Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
DE313
Enw
Llong ddrylliedig City of Ottawa, Harbwr y Rhyl  
Dyddiad Dynodi
 
Statws
Amddiffyniad Dros dro  

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Ddinbych  
Cymuned
Rhyl  
Dwyreiniad
 
Gogleddiad
 

Dosbarthiad bras
Arforol  
Math o Safle
Longddrylliad  
Cyfnod
Fictoraidd  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae'r heneb yn cynnwys llongddrylliad City of Ottawa sy'n gorwedd ar flaendraeth rhynglanwol ddwyreiniol Harbwr y Foryd, y Rhyl ger wal yr harbwr rhwng pont droed Pont y Ddraig a phont ffordd yr A548. Llong fasnachol bren, o faint canolig, tri mast, â rigin llawn oedd y City of Ottawa. Adeiladwyd y llong yn Québec, Canada ym 1860 gan Jean Elie Gingras. Roedd yn pwyso 884 tunnell, tua 52m o hyd, 10m o led a 6.5m o ddyfnder. Cafodd ei hadeiladu â phren llarwydden America gyda'r prif gilbren, y celsan, y blaen a’r starn o dderw a'r estyll allanol yn gymysgedd o lwyfen, llarwydd a phinwydd. Fe'i gwerthwyd i fflyd llynges fasnachol Prydain ac mae cofnodion dogfennol yn dangos bod oes gwaith y llong rhwng 1860 a 1890 ac iddi hwylio’n fyd-eang, gan ymweld â phorthladdoedd Prydain, Ffrainc, yr Eidal, Canada, UDA, Brasil, Yemen, Sri Lanka, India, Myanmar, Panama ac Awstralia. Roedd llawer o'r mordeithiau yn cynnwys allforio glo o borthladdoedd Caerdydd, Abertawe a Greenock yn yr Alban, yn enwedig i howldiau glo ar gyfer agerlongau yn Cape Verde, Aden, Rio de Janeiro a Phanama, a mewnforio pren, yn enwedig o Québec. Gosodwyd rigin stŵr arni ym 1874. Ar 20 Gorffennaf 1890, gadawodd y llong am Québec ar ôl llwytho glo yng Nghaerdydd. Hwyliodd cyn belled ag Aberdaugleddau, yna cafodd ei hangori yn Hazelbeach ger Neyland, Sir Benfro, cyn cael ei gwerthu i'r Swyddfa Ryfel am £300 ym mis Ionawr 1896 i'w defnyddio fel storfa. Fe'i gwaredwyd ym 1906, ac fe'i gwerthwyd i Robert Jones and Co. o'r Rhyl i'w thorri'n ddarnau mân, a chyrhaeddodd ei lleoliad presennol yn Harbwr y Rhyl. Mae tystiolaeth ffotograffig o 2013 yn dangos bod o leiaf 90% o gorff isaf y llong yn un darn, gan gynnwys y fframiau, yr ategion haearn a'r nodweddion adeiladu cysylltiedig, tra bod y cilbren a'r celsan wedi'u claddu. Roedd arolwg ffotogrametreg o'r llongddrylliad a gynhaliwyd yn 2023 yn dangos bod fframiau corff y llong yn codi hyd at 0.8m uwchben y gwaddodion, gyda gweddill y llong ddrylliedig wedi'i gladdu o dan waddodion. Mae'n heneb o bwys cenedlaethol am ei photensial i wella ein gwybodaeth am bensaernïaeth llongau llynges a masnach y byd o ganol i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn enwedig am dwf diwydiant allforio glo De Cymru. Mae mewn cyflwr da ac yn grair pwysig o systemau masnach byd-eang ac o symud defnyddiau swmp dros bellteroedd maith. Mae'r llong yn enghraifft adnabyddadwy brin o'r math yma o long mewn cyd-destun Cymreig. Mae'r City of Ottawa yn enghraifft dda o arferiad masnachwyr Prydeinig o gyrchu llongau hwylio wedi'u hadeiladu o bren Gogledd America pan oedd cynhyrchiant domestig yn pontio i longau â chorff haearn wedi'u pweru gan stêm. Mae gan y llong werth ar y cyd â llongddrylliad cofrestredig y Louisa (GM553) ym Mae Caerdydd: y ddwy yn enghreifftiau da o grŵp o longau a adeiladwyd yng Ngogledd America/Canada, oedd ar waith yng Nghymru ac a ddaeth i ddiwedd eu taith yng Nghymru, gan ddod yn rhan o gofnodion archeolegol Cymru. Mae ganddi botensial archeolegol sylweddol, gyda thebygolrwydd cryf o bresenoldeb nodweddion archeolegol a dyddodion cysylltiedig. Mae'r ffaith fod dogfennau cyfoes wedi goroesi, sy'n cofnodi hanes adeiladu, gweithredu, a nwyddau cargo a gwerthiant y llong, yn ategu pwysigrwydd yr heneb ymhellach. Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys yr olion a ddisgrifir ac arwynebedd o’u cwmpas lle y gellid disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig fod wedi goroesi. Mae'r ardal gofrestredig o siâp petryal ac wedi'i chanoli ar 299595 380725 OS NGR ac mae'n mesur 70m Gog-Gog-Ddw gan DdeDeOrll wrth 25m ardraws. Mae'r heneb hon yn destun Gwarchodaeth Interim o Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae'n drosedd difrodi'r heneb hon a gallwch gael eich erlyn. I gael rhagor o wybodaeth am Warchodaeth Interim, ewch i'r dudalen hysbysiadau statudol ar wefan Cadw. I gael rhagor o wybodaeth am y heneb hon, neu i roi gwybod am unrhyw ddifrod, cysylltwch â Cadw.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio