Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
MG232
Enw
Bryngaer Ffridd Mathrafal  
Dyddiad Dynodi
25/01/1996  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Powys  
Cymuned
Llangyniew  
Dwyreiniad
311899  
Gogleddiad
311431  

Dosbarthiad bras
Amddiffynnol  
Math o Safle
Bryngaer  
Cyfnod
Cynhanesyddol  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae'r heneb, a elwir yn Ffridd Mathrafal, yn cynnwys gweddillion lloc amddiffynnol amlgloddiog sy'n perthyn yn ôl pob tebyg i gyfnod yr Oes Haearn (tua 800 CC - 74 OC, concwest Rufeinig Cymru). Fe'i lleolir mewn safle amddiffynnol ar bentir sy'n edrych dros Afon Efyrnwy. Mae'n cynnwys gwrthglawdd hirgrwn sy'n 155m o hyd Dwy-Gor ac yn 95m o led Gog-De sydd wedi’i ddiffinio gan gyfres o ragfuriau. Ar y pen dwyreiniol mae lloc hirgrwn sy'n mesur 60m o hyd Dwy-Gor ac yn 35m o led Gog-De, wedi ei ddiffinio gan un clawdd a ffos allanol. Ar yr ochrau gorllewinol a deheuol mae dwy set arall o ragfuriau sy'n amgáu rhannau ychwanegol o ben y bryn. Efallai bod y ddau ddarn byr o glawdd crwm a ffos ym mhen gorllewinol y gaer, y tu hwnt i brif gylchffordd y rhagfuriau, yn gysylltiedig â mynedfa gaerog. Mae'r tir llethrog serth yn darparu amddiffynfeydd naturiol ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer. Mae'r gwrthgloddiau amddiffynnol wedi'u diffinio'n glir a'u cadw'n dda, ac yn mesur tua 1-1.5m o uchder, gyda ffosydd allanol i'w gweld mewn mannau. Mae'r amddiffynfeydd wedi'u gorchuddio â choed tra bod y tu mewn cromennog, a oedd unwaith wedi’i orchuddia â choed, bellach wedi'i glirio ac fe'i defnyddir bellach fel tir pori garw. Mae'r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol ar sail ei photensial i wella ein gwybodaeth am aneddiadau a threfniadaeth amddiffynnol cynhanesyddol diweddarach. Mae'r safle'n elfen bwysig o fewn y cyd-destun cynhanesyddol diweddarach ehangach ac o fewn y dirwedd gyfagos. Mae'r safle yn heneb gwrthglawdd sydd wedi'i chadw'n dda ac mae ganddi botensial archaeolegol sylweddol. Mae tebygolrwydd cryf o bresenoldeb tystiolaeth gladdedig yn ymwneud â chronoleg, technegau adeiladu a manylion swyddogaethol, a all hefyd roi gwybodaeth i ni am y modd y cafodd y lloc amddiffynnol ei godi, ei ddefnyddio a'i adael. Mae'r ardal gofrestredig yn cynnwys yr olion a ddisgrifir ac ardaloedd o'u cwmpas y gellir disgwyl i dystiolaeth gysylltiedig fod wedi goroesi ynddynt. Fe'i dynodwyd gyntaf yn 1996, ac mae'r ardal gofrestredig wedi'i hadolygu'n gadarnhaol i gynnwys gwrthgloddiau amddiffynnol allanol ychwanegol a nodwyd trwy ddata LiDAR. Mae'r ardal gofrestredig ar ffurf polygon afreolaidd gyda’r canolbwynt yn OS NG SJ 11899 11419. Mae'n mesur 170m o hyd Dwy-Gor a 115m o led ardraws.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio