Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn


Disgrifiad Cryno o Heneb Gofrestredig


Rhif Cyfeirnod
MM189
Enw
Peirianwaith Haearn Garddyrys (safle o) a tramffordd cyfagos  
Dyddiad Dynodi
04/07/1977  
Statws
 

Lleoliad


Awdurdod Unedol
Sir Fynwy  
Cymuned
Llanfoist Fawr  
Dwyreiniad
325733  
Gogleddiad
211807  

Dosbarthiad bras
Diwydiannol  
Math o Safle
Gwaith haearn  
Cyfnod
Ôl-ganoloesol/Modern  

Disgrifiad


Disgrifiad Cryno a'r Rheswm dros Ddynodi
Mae’r canlynol yn rhoi disgrifiad cyffredinol o’r Heneb Gofrestredig. Mae’r heneb yn cynnwys efail haearn a rhan o dramffordd wedi’i lleoli 1200 troedfedd Uwch Datwm Ordnans (AOD) ar ochr Ogledd-orllewinol mynydd Blorens. Mae’r efail yn ffurfio rhan o’r cyfadeiladau o safleoedd diwydiannol cysylltiedig â Gwaith Haearn Blaenafon ac yno yr oedd yr haearn crai o ffwrneisi Blaenafon yn cael ei drawsnewid yn farrau haearn gyr neu gledrau. Ar ei hanterth, roedd yr efail yn cyflogi 450 o bobl ac yn cynhyrchu 200 tunnell o haearn gyr yr wythnos. Adeiladwyd yr efail yng Ngarnddyrys ym 1817 gan Gwmni Blaenafon ac roedd yn cynnwys cymhlethfa o ffwrneisi yn cael eu gyrru gan ager, ffwrneisi pwdlo a melinau rholio ynghyd â thŷ pwyso a thai i weithwyr. Roedd haearn crai yn cael ei gario o’r gwaith haearn ym Mlaenafon ar hyd Tramffordd Hill, rheilffordd gyntefig a adeiladwyd gan Thomas Hill yn y blynyddoedd wedi 1815. Roedd y dramffordd yn mynd trwy Dwnnel Pwll Du i Garnddyrys ac yna o gwmpas y Blorens i Lan-ffwyst. Roedd adeiladu’r rhan o’r dramffordd i’r De o gymhlethfa’r efail, gan gynnwys yr adran gofrestredig, yn golygu torri teras i mewn i’r llechwedd serth ac adeiladu wal gynhaliol sylweddol. Mewn mannau mae’r sliperi cerrig a fyddai wedi cadw’r cledrau yn eu lle yn dal i fod yn weladwy drwy’r tyweirch. Mae gweddillion adeilad o gerrig yn ymyl y dramffordd i’r De o’r efail a chredir mai siop y gof ydoedd. Mae’r dramffordd yn parhau i’r Gogledd trwy Garnddyrys, yn mynd i mewn i dwnnel cut-and-cover ar ben Gogleddol y pwll dŵr gwaelod. Mae hwn yn ymestyn am tua 150m ac fe’i hadeiladwyd i rwystro’r dramffordd rhag cael ei chladdu dan domenni o sbwriel o’r efail. Ar safle’r efail mae gweddillion dau bwll dŵr mawr, y pwll dŵr Gogleddol, yr uchaf, fyddai wedi cyflenwi dŵr i’r peiriannau ager a oedd yn gyrru’r ffwrneisi. Dŵr yn rhedeg oddi ar lechweddau’r Blorens uwchben fyddai’n bwydo’r pwll dŵr uchaf. Mae cofnodion yn dangos fod dwy injan stêm ar y safle, yn cyflenwi ffrwydradau i’r ffwrneisi. Gellir gweld yr allfa fwaog trwy ba un y cyflenwid dŵr i’r injans stêm tua phen uchaf y wal gynhaliol ar ochr Orllewinol y pwll dŵr uchaf. Islaw’r wal gynhaliol mae sylfeini adeiladau’r efail, gan gynnwys strwythur a elwir yn Dŷ’r Rheolwr a ddatgloddiwyd yn y 1970au. Mae i’r adeilad mawr hwn seler a dau le tân, ond o ystyried ei agosrwydd i’r efail go brin iddo fod â swyddogaeth ddomestig. Ar ben Gogleddol y safle, yn union i’r Gogledd o’r ffwrneisi, mae sylfeini bythynnod y gweithwyr. Maent yn ffurfio tair ochr i sgwâr, gyda’r ochrau Gogleddol a Deheuol yn haws i’w gweld. Ar ochr Orllewinol y safle mae tomen fawr a nodweddiadol o sbwriel ac mae ar y llechweddau Gorllewinol islaw’r efail lawer o glogfeini sbwriel i fyny at sawl metr ar draws. Daeth y gwaith cynhyrchu ar y safle i ben yn y 1860au, ac fe’i disodlwyd gan efail newydd yn Forgeside. Roedd wedi mynd yn aneconomaidd i gludo haearn crai i’r safle efail anghysbell ar ôl i’r rheilffordd ddod i Flaenafon a disodli’r gamlas fel prif ddull trafnidiaeth yn y 1850au. Mae’r gofeb o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd ei photensial i gynyddu ein gwybodaeth am waith haearn a gweithgareddau diwydiannol eraill yn y 19g. Mae gan y safle botensial archeolegol sylweddol o hyd, ac mae posibilrwydd cryf fod yno agweddau archeolegol a gwaddodion cysylltiedig. Gellir disgwyl i’r strwythur ei hun gynnwys gwybodaeth archeolegol ynghylch cronoleg a thechnegau adeiladu. Mae’r ardal gofrestredig yn cynnwys y gweddillion a ddisgrifiwyd ac ardaloedd o’u cwmpas lle y disgwylir i dystiolaeth gysylltiedig fod wedi goroesi.  

Cadw : Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn [ Cofnodion 1 of 1 ]




Allforio