Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
GM445
Enw
Gweddillion Doc Brunel, Llansawel  
Dyddiad Dynodi
23/05/1991  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Castell-nedd Port Talbot  
Cymuned
Briton Ferry  
Dwyreiniad
273643  
Gogleddiad
193602  

Dosbarthiad bras
Arforol  
Math o Safle
Doc  
Cyfnod
Ôl-ganoloesol/Modern  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r heneb yn cynnwys olion doc ar ochr ddwyreiniol Afon Nedd a ddyluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Pasiwyd Deddf Doc Llansawel ym 1851, ac adeiladwyd y safle rhwng 1858 a 1861; bu farw Brunel ym 1859 cyn i’r gwaith gael ei gwblhau. Yn y 19eg ganrif, roedd y doc yn cynnwys basn llanw allanol (Eitem A) sy’n arwain at ddoc nofiol mewnol (Eitem C). Cyrchwyd y basn llanw allanol o’r afon yn ei phen de-orllewinol, gyda phâr o lanfeydd allanol yn amddiffyn y fynedfa. Cyrchwyd y doc nofiol mewnol o ben gogledd-ddwyreiniol y basn llanw allanol, trwy lifddor hydrolig (Eitem B) ar wal o waith maen rhwng dau gei. Roedd yr adeilad cronni dŵr (Eitem D) a oedd yn pweru’r llifddor wedi’i leoli i’r de-ddwyrain ohoni. Roedd seidins rheilffordd yn rhedeg o boptu’r doc, i wasanaethu amrywiaeth o graeniau, glanfeydd a llwyfannau glo. Yn ôl cynllun 1882, roedd y doc nofiol yn mesur 512m wrth 131m a’i ffiniau rwbel slag yn cwmpasu ardal o 5.6 hectar. Roedd y basn llanw, eto gydag argloddiau rwbel slag, yn cwmpasu arwynebedd o 4 hectar . Adeiladwyd waliau’r doc rhwng y doc nofiol a’r basn llanw o dywodfaen llanw wedi’i dorri gyda meini copa nadd mawr. Roedd cei mawr sgwâr ar yr ochr orllewinol, yn mesur 80m wrth 70m, o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin. Roedd y cei gyferbyn yn gulach, yn mesur 48m wrth 16m, o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain. Mae mapiau hanesyddol yn dangos swyddfa, offer signal, seidins rheilffordd, winshis, pyst angori, llwyfannau a chraeniau ar ochrau’r cei a’r doc. Roedd dyluniad arloesol i’r llifddor haearn gyr hynawf, a oedd yn mesur 17m o hyd a 9.6m o uchder. Gellid ei hagor ar benllanw a’i throi o’r ffordd i gilfach bwrpasol. Roedd yr adeilad cronni dŵr yn darparu pŵer hydrolig i weithio’r llifddor, ac roedd yn cynnwys tŵr sgwâr tri llawr gyda tho o gerrig llanw. Roedd drws ar lawr gwaelod yr ochr ddwyreiniol, a ffenestri ar lawr cyntaf yr ochrau dwyreiniol a gorllewinol. Mae’r adeilad cronni dŵr wedi goroesi, fel adfail gyda tho. Adeiladwyd y lanfa ogleddol o dywodfaen haenog gyda meini nadd copa mawr, gyda bastiwn crwn ehangach ar y pen. Adeiladwyd y lanfa gyfatebol ar yr ochr ddeheuol o fframwaith pren wedi’i lenwi â rwbel slag. Caewyd y doc ym 1959 ac mae’n goroesi fel y disgrifir uchod, heblaw bod rhan ogleddol y doc nofiol wedi’i llenwi i gynnal sylfeini traphontydd yr A48 a’r M4 uwchlaw’r safle. Gwaredwyd y swyddfa, seidins rheilffordd, y craeniau, y llwyfannau a’r offer signal, er y gallai ei sylfeini fod wedi goroesi. Dim ond rhan isaf y llifddor sydd wedi goroesi. Mae’r lanfa ddeheuol yn adfeilion, ond mewn cyflwr digon da i wneud synnwyr o’r cynllun gwreiddiol. Mae Doc Llansawel o bwysigrwydd cenedlaethol am ei botensial i ehangu ein gwybodaeth am economi a thrafnidiaeth forol yn yr oes ddiwydiannol a’r oes fodern. Mae potensial archaeolegol sylweddol i’r heneb o hyd, gyda thebygolrwydd cryf bod nodweddion ac adneuon archaeolegol cysylltiedig yn bresennol, yn enwedig yn y mwd sydd wedi cronni yn y doc nofiol a’r basn llanw. Mae arwyddocâd mwy fyth i’r heneb yn sgil y cysylltiad ag Isambard Kingdom Brunel, cymeriad hanesyddol allweddol ymhlith grŵp elitaidd o beirianwyr a dyfeiswyr a roddodd hwb i dwf diwydiannol Prydain yn ystod y 19eg ganrif. Mae’r heneb yn nodedig oherwydd y defnydd arloesol o siambrau hydrolig hynawf yn ei lifddor. Mae gwerth grŵp pwysig i’r elfennau sydd wedi goroesi, a hynny’n cael ei ategu gan ddogfennau a chynlluniau sydd wedi goroesi. Mae’r heneb yn rhannu gwerth grŵp ag Inclein Rheilffordd Ynysmaerdy (GM489), un arall o ddyluniadau Brunel, a oedd yn cysylltu’r doc â glofeydd pen uchaf Cwm Afan. Doc Llansawel yw’r unig enghraifft yng Nghymru o ddoc wedi’i ddylunio gan Brunel, ac un o nifer fach ym Mhrydain. Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys yr olion a ddisgrifir ac ardaloedd o’u cwmpas lle y gellid disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig fod wedi goroesi. Wedi’i rhestru’n wreiddiol ym 1991 fel Mynedfa Doc Llansawel, mae’r ardal gofrestredig wedi’i hymestyn i gwmpasu rhan agored y doc nofiol, ochrau’r cei, y basn llanw cyfan a’r glanfeydd, a oedd i gyd yn rhan o ddyluniad gwreiddiol Brunel. O ganlyniad, newidiwyd enw’r heneb gofrestredig i Weddillion Doc Brwnel, Llansawel. Mae’r ardal gofrestredig ar ffurf polygon afreolaidd gyda chanolbwynt yn OS NGR 273551 193582 ac yn mesur 650m wrth 160m ar draws o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio