Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn
Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig
Enw
Safle Llongddrylliad yr Ann Francis
Statws
Amddiffyniad Dros dro
Awdurdod Unedol
Castell-nedd Port Talbot
Dosbarthiad bras
Masnachol
Math o Safle
Longddrylliad
Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae'r heneb yn cynnwys lleoliad y llongddrylliad ac olion llong o'r cyfnod Tuduraidd, o'r enw yr Ann Francis. Mae ffynonellau hanesyddol cyfoes yn dweud bod y llong oedd oddeutu 80 tunnell yn eiddo i Francis Shaxton, masnachwr o King's Lynn yn Norfolk, a adawodd i hwylio i Sbaen ar 2 Hydref 1583 yn cario 50 tunnell o wenith. Roedd ffynonellau hanesyddol pellach yn cofnodi canlyniad y llongddrylliad ar y daith yn ôl yn aber Afon Afan, Traeth Margam ar 28 Rhagfyr 1583, gan enwi George Williams (asiant ar gyfer ail Iarll Penfro) ac Anthony Mansel (brawd Syr Edward Mansel o Fargam) fel y bobl gyntaf ag awdurdod i fynd i weld y llongddrylliad. Roedd rhestr o ddeunyddiau a achubwyd yn cynnwys rigin y llong, ordnans, cyflenwadau, eiddo personol a sbeisys. Mae angor o'r llong wedi'i chadw yn y fan a'r lle ar y distyll. Mae arteffactau eraill o'r llong, sy'n cynnwys darnau arian, eiddo personol ac eitemau o offer y llong wedi eu canfod ar y blaendraeth. Mae'r llongddrylliad yn un o ddau longddrylliad ar bymtheg ar Draeth Margam a Chynffig y mae cofnod ohonynt.
Mae'r heneb o bwys cenedlaethol oherwydd ei photensial i wella ein gwybodaeth am fasnach, llongau, adeiladu llongau a datblygiadau technolegol yng nghyfnod y Tuduriaid. Safle'r llongddrylliad yw'r unig leoliad sydd wedi'i gadarnhau o long o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth I yng Nghymru ac mae'n hynod brin yng nghyd-destun Tuduraidd ehangach y Deyrnas Unedig. Adeiladwyd y llong ar adeg pan oedd arferion adeiladu llongau masnach mwy oedd yn mynd i'r môr yn mynd trwy newid technolegol sylweddol o adeiladwaith clincer i adeiladwaith carfel, a gallai gweddillion y llong hon gynnig gwybodaeth bwysig am y broses hon. Mae dogfennau hanesyddol sydd wedi goroesi yn rhoi tystiolaeth ynghylch mordaith olaf y llong i Sbaen ac yn ôl ac yn disgrifio'r gwaith adfer wedi'r dryllio ac achos cyfreithiol. Mae arteffactau sydd wedi'u cadw'n dda ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol wedi'u canfod ar safle'r llongddrylliad ac maent o gryn werth archaeolegol. Mae gan yr heneb botensial archaeolegol sylweddol o hyd, gyda thebygolrwydd cryf o arteffactau pellach a chryn botensial ar gyfer gweddillion archaeolegol cysylltiedig o gorff y llong a chynnwys arall, sy'n ymwneud â gweithrediad y llong a'i chronoleg, technegau adeiladu a manylion pensaernïol morwrol.
Mae'r ardal restredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifir ac ardaloedd o'u cwmpas lle y gellid disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig oroesi. Mae ardal 'A' ar siâp cylch. Mae'n mesur 600m mewn diamedr ac mae ei chanol ar OS NGR 276253 186104. Mae coridor gwasanaeth 10m diamedr uwchben y Long Sea Outfall Pipe i'r de o Ardal A wedi'i eithrio. Mae ardal 'B' yn hirsgwar. Mae ei chanol ar OS NGR SS 76616 85600 ac mae'n mesur 300m o hyd o'r dwyrain gogledd ddwyrain i'r gorllewin de orllewin a 230m ar draws.
Mae'r heneb hon yn destun Gwarchodaeth Interim o Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae'n drosedd difrodi'r heneb hon a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen hysbysiadau statudol ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y heneb hon, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.
Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]