Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig


Manylion


Rhif Cyfeirnod
PGW(Gt)19(NPT)
Enw
Parc Bellevue  
Gradd
II  
Dyddiad Dynodi
01/02/2022  
Statws
Dynodedig  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Casnewydd  
Cymuned
Stow Hill  
Dwyreiniad
330668  
Gogleddiad
187160  

Dosbarthiad bras
Gerddi, Parciau a Mannau Trefol  
Math o Safle
Parc tirlun trefol, cyhoeddus, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
Prif gyfnodau adeiladu
1893  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae Parc Bellevue yn rhestredig oherwydd ei ddiddordeb hanesyddol fel enghraifft dda o barc cyhoeddus o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd fwy neu lai yn ddigyfnewid ac â chysylltiadau hanesyddol â’r cynllunydd Thomas Hayton Mawson (1861-1933). Mae iddo hefyd werth grŵp gyda’r pafiliwn a’r heulfannau, y tŷ te gwledig, y terasu, porthdai’r parc, clwydi’r mynedfeydd, a’r waliau terfyn rhestredig. Mae Parc Bellevue yn barc cyhoeddus amgaeedig 14 hectar (35 erw) yng Nghasnewydd. Wedi ei greu ar dir a roddwyd gan yr Arglwydd Tredegar i liniaru diweithdra, cynlluniwyd y parc gan T.H Mawson, ac agorwyd ef ym 1894. Mae wedi ei osod allan yn anffurfiol ac mae’r llwybrau eang a’r coed addurnol sy’n nodweddiadol ohono heddiw yn dyddio o’r cyfnod cyn creu’r parc. Yn ei ganol mae gardd ddŵr mewn dyffryn bach gyda ffynhonnau yfed, creigwaith, nentydd, pyllau a rhaeadrau. I’r gorllewin o’r ardd ddŵr mae pafiliwn te deulawr (LB: 16955) a adeiladwyd ym 1910 gan Mawson. Mae’r pafiliwn wedi’i adeiladu o gerrig gyda tho teils coch, ac wedi’i ystlysu gan dai heulfannau. O dano mae cyfres o derasau wedi eu hadeiladu allan dros y goleddf ar waliau cynnal anferth o gerrig (LB:16956). Mae tŷ te gwledig i’r de-orllewin o’r pafiliwn (LB: 23136). Ychwanegwyd lawnt fowlio yn ddiweddarach hefyd. Mae’r parc wedi’i amgylchu gan waliau cerrig ac mae ei brif fynedfeydd ar yr ochr ogleddol a’r ochr ddeheuol, y ddwy â chlwydi haearn gyr a phorthdai ffrâm bren, hefyd o waith Mawson ac fe’u hadeiladwyd ym 1893-94 (LB:23134 a 23135). Mae’r safle yn cynnwys cylch yr Orsedd a adeiladwyd ar gyfer Eisteddfod 1897. Adferwyd y parc yn y 2000au cynnar gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Lleoliad: Wedi ei leoli rhyw 1km i’r de-orllewin o ganol dinas Casnewydd a’r rhan fwyaf ohono wedi’i amgylchu gan dai. Golygfa Arwyddocaol: O’r terasau mae golygfeydd dros afon Wysg a Môr Hafren. Ffynonellau: Cadw 1994: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru: Gwent (cyf: PGW(Gt)19). Map 25 modfedd yr Arolwg Ordnans, ail argraffiad: Monmouthshire, XXXIII, dalen 4 (1902).  

Cadw : Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio