Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae Parc Singleton, sy'n ymgorffori gerddi Plas Sgeti, yn barc cyhoeddus trefol o ddiddordeb hanesyddol eithriadol sydd wedi'i leoli i'r de-orllewin o Abertawe. Mae'r parc wedi bod mewn dwylo preifat, gyda theulu cefnog o ddiwydianwyr y Vivians y mwyaf adnabyddus o blith ei berchnogion, ac mae hanes y parc wedi'i blethu'n dynn â hanes dinas Abertawe. Mae'r parc wedi'i gofrestru oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol ac am ansawdd eithriadol tirlunio Parc Singleton sy'n gyfoes gydag adeiladu Abaty Singleton a'i ardd. Mae'n cynnwys llawer o goed a llwyni anarferol, rhai ohonynt yn brin eithriadol. Yn ogystal â'r Abaty (rhestredig gradd II, LB:11757) a Plas Sgeti (rhestredig gradd II, LB:11765), mae'r parc yn bwysig oherwydd ei werth grŵp gyda nifer o strwythurau rhestredig sy'n cynnwys nifer o borthdai hardd, Bwthyn y Swistir, Veranda House, ffermdy Fferm Fodel Singleton, rhan o wal yr ystâd, ac Eglwys a Mynwent Sant Paul (pob un yn radd II). Y penseiri nodedig oedd P.F.Robinson a ddyluniodd nid yn unig yr Abaty ond hefyd ei ardd ffurfiol ynghyd â nodweddion eraill y dirwedd, a Henry Woodyer a gyfrannodd hefyd.
Adeiladwyd yr ystâd gan John Henry Vivian yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy brynu tŷ cynharach, Marino, a gafodd ei ymgorffori'n rhannol yn Abaty Singleton, a defnyddiwyd nifer o ffermydd i greu parcdir cyfagos. Daeth Plas Sgeti a'i thir, nepell i'r gogledd-orllewin, i ddwylo Richard Glyn Vivian ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe'i cyfunwyd â Pharc Singleton ym 1936 i ffurfio parc cyhoeddus.
Gyda'i gilydd, roedd y parcdir yn ffurfio sgwâr o ryw 230 erw (93 ha.) sy'n ffinio â ffyrdd cyhoeddus, ond mae datblygiadau helaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn enwedig Campws Prifysgol Abertawe, Ysbyty Singleton ac Ysgol Bishop Gore, wedi lleihau ei faint yn fawr. O ganlyniad, mae'r parc bellach yn ffurfio nifer o ardaloedd ar wahân, neu led-gysylltiedig.
Lleolir Abaty Singleton (LB:11757) ym mhen dwyreiniol campws y brifysgol. Mae ei ardd deras ffurfiol, a ddyluniwyd gan P.F.Robinson, i'r de o'r tŷ yn bennaf, gan ddisodli cynllun anffurfiol syml Marino, ac fe'i dyluniwyd fel uned annatod gyda thŷ a blaen-gwrt. Mae'r ardd wedi'i gosod mewn terasau muriog disgynnol wedi'u haddurno ag addurniadau canoloesol (LB:11758-9). Mae gan blaen-gwrt lled-gylchol y dwyrain biler gothig yn y canol (LB:11759) a choed a llwyni cymysg y tu ôl iddo. I'r de o'r tŷ, yn ymestyn o'r blaen-gwrt, mae teras llydan gyda gwelyau planhigion cul wrth ymyl y tŷ, a deial haul yn ei ganol. Mae grisiau llydan yn disgyn i'r teras graean isaf, gyda bargodiadau siâp octagon ym mhob pen. Isod mae lawnt wedi'i phlannu gyda choed sbesimen. Ar ochr orllewinol y tŷ mae'r teras uchaf yn cynnal dwy ffownten a gwelyau planhigion ar yr ochr allanol. Mae grisiau'n disgyn i adeiladau'r campws.
Ar ochr ogleddol y tŷ mae gardd a llwyni gyda rhwydwaith o lwybrau sydd bellach yn rhan o'r parc. Mae'n cynnwys sawl elfen: coed a llwyni cymysg gyda llawer o rywogaethau prin ac egsotig; creigardd dwmpathog fawr; gardd gors wedi'i gosod allan â sianelau dŵr; y 'Lawnt Saethyddiaeth’; ac, yn nes at y tŷ, gardd ffurfiol betryal gyda phyllau crwn a phlanhigion addurnol.
Mae sawl mynedfa ffurfiol i'r parc gyda phorthdai: mynedfa'r gogledd, tuag at ben dwyreiniol ffin y gogledd, gyda Phorthdy’r Gogledd ar ei hochr orllewinol (LB:11750), yn agor i'r prif lwybr o'r gogledd i'r de; mae ail borthdy, ymhellach i'r gorllewin ar ffin y gogledd, bellach ar wahân i'r parc; y fynedfa orllewinol gyda lôn gerbydau, neu lwybr cerdded, i'r fferm fodel (ffermdy LB:11762) a thu hwnt a, gerllaw, porthdy a ddyluniwyd gan P.F.Robinson (LB:11764); mynedfa a phorthdy'r de-orllewin yn Nhŷ Harry, yng nghornel dde-orllewinol y parc, hefyd gan Robinson (LB:11763); ac yn y gornel dde-ddwyreiniol mae mynedfa fwaog fawreddog gyda Phorthdy Brynmill, a ddyluniwyd gan Henry Woodyer (LB:11746).
Mae prif ardal y parc i'r gogledd a'r dwyrain o'r tŷ ac mae'n cynnwys glaswelltir agored, bryniog wedi'i blannu â choed. Mae'r craidd canolog yn agored, gyda choed addurnol unigol ac ambell glwstwr, rhai collddail yn bennaf. Ar y cyrion mae lleiniau mwy helaeth o goetir, yn enwedig ar hyd yr ochr ddwyreiniol lle'r oedd coedardd. Mae wal ffin sydd wedi'i chadw'n dda ar hyd yr ochr hon o'r parc (LB:11747). Y prif adeilad addurnol yw Bwthyn y Swistir (LB:11753), a ddyluniwyd gan Robinson, sy'n agos at y prif lwybr o'r gogledd i'r de, i'r de-ddwyrain o'r ardd lysiau/botaneg. Isod mae pwll crwn, sydd ag ymyl cerrig ac sydd wedi'i amgylchynu gan goed collddail. Ym mhen gogleddol pellaf y parc mae Eglwys Sant Paul (LB:11754), eglwys breifat ar un adeg ond sy’n eglwys blwyf erbyn hyn, a adeiladwyd ym 1850 gan Henry Woodyer ar gyfer y teulu Vivian er cof am wraig gyntaf Henry Hussey Vivian (a fu farw ym 1848).
Yn agos at wal ffin y parc mae olion dwy felin ŷd a'u nodweddion rheoli dŵr a oedd unwaith yn rhan o ganolfan felino ganoloesol a oedd yn cynnwys melinau llanw (NPRN:410018).
Mae'r parc cyhoeddus yn cynnwys yr hen ardd lysiau sy'n gorwedd tuag at ei chornel ogledd-ddwyreiniol. Mae'n siâp D, wedi'i hamgylchynu gan waliau brics a cherrig uchel, ac mae bellach yn gartref i Erddi Botaneg Abertawe a meithrinfa blanhigion. Datblygodd yr ardd furiog o erddi a oedd unwaith ynghlwm wrth fersiwn gynharach o Veranda House, tŷ Fictoraidd sydd bellach yn segur mewn arddull gothig ar yr ochr ddwyreiniol (LB:11751); dyma oedd tŷ'r garddwr. Tua'r ochr ddeheuol mae ardal o lawnt a gwelyau o flodau gyda ffownten addurnedig, a oedd yn wreiddiol yng Ngerddi Castell Abertawe (LB:11752). Ychydig i'r gogledd o'r ardd mae cylch yr Orsedd, a godwyd gyntaf ym 1926.
Mae llain o goed cymysg a bancyn o gerrig isel ar hyd ochr orllewinol ardal ganolog y parc, a dyma oedd y ffin rhwng parciau Abaty Singleton a Plas Sgeti. Y tu hwnt i'r ffin, i'r gogledd o'r ysbyty, mae ardaloedd o laswelltir agored, llwyni a lleiniau o goed sy'n cynnwys derw hynafol. Ceir olion tŷ iâ (NPRN:405532) mewn clwstwr o goed. Mae'r parc cyhoeddus hefyd yn cynnwys Fferm Singleton (LB:11762), un o ffermydd gwreiddiol yr ystâd, a gafodd ei throi'n fferm ystâd fodel gan John Henry Vivian.
Saif Plas Sgeti (LB11765) a'i gerddi ym mhen gogleddol lawnt agored fawr, wedi'i hamgylchynu'n bennaf gan goed a lleiniau o goetir. Ar hyd ochr ddeheuol y lawnt, yn y coetir, mae nant fach wedi'i chamlesu wedi'i haddurno i fod yn ardd ddŵr, ac mae rhan ohoni bellach ar dir yr ysbyty. Mae gerddi i'r gogledd, i’r gorllewin ac i’r de o'r tŷ, ac fe'u datblygwyd ynghyd â'r tŷ a'r parc. I'r gogledd, mae'r tir yn wastad, gyda'r lôn fynediad wedi'i thorri i mewn i'r llethr. Mae cymeriad Eidalaidd ffurfiol y gerddi wedi mynd erbyn hyn ac mae'r ardal hon yn cynnwys ardaloedd o goed a llwyni wedi'u plannu'n anffurfiol wedi'u plethu â lawntiau bach, lonydd ceir a meysydd parcio gyda grisiau atynt. I'r gorllewin o'r tŷ mae lawnt wedi'i phlannu gyda choed sbesimen. Mewn ardal anffurfiol o goed a glaswellt mae ciosg bach crwn, sef 'Teml y Gwyntoedd' yn wreiddiol, ac ym mhen gorllewinol pellaf y tiroedd mae pwll. Prif nodwedd yr ardd i'r de o'r tŷ yw'r Ardd Eidalaidd islaw teras palmantog gyda parterre bocs ar ei ochr allanol. Mae'r ardd wedi'i gosod allan ar ffurf petryal ffurfiol gwastad gydag arwyneb graean a gwelyau cymesur a chrwm ag ymylon bocs, wedi'i rhannu'n bedwar chwarter gan lwybrau echel, gyda sylfeini carreg ar gyfer colofnau silindraidd ar hyd ochrau'r dwyrain a'r gorllewin. Yn y canol mae ardal sgwâr wedi'i chodi gyda cholofnau marmor. I'r gorllewin mae ardal anffurfiol o lwyni bytholwyrdd gyda phwll wedi'i addurno â chreigwaith ac ynys fach. Caiff y pwll ei fwydo gan sianel ddŵr addurnedig. I'r de o'r ardd mae llwybr cylchol ac un arall i golofn marmor isel.
Datblygwyd y gerddi presennol yn Plas Sgeti yn y cyfnod 1898-1910 gan Richard Glyn Vivian. Mae gardd lysiau furiog segur, sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif, i'r gogledd-ddwyrain o'r tŷ.
I'r de o'r ysbyty, yng nghornel dde-orllewinol y parc, mae llyn cychod â choed o'i amgylch gyda dwy ynys (tair gynt) wedi'u plannu â choed cymysg. Mae lawntiau wedi'u plannu â choed, cyfleusterau i ymwelwyr a maes chwarae. Mae'r lawnt yn ymestyn tua'r dwyrain i gampws y brifysgol.
I'r gorllewin o brif fynedfa'r campws (i'r dwyrain o'r llyn cychod) mae'r Ardd Fotaneg, wedi'i gosod allan y naill ochr a'r llall i'r hen lôn dde-orllewinol. Dyluniwyd yr Ardd Fotaneg ar gyfer y brifysgol gan The Percy Thomas Partnership ym 1959. Fe'i lleolir wrth ymyl Adeilad Wallace (LB:82443), hefyd gan Percy Thomas, adeilad addysgol a ddyluniwyd yn bwrpasol ar gyfer addysgu gwyddorau naturiol. I'r gogledd, wedi'i integreiddio ag adeiladau'r campws, mae cynllun ffurfiol sy'n cynnwys terasau, gwelyau planhigion wedi'u gwahanu gan lwybrau, pergolas, a thŷ ymlusgiaid. I'r de o'r ffordd mae'r ardd yn anffurfiol ac yn goediog ac mae'n cynnwys pinwyddlan, pwll wedi'i ddraenio gan nant sy'n llifo i'r de i goetir corsiog, a chlawdd pridd wedi'i blannu â choed collddail.
Lleoliad - Mae Parc Singleton a Pharc Sgeti wedi'u lleoli ar wddf penrhyn Gŵyr, yn edrych dros Fae Abertawe ac o fewn maestrefi de-orllewinol Dinas Abertawe. Mae'r parciau wedi'u hamgylchynu gan ddatblygiadau trefol ac mae ardaloedd sylweddol o fewn y parciau hefyd wedi'u datblygu.
Golygfeydd Arwyddocaol - O Abaty Singleton ac o Fwthyn y Swistir ceir golygfeydd agored dros lawntiau eang a thu hwnt ar draws Bae Abertawe.
Ffynhonnell:
Cadw 2000: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Morgannwg (cyf: PGW(Gm)56(SWA)).