Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn
Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig
Enw
Carnedd Gron a Gwrthgloddiau Pant Sychbant
Dyddiad Dynodi
25/04/2002
Awdurdod Unedol
Rhondda Cynon Taf
Dosbarthiad bras
Crefyddol, Defodol ac Angladdol
Math o Safle
Carnedd Gron
Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae'r canlynol yn darparu disgrifiad cyffredinol o'r Heneb Gofrestredig.
Mae'r heneb yn cynnwys olion carnedd gladdu, sy'n dyddio o'r Oes Efydd (c 2300 - 800 CC) yn ôl pob tebyg. Mae'n mesur tua 12m mewn diamedr ac mae'n 1.5m o uchder. Mae'r garnedd wedi'i lleoli ar lethrau isaf, deheuol Cwm Cadlan.
Mae'r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol ar sail ei photensial i wella ein gwybodaeth am gladdu cynhanesyddol ac arferion defodol. Mae'n grair pwysig o dirwedd angladdol a defodol cynhanesyddol ac mae'n gwarchod potensial archaeolegol sylweddol, gyda thebygolrwydd cryf o bresenoldeb dyddodion claddu neu ddefodol, ynghyd â thystiolaeth amgylcheddol a strwythurol. Mae'r garnedd yn rhannu gwerth grŵp gyda chlwstwr helaeth ac amrywiol o garneddau crwn cynhanesyddol ac olion aneddiadau wedi'u gwasgaru ar hyd yr un dyffryn ac ar draws cribau cyfagos.
Mae'r ardal gofrestredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifir a'r ardaloedd o'u cwmpas lle y gellir disgwyl bod tystiolaeth gysylltiedig wedi goroesi. Wedi'i dynodi'n wreiddiol fel Carnedd Gron a Gwrthgloddiau Pant Sychbant, nid oes digon o dystiolaeth bellach ar gyfer y gwrthgloddiau i’r Dwyrain-Gogledd-Ddwyrain ac mae'r ardal gofrestredig wedi'i diwygio i'w heithrio.
Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]