Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig


Manylion


Rhif Cyfeirnod
PGW(C)67(WRE)
Enw
Mynwent Wrecsam  
Gradd
II  
Dyddiad Dynodi
01/02/2022  
Statws
Dynodedig  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Wrecsam  
Cymuned
Offa  
Dwyreiniad
332621  
Gogleddiad
349582  

Dosbarthiad bras
Gerddi, Parciau a Mannau Trefol  
Math o Safle
Gardd-fynwent  
Prif gyfnodau adeiladu
1874-76.  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Wedi’i chofrestru oherwydd ei diddordeb hanesyddol fel gardd-fynwent Fictoraidd, gyda’r trefniant a’r plannu wedi goroesi, ac am ei gwerth grŵp gyda chapel rhestredig y fynwent, porthdy, clwydi, pileri clwydi a rheiliau. Mynwent fawr Fictoraidd yw Mynwent Wrecsam, rhandir hirsgwar ar derfyn gorllewinol y dref rhwng y ffyrdd B5099 ac A5152, ac wedi’i hamgáu gan gymysgedd o waliau a rheiliau. Gosodwyd hi rhwng 1874 ac 1876 gan Yeaman Strachan o Wrecsam ar dir pantiog y tu allan i’r dre, gyda’r Great Western Railway a estynnwyd tua’r dwyrain ym 1890 ar ei therfyn gorllewinol. Cafodd y fynwent ei gosod allan fel gardd gyhoeddus, gyda llwybrau syth a throellog, gyda choed a llwyni addurnol yma a thraw, rhai conifferaidd a rhai collddail, yn cynnwys nifer o bisgwydd, acasiâu, castanau, ynn, ffawydd, helyg, ceirioswydd, derw, yw a chypreswydd. Mae’r brif fynedfa wedi ei gosod yn ôl o’r ffordd ar yr ochr ddeheuol, gyda’r prif glwydi a’r rhai ochr o haearn bwrw wedi’u hystlysu gan bileri carreg. Ychydig i mewn o’r fynedfa mae porthdy carreg bach deulawr (Cadw LB: 1808) a gynlluniwyd gan William Turner o Wrecsam, a’r tu mewn i’r clwydi mae blaen-gwrt bach wedi’i darmacio o flaen dau gapel gothig unfath wedi’u cysylltu gan fwa canolog, hefyd wedi ei gynllunio gan Turner (Cadw LB: 1807). Ffynonellau: Cadw 1995: Cofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Clwyd (cyf: PGW(C) 11).  

Cadw : Parc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio