ato yn 1835). Yna cafodd y tŷ gwydr ei droi’n epiffyt ar gyfer tegeirianau annaearol (non-terrestrial orchids) yn 1843 drwy ychwanegu rhaeadr dŵr poeth dros greigwaith. Enillodd y tŷ gwydr y clod o gael ei ddisgrifio yn rhifyn cyntaf Journal of the Horticultural Society (1846).
Ffynonellau:
Cadw. 2013. Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (cyf: PGW(Gm)54(SWA)).
Glamorgan Gwent Archaeological Trust Historic Environment Record (PRN)
Argraffiad cyntaf map Arolwg Ordnans, dalen: XIV (1884)