Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r heneb yn cynnwys olion llong bren gymharol fach o ddiwedd y cyfnod Tuduraidd/cyfnod Stiwartaidd cynnar, o hunaniaeth anhysbys, wedi’i lleoli mewn dŵr bas ar flaendraeth gwastad yr ardal rhynglanwol yn Wdig, oddi mewn i Harbwr Abergwaun. Mae ei maint bach yn awgrymu ei bod ynghlwm wrth fasnachu arfordirol a/neu fasnachu ar draws Môr Iwerddon. Nodwyd olion y llong am y tro cyntaf yn 2012, ac mae wedi bod yn destun arolygon sonar morol sganio o’r ochr ac arolygon proffil is-waelod yn 2012, ffotogrametreg yn 2022 ac arolwg archwilio ac arolwg magnetometreg yn 2023. Datgelodd yr ymchwiliadau fod safle’r llongddrylliad yn mesur oddeutu 14.3m o hyd (dwyrain-gorllewin) sy’n cynnwys un ochr amlwg o gorff y llong, 13m o hyd a 4-5m o led, sy’n cynnwys coed ffrâm y corff, planciau allanol ar ddull carfel (wedi’u gosod ymyl wrth ymyl), planciau nenfwd, trawstiau croes, distiau bwrdd ac offer. Y dehongliad yw ei bod yn gorwedd ar ogwydd ar ei hochr. Mae’r ochr ogleddol ar ffurf cromlin, gyda thalcenni’r ffrâm bren yn amlwg, ynghyd â phlanciau allanol a phlanciau nenfwd. I’r de o hynny, mae rhes o drawstiau croes diraddiedig, sy’n cynnwys dau drawst gydag arwyneb 140-150mm2 a naw trawst llai. Mae presenoldeb ymyl planc ac ysgwydd groes debygol yn awgrymu goroesiad y bwrdd gwreiddiol a gorddrws cargo, yn y drefn honno. Mae pen gorllewinol corff y llong yn gyflawn, ond nid yw’n sicr ai’r trwyn neu’r cefn sydd yma. Mae archwilio wedi awgrymu bod y llong ddrylliedig yn goroesi o leiaf 1.25m islaw’r gwaddod gyda strwythurau pren sylweddol o dan y lefel honno. Dangosodd yr arolwg magnetometreg bresenoldeb gweddillion claddedig i ochr ogledd-orllewinol ac ochr ddeheuol y llong ddrylliedig. Nododd dadansoddiad dyddio isotopau ocsigen yn 2025 fod dyddiad cwympo’r rhiant-goeden rhwng 1588 a 1624, ac mae’r arfer cydnabyddedig o adeiladu llongau gyda derw ‘gwyrdd’ yn dangos i’r llong cael ei hadeiladu a’i hwylio yn ystod y cyfnod yma, neu’n fuan wedyn. Adeiladwyd y llong o bren derw, onnen a phîn.
Mae’r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol ar sail ei photensial i wella ein gwybodaeth am fasnach, llongau ac adeiladu llongau yn y cyfnod Tuduraidd/Stiwartaidd, ynghyd â datblygiad technolegol llongau rhanbarthol i fasnachu ar hyd yr arfordir ac ar draws Môr Iwerddon. Mae safle’r llongddrylliad yn arwyddocaol fel enghraifft brin o long fach o adeiladwaith carfel o ddiwedd yr 16eg ganrif/dechrau’r 17eg ganrif. Dyma’r unig enghraifft hysbys o long o’r adeiladwaith a’r maint hwn yng nghofnod archaeolegol Cymru, ac mae’n hynod brin yng nghyd-destun ehangach y DU. Adeiladwyd y llong ar adeg pan oedd arferion adeiladu llongau cefnforol yn profi newid technolegol sylweddol, o adeiladwaith clincer i adeiladwaith carfel, a gallai olion y llong hon ddarparu gwybodaeth bwysig am y broses hon. Mae’r safle wedi’i gofnodi drwy gyfres o ymchwiliadau archaeolegol.
Mae gan yr heneb botensial archaeolegol sylweddol, gyda thebygolrwydd cryf o dystiolaeth arteffactau pellach a photensial sylweddol o ran olion archaeolegol cysylltiedig corff y llong a chynnwys arall, yn ymwneud â gweithrediad y llong a’i chronoleg, technegau adeiladu a manylion pensaernïol morol.
Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys yr olion a ddisgrifir ac ardal o’u cwmpas lle y gellid disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig fod wedi goroesi. Mae’n grwn o ran siâp, yn mesur 40m o ran diamedr ac wedi’i ganoli ar OS NGR 194895 / 238100 (52.0033637°, -4.9895696°).